Morris Kyffin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
B →‎Cyfeiriadau: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
Llinell 17: Llinell 17:
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}

{{Rheoli awdurdod}}


{{DEFAULTSORT:Kyffin, Morris}}
{{DEFAULTSORT:Kyffin, Morris}}
Llinell 30: Llinell 32:
[[Categori:Milwyr Cymreig]]
[[Categori:Milwyr Cymreig]]
[[Categori:Pobl o Swydd Amwythig]]
[[Categori:Pobl o Swydd Amwythig]]

{{Authority control}}

Fersiwn yn ôl 06:11, 25 Ebrill 2015

Milwr a llenor o Gymro yn yr iaith Gymraeg a'r iaith Saesneg oedd Morris Kyffin (c.1555 - 1598). Roedd yn frawd i'r bardd Edward Kyffin ac yn ddisgybl i Wiliam Llŷn.

Bywgraffiad

Ganwyd Morris Kyffin tua 1555 yn rhywle yng nghylch Croesoswallt, Swydd Amwythig, ar adeg pan fu'n ardal Gymraeg o hyd. Dyma ardal y beirdd Cymraeg Rhys Cain a Wiliam Llŷn a daeth Morris yn ddisgybl barddol i'r olaf. Un o hen dylwythau uchelwrol Powys oedd ei deulu.[1]

Aeth yn ifanc i Lundain. Yn 1578 roedd yn athro yn nheulu'r Arglwydd Buckhurst. Cafodd addysg yn yr ieithoedd Groeg a Lladin, ond ni wyddom ble. Gwasanaethodd fel trysorydd a swyddau eraill gyda'r fyddin am gyfnod. Bu farw yn Iwerddon yn 1598 a chafodd ei gladdu yn Eglwys Crist yn Nulyn.[1]

Gwaith llenyddol

Yn Llundain daeth i adnabod rhai o lenyddion mawr yr oes, fel Edmund Spenser, William Camden a'r Cymro David Powel. Cyfieithodd un o ddramau Terens o'r Lladin i Saesneg (1588). Ceir penillion annerch i Morris gan y Dr William Morgan, cyfieithydd y Beibl, ac mae'n bur debygol felly eu bod yn adnabod eu gilydd.[1]

Fe'i cofir yn bennaf heddiw fel awdur Deffyniad Ffydd Eglwys Lloegr a orffenwyd ganddo yn 1594 ac sy'n gyfieithiad rhydd neu addasiad o waith Saesneg gwreiddiol.[1]

Llyfryddiaeth

  • The Blessedness of Britayne (1587)
  • Deffyniad Ffydd Eglwys Lloegr (1594).

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 W. J. Gruffydd, Llenyddiaeth Cymru[:] Rhyddiaith o 1540 hyd 1560 (Wrecsam, 1925), tt. 85-88,