Charles Francis Egerton Allen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
manion, replaced: Ymbriododd a → Priododd using AWB |
B →Cyfeiriadau: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB |
||
Llinell 29: | Llinell 29: | ||
{{diwedd-bocs}} |
{{diwedd-bocs}} |
||
{{ |
{{Rheoli awdurdod}} |
||
{{DEFAULTSORT:Allen, Charles Francis Egerton}} |
{{DEFAULTSORT:Allen, Charles Francis Egerton}} |
Fersiwn yn ôl 07:32, 26 Ebrill 2015
Roedd Charles Francis Egerton Allen (14 Hydref, 1847 – 31 Rhagfyr, 1927) yn weinyddwr Prydeinig yn yr India ac yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol etholaeth Penfro a Hwlffordd.
Bywyd Personol
Ganwyd Allen yn Agra, Uttar Pradesh yr India ym 1847, lle'r oedd ei dad, Charles Bird Allen yn gwasanaethu yng Ngwasanaeth Sifil yr India. Ei fam oedd Mary Anne Harriet, merch Peter Bartholomew Jullian o Lundain.
Cafodd ei addysgu yng ngholeg Eton a Choleg Sant Ioan, Caergrawnt lle graddiodd BA ym 1870.
Priododd Elizabeth Georgina, merch William Wilcox o Whitburn, Swydd Durham ym 1891 bu hi farw ym 1934. Ni fu plant o'r briodas.
Gyrfa
Galwyd Allen i'r Bar yn y Deml Ganol ym 1871 a fu'n gweithio fel Bargyfreithiwr yng Nghylchdaith Gogledd Ddwyrain Lloegr cyn symud yn ôl i'r India ym 1873 lle fu'n gweithio fel bargyfreithiwr yng Nghalcutta a Rangoon ac fel barnwr llys man achosion Calcutta, bu'n Advocad y Llywodeaethwr yn Rangoon ac yn Gofrestrydd Rangoon. Bu hefyd yn ddarlithydd yn y Gyfraith yng Ngholeg y Presidency Calcutta.[1]
Bu'n gwasanaethu fel Ynad Heddwch dros Sir Benfro o 1895 i 1906
Gyrfa Wleidyddol
Safodd fel ymgeisydd Rhyddfrydol etholaeth Penfro a Hwlffordd yn etholiad cyffredinol 1892 gan lwyddo cipio'r sedd oddi wrth Y Blaid Unoliaethol Ryddfrydol. Collodd y sedd yn etholiad cyffredinol 1895 gan gael ei drechu gan yr ymgeisydd Ceidwadol.
Cyfeiriadau
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Richard Charles Mayne |
Aelod Seneddol Penfro a Hwlffordd. 1892 – 1895 |
Olynydd: John Wimburn Laurie |