Thelonious Monk: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
B →Dolenni allanol: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB |
||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
{{comin|Category:Thelonious Monk|Thelonious Monk}} |
{{comin|Category:Thelonious Monk|Thelonious Monk}} |
||
* {{eicon en}} [http://www.allmusic.com/artist/thelonious-monk-mn0000490416 Thelonious Monk] ar wefan [[AllMusic]] |
* {{eicon en}} [http://www.allmusic.com/artist/thelonious-monk-mn0000490416 Thelonious Monk] ar wefan [[AllMusic]] |
||
{{Rheoli awdurdod}} |
|||
{{DEFAULTSORT:Monk, Thelonious}} |
{{DEFAULTSORT:Monk, Thelonious}} |
||
Llinell 25: | Llinell 27: | ||
[[Categori:Pobl o Ogledd Carolina]] |
[[Categori:Pobl o Ogledd Carolina]] |
||
[[Categori:Pobl o Manhattan]] |
[[Categori:Pobl o Manhattan]] |
||
{{Authority control}} |
Fersiwn yn ôl 10:18, 26 Ebrill 2015
Pianydd a chyfansoddwr jazz Americanaidd oedd Thelonious Sphere Monk (10 Hydref 1917 – 17 Chwefror 1982).
Ganwyd yn Rocky Mount, Gogledd Carolina, a symudodd i Manhattan, Dinas Efrog Newydd, yn 4 oed a bu'n byw yno am weddill ei fywyd. Yn y 1930au a'r 1940au canodd biano yn Minton's Playhouse yn Harlem, ac yno cafodd ddylanwad ar gerddorion a ddatblygodd yr arddull bebop.[1]
Ym 1951 treuliodd 60 niwrnod mewn carchar am feddu ar gyffuriau, er y mae'n debyg yr oedd yn ddieuog. O ganlyniad collodd ei Gerdyn Cabaret a chafodd effaith drom ar ei yrfa. Ym 1957, gyda chymorth Pannonica de Koenigswarter, ad-enillodd ei gerdyn gan ei alluogi i berfformio yng nghlwb y Five Spot. Yn y 1960au perfformiodd mewn pedwarawd gyda Charlie Rouse mewn clybiau, cyngherddau a gwyliau cerddorol ar draws y byd. Perfformiodd yn llai aml yn y 1970au oherwydd salwch. Bu farw yn 64 oed ar ôl cael strôc.[1]
Cafodd Monk ddylanwad sylweddol ar jazz modern, yn enwedig ar waith George Russell, Randy Weston, a Cecil Taylor. Ym 1997 canfuwyd 4000 o oriau o recordiadau gan Monk a cherddorion jazz eraill megis Charles Mingus a Sonny Rollins.[2]
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Wilson, John S. (18 Chwefror 1982). Thelonious Monk, Created Wry Jazz Melodies and New Harmonies. The New York Times. Adalwyd ar 17 Medi 2014.
- ↑ (Saesneg) Thelonious Monk. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Medi 2014.
Dolenni allanol
- (Saesneg) Thelonious Monk ar wefan AllMusic