Siôn Conwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Awdurdod |
B →Cyfeiriadau: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
==Cyfeiriadau== |
==Cyfeiriadau== |
||
<references/> |
<references/> |
||
{{Rheoli awdurdod}} |
|||
{{DEFAULTSORT:Conwy, Sion}} |
{{DEFAULTSORT:Conwy, Sion}} |
||
Llinell 19: | Llinell 21: | ||
[[Categori:Noddwyr llenyddiaeth]] |
[[Categori:Noddwyr llenyddiaeth]] |
||
[[Categori:Pobl o Sir Ddinbych]] |
[[Categori:Pobl o Sir Ddinbych]] |
||
{{Authority control}} |
Fersiwn yn ôl 08:10, 26 Ebrill 2015
Llenor a noddwr beirdd o Sir Ddinbych yng ngogledd Cymru oedd Siôn Conwy neu Siôn Conwy III (c. 1546 - Rhagfyr 1606). Roedd yn aelod o deulu'r Conwyaid, un o deuluoedd uchelwrol mawr y Gogledd, gyda phlasdy ym Motryddan, ger Rhuddlan. Ei dad oedd Siôn Conwy II, Aelod Seneddol Sir y Fflint.
Bywgraffiad
Yn uchelwr diwylliedig, roedd aelwyd Siôn Conwy yn agored i'r beirdd, a cheir cerddi mawl iddo gan sawl un o Feirdd yr Uchelwyr, gan gynnwys Simwnt Fychan a Siôn Tudur.[1]
Cyfieithodd Siôn Conwy ddau draethawd i'r Gymraeg. Mae Klod Kerdd Dafod a'i Dechryad ("Clod Cerdd Dafod a'i Dechreuad") yn gyfieithiad o draethawd Lladin y Sais John Case, Apologia Musices (1588). Mae'r ail draethawd, Definiad i Hennadirion, yn gyfieithad o'r gwaith crefyddol A Summons for Sleepers (1589).[1]
Bu farw Siôn Conwy yn Rhagfyr 1606 a chafodd ei gladdu ar 23 Rhagfyr yn eglwys Rhuddlan.[1]