Thomas Telford: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Awdurdod |
B 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB |
||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
Bu farw Telford yn [[1834]] a chafodd ei gladdu yn [[Abaty San Steffan]]. |
Bu farw Telford yn [[1834]] a chafodd ei gladdu yn [[Abaty San Steffan]]. |
||
{{Rheoli awdurdod}} |
|||
{{DEFAULTSORT:Telford, Thomas}} |
{{DEFAULTSORT:Telford, Thomas}} |
||
Llinell 18: | Llinell 20: | ||
{{eginyn Albanwr}} |
{{eginyn Albanwr}} |
||
{{Authority control}} |
Fersiwn yn ôl 09:15, 26 Ebrill 2015
Peirianydd o'r Alban oedd Thomas Telford (9 Awst, 1757 - 2 Medi, 1834), a anwyd yn Eskdale.
Yn ddyn ifanc gweithiodd fel saer maen. Yn 1783 symudodd i Lundain. Yn 1787 llwyddodd i gael swydd yn arolygydd y ffyrdd yn Sir Amwythig. Mewn canlyniad fe'i penodwyd yn beirianydd ar gyfer Camlas Ellesmere.
Aeth i'r Alban ar ran y llywodraeth i baratoi adroddiad ar gyflwr ffyrdd yr Alban a gweithiodd wedyn ar Camlas Caledonia rhwng Inbhir Nis ac An Gearasdan.
Yng Nghymru bu'n beirianydd ar waith yr A5 rhwng y gororau a Chaergybi, gan gynnwys adran Nant Ffrancon, ac ar rannau o ffordd yr arfordir (yr A55 heddiw), er enghraifft ym Mhenmaenmawr (Penmaen-mawr a Phenmaen-bach) ac yn cynnwys Pont Grog Conwy. Ei waith mwyaf enwog yw'r bont grog a gododd dros Afon Menai yn 1826, sef Pont y Borth.
Bu farw Telford yn 1834 a chafodd ei gladdu yn Abaty San Steffan.