Federico García Lorca: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Awdurdod |
|||
Llinell 34: | Llinell 34: | ||
Cyfieithwyd ''Bodas de sangre'' i'r Gymraeg fel ''Priodas waed'' gan [[R. Bryn Williams]] a [[John Rowlands]]. |
Cyfieithwyd ''Bodas de sangre'' i'r Gymraeg fel ''Priodas waed'' gan [[R. Bryn Williams]] a [[John Rowlands]]. |
||
{{Rheoli awdurdod}} |
|||
{{DEFAULTSORT:Garcia Lorca, Federico}} |
{{DEFAULTSORT:Garcia Lorca, Federico}} |
||
Llinell 44: | Llinell 46: | ||
[[Categori:Swrealaeth]] |
[[Categori:Swrealaeth]] |
||
[[Categori:Theatr LHDT]] |
[[Categori:Theatr LHDT]] |
||
{{Authority control}} |
Fersiwn yn ôl 05:46, 26 Ebrill 2015
Roedd Federico García Lorca (5 Mehefin 1898 - 18 Awst 1936) yn fardd a dramodydd o Sbaen. Ystyrir ef yn un o brif lenorion Sbaen yn yr 20fed ganrif; ei waith enwocaf yw'r ddrama Bodas de sangre ("Priodas Waed") (1933).
Ganed ef yn Fuente Vaqueros, gerllaw Granada yn Andalucia. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, Impresiones y paisajes, yn 1918. Yn 1929 teithiodd i Efrog Newydd, lle cyfansoddodd gyfrol o gerddi.
Pan ddechreuodd Rhyfel Cartref Sbaen, roedd ym Madrid. Roedd Lorca yn adnabyddus fel cefnogwr y chwith yn wleidyddol, ond mynnodd deithio yn ôl i Granada, oedd yn nwylo cefnogwyr Franco. Ar 16 Awst 1936 roedd yn aros yn nhŷ cyfaill pan gymerwyd ef yn garcharor. Saethwyd ef ddau ddiwrnod yn ddiweddarach.
Barddoniaeth
- Impresiones y paisajes (1918)
- Libro de poemas (1921)
- Oda a Salvador Dalí (1926)
- Romancero gitano (1928)
- Poeta en Nueva York (1930)
- Poema del cante jondo (1931)
- Llanto por Ignacio Sánchez Mejías (1935)
- Seis poemas gallegos (1935)
- Diván del Tamarit (1936)
- Sonetos del amor oscuro (1936)
Dramâu
- Mariana Pineda (1927)
- La zapatera prodigiosa (1930)
- Retablillo de Don Cristóbal
- El público (1930)
- Así que pasen cinco años (1930)
- Amor de don Perlimplín con Belisa en su jardín (1933)
- Bodas de sangre (1933)
- Yerma (1934)
- Doña Rosita la soltera o el lenguaje de las flores
- La casa de Bernarda Alba (1936)
- Comedia sin título (inacabada) (1936)
Cyfieithwyd Bodas de sangre i'r Gymraeg fel Priodas waed gan R. Bryn Williams a John Rowlands.