Pepin Fychan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Awdurdod |
B 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
Gyda chydsyniad y [[Pab]], diorseddodd Pepin y brenin Childeric III, yr olaf o linach y [[Merofingiaid]], a chyhoeddodd ei hun yn frenin y Ffranciaid, y brenin [[Carolingiaid|Carolingaidd]] cyntaf. Gorchfygodd y [[Lombardiaid]] ac yn [[759]] cipiodd [[Narbonne]], gan yrru'r [[Saraseniaid]] o [[Gâl]]. Bu farw yn Saint Denis yn [[768]]. |

{{Rheoli awdurdod}} |
|||
[[Categori:Y Carolingiaid]] |
[[Categori:Y Carolingiaid]] |
||
Llinell 11: | Llinell 13: | ||
[[Categori:Hanes yr Almaen]] |
[[Categori:Hanes yr Almaen]] |
||
[[Categori:Pobl yr 8fed ganrif]] |
[[Categori:Pobl yr 8fed ganrif]] |
||
{{Authority control}} |
Fersiwn yn ôl 16:30, 26 Ebrill 2015
Roedd Pepin Fychan, weithiau Pepin III, hefyd Pippin, yn frenin y Ffranciaid o 751 hyd 768. Mae'n fwyaf adnabyddus fel tad Siarlymaen.
Ganed Pepin yn 714 yn Jupille, gerllaw Liège, yn fab i Siarl Martel a Rotrude o Treves). Roedd Siarl Martel wedi uno teyrnasoedd y Ffranciaid, ac fel Maer y Plas, ef oedd y gwir reolwr, nid y brenin. Ar farwolaeth Siarl Martel yn 741, rhannwyd ei diriogaethau rhwng ei ddau fab cyfreithlon; gyda Carloman yn rheoli fel Maer y Plas yn Neustria a Pepin fel Maer y Plas yn Austrasia. Yn 747 ymddiswyddodd Carloman ac aeth i fynachlog, gan adael Pepin yn unig reolwr.
Gyda chydsyniad y Pab, diorseddodd Pepin y brenin Childeric III, yr olaf o linach y Merofingiaid, a chyhoeddodd ei hun yn frenin y Ffranciaid, y brenin Carolingaidd cyntaf. Gorchfygodd y Lombardiaid ac yn 759 cipiodd Narbonne, gan yrru'r Saraseniaid o Gâl. Bu farw yn Saint Denis yn 768.