Griffith John Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Llyfryddiaeth ddethol: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
Llinell 16: Llinell 16:


Ar fywyd a gwaith G. J. Williams, gw. yr erthyglau gan Aneirin Lewis yn ''Dysg a Dawn: Cyfrol Goffa Aneirin Lewis'', gol. W. Alun Mathias ac E. Wyn James ([[Cylch Llyfryddol Caerdydd]], 1992) a Ceri W. Lewis, ''Griffith John Williams (1992-1963): Y Dyn a'i Waith'' (Darlith Lenyddol Eisteddfod Genedlaethol Nedd a'r Cyffiniau, 1994).
Ar fywyd a gwaith G. J. Williams, gw. yr erthyglau gan Aneirin Lewis yn ''Dysg a Dawn: Cyfrol Goffa Aneirin Lewis'', gol. W. Alun Mathias ac E. Wyn James ([[Cylch Llyfryddol Caerdydd]], 1992) a Ceri W. Lewis, ''Griffith John Williams (1992-1963): Y Dyn a'i Waith'' (Darlith Lenyddol Eisteddfod Genedlaethol Nedd a'r Cyffiniau, 1994).

{{Rheoli awdurdod}}


{{DEFAULTSORT:Williams, Griffith John}}
{{DEFAULTSORT:Williams, Griffith John}}
Llinell 23: Llinell 25:
[[Categori:Genedigaethau 1892]]
[[Categori:Genedigaethau 1892]]
[[Categori:Marwolaethau 1963]]
[[Categori:Marwolaethau 1963]]

{{Authority control}}

Fersiwn yn ôl 10:57, 26 Ebrill 2015

Hanesydd llenyddiaeth Gymraeg ac ysgolhaig amryddawn oedd Griffith John Williams (1892-1963), a gyhoeddai gan amlaf wrth yr enw G. J. Williams. Ym marn Syr Thomas Parry, 'ef oedd yr ysgolhaig Cymraeg mwyaf a welodd Cymru erioed' (Y Faner, 29 Chwefror 1980).

Roedd yn frodor o Gellan, Ceredigion. Astudiodd am ei radd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Ar ôl treulio cyfnod yn athro ysgol yn y Porth,Rhondda a Dolgellau, daeth yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd ac yn nes ymlaen olynodd W. J. Gruffydd yn y Gadair Gymraeg.

Cofir G. J. Williams yn bennaf am ei ymchwil i hanes llenyddiaeth Gymraeg ym Morgannwg ac yn enwedig gwaith Iolo Morganwg. Er bod rhai ysgolheigion wedi amau dilysrwydd rhai o'r gweithiau canoloesol honedig sydd i'w cael yn llyfrau Iolo, e.e. "cywyddau'r ychwanegiad" Dafydd ap Gwilym, G. J. Williams oedd y cyntaf i brofi yn derfynol mai ffugiadau llenyddol ydynt. Datgelodd hefyd mai ffugiadau yw trwch y trioedd yn nhraddodiad Trioedd Ynys Prydain a thestunau eraill gan Iolo a gyhoeddwyd yn y Myvyrian Archaiology of Wales. Roedd y gweithiau hyn wedi camarwain haneswyr llenyddiaeth Gymraeg am flynyddoedd lawer a bu astudiaethau G. J. Williams yn gymorth mawr i sefydlu seiliau cadarn i ysgolheictod llenyddol yng Nghymru.

Ymddiddorai G. J. Williams yng ngwaith y Dyneiddwyr Cymreig hefyd. Cyhoeddodd olygiad safonol o lyfr gramadeg Gruffydd Robert sy'n cynnwys traethawd hir ar yr awdur. Nid llai fu ei gyfraniad i'n dealltwriaeth o'r traddodiad barddol chwaith, diolch i'w gyfrol fawr Gramadegau'r Penceirddiaid a nifer o erthyglau dysgedig.

Llyfryddiaeth ddethol

Ar fywyd a gwaith G. J. Williams, gw. yr erthyglau gan Aneirin Lewis yn Dysg a Dawn: Cyfrol Goffa Aneirin Lewis, gol. W. Alun Mathias ac E. Wyn James (Cylch Llyfryddol Caerdydd, 1992) a Ceri W. Lewis, Griffith John Williams (1992-1963): Y Dyn a'i Waith (Darlith Lenyddol Eisteddfod Genedlaethol Nedd a'r Cyffiniau, 1994).