Thomas Williams, Llanidan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Awdurdod |
Ham II (sgwrs | cyfraniadau) B manion |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Thomas Williams of Llanidan.jpeg|250px|bawd|Thomas Williams, tua |
[[Delwedd:Thomas Williams of Llanidan.jpeg|250px|bawd|Thomas Williams, tua 1792–95. Portread gan Thomas Lawrence, olew ar gynfas, yn [[Amgueddfa Genedlaethol Cymru]].]] |
||
Roedd '''Thomas Williams, Llanidan''' ([[13 Mai]] [[1737]] |
Roedd '''Thomas Williams, Llanidan''' ([[13 Mai]] [[1737]] – [[30 Tachwedd]] [[1802]]) yn un o ddiwydiannwyr amlycaf y [[18fed ganrif]]. |
||
Roedd Thomas Williams yn fab i Owen Williams, Cefn Coch, [[Llansadwrn]], [[Ynys Môn]]. Daeth yn gyfreithiwr, a bu'n cynrychioli teulu Hughes, Llysdulas, yn eu hachos yn erbyn Syr Nicholas Bayly o Blas Newydd ynghylch perchenogaeth gwaith [[copr]] [[Mynydd Parys]] ger [[Amlwch]]. Parhaodd yr achos yma am tua naw mlynedd, ac ni setlwyd y mater hyd 1778. |
Roedd Thomas Williams yn fab i Owen Williams, Cefn Coch, [[Llansadwrn]], [[Ynys Môn]]. Daeth yn gyfreithiwr, a bu'n cynrychioli teulu Hughes, Llysdulas, yn eu hachos yn erbyn Syr Nicholas Bayly o Blas Newydd ynghylch perchenogaeth gwaith [[copr]] [[Mynydd Parys]] ger [[Amlwch]]. Parhaodd yr achos yma am tua naw mlynedd, ac ni setlwyd y mater hyd 1778. |
||
O gwmpas [[1785]] daeth yn brif reolwr Mynydd Parys, oedd erbyn hynny ym mherchenogaeth Iarll Uxbridge a Hughesiaid Llysdulas. Tyfodd y gwaith yn fawr dan ei reolaeth ef, a gallodd nid yn unig gynyddu cynhyrchiad copr ond hefyd sefydlu nifer o ddiwydiannau eraill cysylltiedig a'r diwydiant copr. Rhwng 1787 a 1792 bu yn rheoli'r ''Cornish |
O gwmpas [[1785]] daeth yn brif reolwr Mynydd Parys, oedd erbyn hynny ym mherchenogaeth Iarll Uxbridge a Hughesiaid Llysdulas. Tyfodd y gwaith yn fawr dan ei reolaeth ef, a gallodd nid yn unig gynyddu cynhyrchiad copr ond hefyd sefydlu nifer o ddiwydiannau eraill cysylltiedig a'r diwydiant copr. Rhwng 1787 a 1792 bu yn rheoli'r ''Cornish Metal Company'', oedd yn golygu ei fod yn rheoli bron y cyfan o ddiwydiant copr Prydain. Erbyn tua 1800 dywedid bod tua hanner [[Diwydiant copr Cymru|diwydiant copr]] y byd yn ei ddwylo ef. Roedd yn boblogaidd gyda'r gweithwyr, a'i galwai'n "Twm Chwarae Teg", oherwydd ei ddull gonest o drin ei weithwyr ac o fasnachu, ond roedd yn llai poblogaidd gyda'i gystadleuwyr mewn busnes. |
||
Daeth yn Aelod Seneddol dros Great Marlow yn Lloegr yn 1790. a chadwodd y sedd hyd ei farwolaeth. Dywedir mai ef oedd y gŵr cyfoethocaf yng Nghymru erbyn hynny. |
Daeth yn Aelod Seneddol dros Great Marlow yn Lloegr yn 1790. a chadwodd y sedd hyd ei farwolaeth. Dywedir mai ef oedd y gŵr cyfoethocaf yng Nghymru erbyn hynny. |
Fersiwn yn ôl 09:28, 24 Ebrill 2015
Roedd Thomas Williams, Llanidan (13 Mai 1737 – 30 Tachwedd 1802) yn un o ddiwydiannwyr amlycaf y 18fed ganrif.
Roedd Thomas Williams yn fab i Owen Williams, Cefn Coch, Llansadwrn, Ynys Môn. Daeth yn gyfreithiwr, a bu'n cynrychioli teulu Hughes, Llysdulas, yn eu hachos yn erbyn Syr Nicholas Bayly o Blas Newydd ynghylch perchenogaeth gwaith copr Mynydd Parys ger Amlwch. Parhaodd yr achos yma am tua naw mlynedd, ac ni setlwyd y mater hyd 1778.
O gwmpas 1785 daeth yn brif reolwr Mynydd Parys, oedd erbyn hynny ym mherchenogaeth Iarll Uxbridge a Hughesiaid Llysdulas. Tyfodd y gwaith yn fawr dan ei reolaeth ef, a gallodd nid yn unig gynyddu cynhyrchiad copr ond hefyd sefydlu nifer o ddiwydiannau eraill cysylltiedig a'r diwydiant copr. Rhwng 1787 a 1792 bu yn rheoli'r Cornish Metal Company, oedd yn golygu ei fod yn rheoli bron y cyfan o ddiwydiant copr Prydain. Erbyn tua 1800 dywedid bod tua hanner diwydiant copr y byd yn ei ddwylo ef. Roedd yn boblogaidd gyda'r gweithwyr, a'i galwai'n "Twm Chwarae Teg", oherwydd ei ddull gonest o drin ei weithwyr ac o fasnachu, ond roedd yn llai poblogaidd gyda'i gystadleuwyr mewn busnes.
Daeth yn Aelod Seneddol dros Great Marlow yn Lloegr yn 1790. a chadwodd y sedd hyd ei farwolaeth. Dywedir mai ef oedd y gŵr cyfoethocaf yng Nghymru erbyn hynny.
Llyfryddiaeth
- J. R. Harris The Copper King: A biography of Thomas Williams of Llanidan (Gwasg Prifysgol Lerpwl, 1964).