Selyf ap Cynan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Ffynhonnell: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
Llinell 11: Llinell 11:
==Ffynhonnell==
==Ffynhonnell==
*Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, arg. newydd, 1991)
*Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, arg. newydd, 1991)

{{Rheoli awdurdod}}


[[Categori:Cymry'r 6ed ganrif]]
[[Categori:Cymry'r 6ed ganrif]]
Llinell 16: Llinell 18:
[[Categori:Marwolaethau'r 610au]]
[[Categori:Marwolaethau'r 610au]]
[[Categori:Teyrnoedd Powys]]
[[Categori:Teyrnoedd Powys]]

{{Authority control}}

Fersiwn yn ôl 11:18, 26 Ebrill 2015

Yr oedd Selyf ap Cynan neu Selyf ap Cynan Garwyn (m. tua 615), yn dywysog o'r hen Bowys. Roedd yn fab i'r brenin Cynan Garwyn, gwrthrych un o'r cerddi cynharaf yn yr iaith Gymraeg, sef 'Trawsganu Cynan Garwyn,' gwaith y bardd Taliesin. Ei daid oedd Brochfael Ysgithrog, brenin Powys ganol y 6ed ganrif. Cyfeirir at Selyf weithiau fel 'Selyf Sarffgadau'. Daeth ei fab, Manwgan ap Selyf, yn frenin Powys.

Yr adeg honno yr oedd ffiniau Powys yn ymestyn i'r dwyrain, dros Glawdd Offa heddiw, ac yn cynnwys rhannau sylweddol o'r Gororau. Cafodd Selyf ei anfon gan ei dad (mae modd darllen rhai ffynonellau i olygu fod Cynan yn farw a'i fab yn teyrnasu) i geisio amddiffyn Powys rhag yr Eingl-Sacsoniaid. Ymunodd Selyf â'i ryfelwyr â llu y Brythoniaid a syrthiodd ym Mrwydr Caer (615 neu 616) (ceir y cofnod yn yr Annales Cambriae). Mae'n bosibl fod Selyf yn arweinydd lluoedd y Brythoniaid yn y frwydr dynghedfennol honno, a dorrodd y cysylltiad rhwng teyrnasoedd Cymru a'r Hen Ogledd.

Cyfeirir at Arofan fel "bardd Selyf ap Cynan" yn Nhrioedd Ynys Prydain. Mewn triawd arall, mae'n un o 'Dri Aerfeddawg (arweinwyr rhyfel) Ynys Prydain', gyda Urien fab Cynfarch (Urien Rheged) ac Afaon fab Taliesin. Mewn amrywiad ar un o'r Trioedd a geir yn Llyfr Du Caerfyrddin, enwir march Selyf fel Du Hir Derwenydd, sy'n un o 'Dri Thom Edystr Ynys Prydain' (Tri Phynfarch...).

Ceir cyfeiriad ato yn y chwedl Breuddwyd Rhonabwy hefyd, fel un o farchogion Arthur (does dim sail hanesyddol i'r cyplysiad hwnnw).

Parhaodd bri Selyf hyd yr Oesoedd Canol. Cyfeiria'r bardd Cynddelw Brydydd Mawr at ryfelwyr Powys fel "cenawon Selyf."

Ffynhonnell

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, arg. newydd, 1991)