Tylluan Wen (ffilm): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 25: | Llinell 25: | ||
== Symbolaeth == |
== Symbolaeth == |
||
Mae llawer o symbolaeth yn y ffilm; gwelwn ôl-fflachiadau o Eirlys yn cael y gansen, y prifathro yn gwisgo mantell, a chan fod Martha yn cyrraedd yn gwisgo mantell, dengys hyn ei bod bellach yn rheoli. Yn nes ymlaen mae saethiad o Ifor Price yn gwisgo ei fantell yn breifat yn dangos sut y mae ef eisiau adennill rheolaeth. Mewn rhannau lle mae Martha eisiau bod yn arbennig o fygythiol mae hi’n gwisgo coch. Clywir llawer o gerddoriaeth ailadroddus yn y ffilm - symbol o’r gorffennol yn ailadrodd ei hun - ac mae’n adeiladu tensiwn i uchafbwynt ar y diwedd. Symbol arall yn y ffilm yw'r delyn, offeryn a ddefnyddir ar y cyfan i greu, ond tua diwedd y ffilm i ddinistrio, yn debyg i'r gansen yn y nofel 'Y Dylluan Wen'. |

== Cymeriadau ac actorion == |
== Cymeriadau ac actorion == |
||
Llinell 40: | Llinell 40: | ||
|- |
|- |
||
| Meri Preis |
| Meri Preis |
||
| Betsan Llwyd |
|||
|Megan Fox |
|||
|- |
|- |
||
| Roger |
| Roger |
Fersiwn yn ôl 22:32, 22 Ebrill 2015
Cynhyrchydd | Ffilmiau'r Nant |
---|---|
Ysgrifennwr | Angharad Jones |
Serennu | Siân James John Ogwen Betsan Llwyd Maldwyn John |
Cerddoriaeth | Sian James (Telyn) |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Ffilmiau'r Nant / S4C |
Dyddiad rhyddhau | 1996 |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Ffilm a gynhyrchwyd ym 1996 gan Ffilmiau'r Nant ar gyfer S4C yw Tylluan Wen. Y mae'n addasiad o'r nofel Y Dylluan Wen gan Angharad Jones.
Mae'r ffilm hon yn cael ei gwylio gan bobl ifainc gan ei bod ar faes llafur cwrs Cymraeg Llên TGAU (CBAC).
Crynodeb
Mae Martha/Eirlys yn dychwelyd at yr ardal lle y'i ganed hi i ddial ar Ifor Preis, ei chyn-brifathro, am farwolaeth ei thad. Mae hi'n gorfodi Ifor Preis i odinebu ar ei wraig ffyddlon (Meri) ac yn codi cywilydd ar y ddau, wrth iddi gyhoeddi'i pherthynas ag Ifor o flaen eu holl ffrindiau. Ceisia Ifor Preis, yn gandryll, ei thagu cyn ei gollwng. Wedyn mae Martha yn dial am farwolaeth ei thad trwy daro Ifor Preis ar ei ben â'i thelyn. Gwêl merch Ifor Preis, sef Gwen, y llofruddiad, a rhed i ganol yr heol. I achub bywyd Gwen mae Martha'n aberthu ei hunan wrth wthio Gwen allan o'r ffordd.
Newidia Martha ei henw o Eirlys i Martha i geisio sicrhau na chaiff ei hadnabod, ond erbyn y diwedd mae hen gogyddes yr ysgol, Mrs Rowlands, yn darganfod pwy ydy hi wrth iddi ymweld â bedd ei thad. Yn ogystal â Mrs Rowlands, mae Roger, sef cyn-ddisgybl yn yr ysgol, yn ei hadnabod o hen lun ysgol.
Symbolaeth
Mae llawer o symbolaeth yn y ffilm; gwelwn ôl-fflachiadau o Eirlys yn cael y gansen, y prifathro yn gwisgo mantell, a chan fod Martha yn cyrraedd yn gwisgo mantell, dengys hyn ei bod bellach yn rheoli. Yn nes ymlaen mae saethiad o Ifor Price yn gwisgo ei fantell yn breifat yn dangos sut y mae ef eisiau adennill rheolaeth. Mewn rhannau lle mae Martha eisiau bod yn arbennig o fygythiol mae hi’n gwisgo coch. Clywir llawer o gerddoriaeth ailadroddus yn y ffilm - symbol o’r gorffennol yn ailadrodd ei hun - ac mae’n adeiladu tensiwn i uchafbwynt ar y diwedd. Symbol arall yn y ffilm yw'r delyn, offeryn a ddefnyddir ar y cyfan i greu, ond tua diwedd y ffilm i ddinistrio, yn debyg i'r gansen yn y nofel 'Y Dylluan Wen'.
Cymeriadau ac actorion
Cymeriad | Actorion |
---|---|
Martha/Eirlys | Siân James |
Ifor Preis | John Ogwen |
Meri Preis | Betsan Llwyd |
Roger | Maldwyn John |