Nest ferch Rhys ap Tewdwr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Awdurdod |
|||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
==Ffuglen== |
==Ffuglen== |
||
Ysgrifenwyd dwy [[nofel]] ramantaidd am hanes Nest a'i bywyd anturiaethus gan [[Geraint Dyfnallt Owen]], sef ''Nest'' (1949) a ''Dyddiau'r Gofid'' (1950). |
Ysgrifenwyd dwy [[nofel]] ramantaidd am hanes Nest a'i bywyd anturiaethus gan [[Geraint Dyfnallt Owen]], sef ''Nest'' (1949) a ''Dyddiau'r Gofid'' (1950). |
||
{{Rheoli awdurdod}} |
|||
{{DEFAULTSORT:Nest ferch Rhys}} |
{{DEFAULTSORT:Nest ferch Rhys}} |
||
Llinell 16: | Llinell 18: | ||
[[Categori:Marwolaethau'r 12fed ganrif]] |
[[Categori:Marwolaethau'r 12fed ganrif]] |
||
[[Categori:Tywysogesau Deheubarth]] |
[[Categori:Tywysogesau Deheubarth]] |
||
{{Authority control}} |
Fersiwn yn ôl 11:18, 26 Ebrill 2015
Yr oedd y Dywysoges Nest yn ferch i Rhys ap Tewdwr, brenin olaf Deheubarth (fl. 1100-1120).
Adwaenir Nest fel Helen Cymru oherwydd iddi gael ei chipio gan Owain ap Cadwgan yn 1109, efallai yng nghastell Cilgerran. Roedd hi'n hardd eithriadol a chafodd garwriaethau niferus. Dywedir iddi esgor ar dros bymtheg o blant.
Tua'r flwyddyn 1100 priododd â Gerald de Windsor. Ymhlith ei phlant gan Gerallt o Windsor oedd ei ferch Angharad. Priododd Angharad â William de Barri, arglwydd Maenorbŷr; un o'i meibion oedd y llenor enwog Gerallt Gymro.
Cafodd fab gyda Harri I, brenin Lloegr, a gafodd yr enw Henry Fitz Roy. Lladdwyd ef pan oedd un un o arweinwyr y fyddin a ymosododd ar Ynys Môn yn 1157, yn ystod cyrch brenin Lloegr yn erbyn Owain Gwynedd. Cafodd Nest hefyd nifer o blant gan Stephen, cwnstabl castell Aberteifi, yn cynnwyd Robert Fitz-Stephen, arweinydd y fyddin Normanaidd gyntaf i groesi i Iwerddon i ddechrau'r goresgyniad Normanaidd yno.
Ffuglen
Ysgrifenwyd dwy nofel ramantaidd am hanes Nest a'i bywyd anturiaethus gan Geraint Dyfnallt Owen, sef Nest (1949) a Dyddiau'r Gofid (1950).