Edwin ap Hywel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
B →‎Cyfeiriadau: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
Llinell 14: Llinell 14:
{{bocs olyniaeth | cyn = [[Hywel Dda]] | teitl = [[Teyrnoedd Deheubarth|Brenin Deheubarth]] | blynyddoedd = [[950]] – [[954]]<br>gyda [[Rhodri ap Hywel]] (hyd 953)<br>ac [[Owain ap Hywel]] | ar ôl = [[Owain ap Hywel]]}}
{{bocs olyniaeth | cyn = [[Hywel Dda]] | teitl = [[Teyrnoedd Deheubarth|Brenin Deheubarth]] | blynyddoedd = [[950]] – [[954]]<br>gyda [[Rhodri ap Hywel]] (hyd 953)<br>ac [[Owain ap Hywel]] | ar ôl = [[Owain ap Hywel]]}}
{{diwedd-bocs}}
{{diwedd-bocs}}

{{Rheoli awdurdod}}


{{DEFAULTSORT:Edwin ap Hywel}}
{{DEFAULTSORT:Edwin ap Hywel}}
Llinell 19: Llinell 21:
[[Categori:Marwolaethau 954]]
[[Categori:Marwolaethau 954]]
[[Categori:Teyrnoedd Deheubarth]]
[[Categori:Teyrnoedd Deheubarth]]

{{Authority control}}

Fersiwn yn ôl 11:14, 26 Ebrill 2015

Cyd-frenin Deheubarth oedd Edwin ap Hywel (bu farw 954).[1]

Bywgraffiad

Roedd Rhodri yn fab i Hywel Dda, ac efallai fod y ffaith i Edwin gael enw Eingl-Sacsoneg yn adlewyrchiad o bolisi gwleidyddol ei dad. Ar farwolaeth Hywel yn 950, rhannwyd ei deyrnas rhwng Edwin a'i ddau frawd, Rhodri ac Owain. Ni lwyddodd y llinach i gadw eu gafael ar Wynedd oedd wedi bod yn rhan o deyrnas eu tad ers 942. Gallodd meibion Idwal Foel, Iago ab Idwal ac Ieuaf ab Idwal, gipio grym yno.[2]

Yn 952 ymosododd Iago ac Ieuaf ar Ddeheubarth, gan gyrraedd cyn belled a Dyfed. Y flwyddyn wedyn, arweiniodd meibion Hywel gyrch yn erbyn y gogledd, gan gyrraedd cyn belled a Dyffryn Conwy cyn cael eu gorchfygu mewn brwydr ger Llanrwst a'u gorfodi i ddychwelyd i Geredigion.[2]

Bu farw Rhodri yn 953 ac yna Edwin ei hun yn 954, gan adael Owain ap Hywel yn frenin Deheubarth.[2]

Cyfeiriadau

  1. John Davies (2007) Hanes Cymru (Penguin).
  2. 2.0 2.1 2.2 John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).
Rhagflaenydd:
Hywel Dda
Brenin Deheubarth
950954
gyda Rhodri ap Hywel (hyd 953)
ac Owain ap Hywel
Olynydd:
Owain ap Hywel