Sgwrs Defnyddiwr:Blogdroed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Y Teclyn newydd: adran newydd
Llinell 111: Llinell 111:


Dwi'n cytuno efo ti gant y cant fod y "GolygyddGweledol" yn boen, a deud y lleia. Ond cofia does dim rhaid i ti ei ddefnyddio o gwbl. Sbia [[Special:Preferences#mw-prefsection-editing|yn dy ddewisiadau golygu]] lle mae'r blwch VisualEditor wedi'i dicio - dad-dicia fo i gael gwared o'r peth gwirion. Defnyddiais o unwaith ac roedd hynny'n fwy na ddigon! Hir oes i olygu'n uniongyrchol ar y dudalen gyda'r hen Destun Wici annwyl, meddaf i! Hwyl, [[Defnyddiwr:Anatiomaros|Anatiomaros]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Anatiomaros|sgwrs]]) 00:54, 19 Ebrill 2015 (UTC)
Dwi'n cytuno efo ti gant y cant fod y "GolygyddGweledol" yn boen, a deud y lleia. Ond cofia does dim rhaid i ti ei ddefnyddio o gwbl. Sbia [[Special:Preferences#mw-prefsection-editing|yn dy ddewisiadau golygu]] lle mae'r blwch VisualEditor wedi'i dicio - dad-dicia fo i gael gwared o'r peth gwirion. Defnyddiais o unwaith ac roedd hynny'n fwy na ddigon! Hir oes i olygu'n uniongyrchol ar y dudalen gyda'r hen Destun Wici annwyl, meddaf i! Hwyl, [[Defnyddiwr:Anatiomaros|Anatiomaros]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Anatiomaros|sgwrs]]) 00:54, 19 Ebrill 2015 (UTC)

:: Aha! Gwych! Diolch i ti Anatiomaros [[Defnyddiwr:Blogdroed|Blogdroed]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Blogdroed|sgwrs]]) 08:51, 22 Ebrill 2015 (UTC)

Fersiwn yn ôl 08:51, 22 Ebrill 2015

Cynnes i ti a mwynha ychwanegu at yr erthyglau, beth bynnag dy ddiddordeb. Os wyt ti iso cyngor, mae 'na ddigon ohonom yma! Llywelyn2000 (sgwrs) 04:16, 14 Medi 2013 (UTC)[ateb]

diolch! Dwi'n gobeithio na fyddai'n ormod o boen wrth ofyn cwestiynau di-ri! Blogdroed (sgwrs) 09:23, 14 Medi 2013 (UTC)[ateb]

Cyfeiriadau

Dilch am yr holl waith diweddar - mae'n dda cael par arall o goesau ifanc i ddod ymlaen oddi ar y fainc! Dan ni wedi bod reit llac yma yn y gorffennol, ond dan ni'n ceisio rhoi o leiaf dau(dwy?) ffynhonell wrth bob erthygl. Yn dy erthyglau newydd am Gemau'r Gymanwlad ti'n rhoi dolenni at wefan y Gemau, sy'n cadarnhau'r canlyniadau mi dybiaf. Yn yr erthygl am un 1966 ac ymddangosiad cyntaf HWFN, byddai ffynhonell i rhywbeth mor ddifyr yn ddefnyddiol. Er nad ydyw i wedi ei ddarllen, dwi'n dyfalu mai o lyfr Sion Jobbins y daeth y ffaith? Os felly, mae eisiau manylion y llyfr o fewn y tags canlynol <ref></ref>, a gosod hynny ar ddiwedd y frawddeg dan sylw (wedi'r atalnod llawn). Yn ogystal, os nad ydynt yno'n barod, mae angen cynnwys y canlynol: '==Cyfeiriadau=={{cyfeiriadau}}' hefyd ar waelod yr erthygl, fel eu bod yn ymddangos yn gywir.Sori am fod yn bedantig.--Rhyswynne (sgwrs) 22:20, 16 Medi 2013 (UTC)[ateb]

Diolch Rhys, fe ddaeth y ffaith o fy ngwaith ymchwil ar gyfer safle Gemau Gymanwlad y BBC slawer dydd yn ôl - dwi wedi ceisio dod o hyd i ffynhonell (arall) ar y we ond heb lwyddo eto - dwi heb ddarlen llyfr Sion Jobbins, ond fe na'i ymchwilio! Mi na'i barhau i chwilio ar y we hefyd! --Blogdroed (sgwrs) 22:40, 16 Medi 2013 (UTC)[ateb]

Gwybodlenni Cymraeg

Dw i wedi ateb dy ymholiad yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:58, 17 Medi 2013 (UTC)[ateb]

Diolch - wedi ateb yn ôl! --Blogdroed (sgwrs) 20:01, 17 Medi 2013 (UTC)[ateb]
  Cwbwlhawyd - Llywelyn2000 (sgwrs) 21:05, 17 Medi 2013 (UTC)[ateb]
arbennig! --Blogdroed (sgwrs) 21:29, 17 Medi 2013 (UTC)[ateb]
cwestiwn olaf ... onest! ... sut mae newid maint y ffont mewn Gwybodlen?--Blogdroed (sgwrs) 21:45, 17 Medi 2013 (UTC)[ateb]
 Cwblhawyd
--Blogdroed (sgwrs) 22:44, 17 Medi 2013 (UTC)[ateb]

Gweld dy fod wedi bod yn arbrofi'n creu Nodyn newydd: Nodyn:Blwchrygbi‎. Ti ar y ffordd iawn - cofia ofyn os ti isio cymorth. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:40, 8 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Diolch, siwr o wneud - meddwl bo fi ar y trywydd cywir efo hwn - am drio efo fersiwn pêl-droed nes ymlaen! --Blogdroed (sgwrs) 19:34, 8 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Gwyrdd a melyn a coch a du...

Gyfaill! Mi adewais neges i ti yn fama, gan ddangos fy lliwiau gwleidyddol, tanbaid! Llywelyn2000 (sgwrs) 20:35, 19 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Pêl-droed yng Nghymru XXXX-XX

Gweld bod ti wedi dechrau ar dymhorau 12/13 a 13/14. Wyt ti'n bwriadu cynnwys mwy yn yr erthyglau maes o law? Fydden i ddim yn cynnwys gormod arno neu mae'n mynd i fod yn llafurus i'w lenwi (yn enwedig wrth fymnd yn ôl mewn amser), ond falle nodi; enillwyr Cwpan Cymru, crynodeb o lwyddiannau(os o gwbl!) clybiau Cymru yn Ewrop a falle mond cyfeirio at y clybiau yn Lloegr os digwyddod rhywbeth arbennig fel dychafiad/disgyn o adran, ennill neu fynd yn bell mewn cystadleuaeth cwpan. Wedyn beth am wobrau chwaraewyr (BBC a PFA) a'r tîm cenedlaethol? Falle gwell peidio cynnwys y tîm cenedlaethol gan bod eu tymor/ymchyrch gemau ragbrofol nhw yn rhedeg dros ddwy dymor domestig fel arfer. Dwi'n hapus i'th gynorthwyo gyd'r uchod, mond meddwl byddia'n handi trafod y cynwnys o flaen llaw.

Gol. O edrych ar Wikipedia en am esiamplau, sylwaf bod y strwythur yno ychydig yn wahanol (ac yn rhy fanwl i ni os rhwybeth!)--Rhyswynne (sgwrs) 09:52, 23 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Hi Rhys! Ydw, dwi'n bwriadu cynnwys rhywbeth tebyg i'r hyn ti di nodi uchod, ond roeddwn am roi gemau (a gwobrau seremoni flynyddol) y tîm cenedlaethol hefyd dros pob tymor - meddwl bwrw ati fesyl tipyn! Wrthi'n gweithio allan a chreu y Nodyn sy'n creu'r tablau ydw i ar y funud! Unwaith bo fi wedi creu un llynedd, bydd rhyw fath o esiampl i'w ddilyn ar gyfer y gweddill. Gobeithio fydd rhywbeth wedi'i greu bore 'ma --Blogdroed (sgwrs) 10:00, 23 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Edrych yn dda hyd yma (y tabl). Eto yn gysylltiedig â hyn, dw i wedi dechrau cyfieithu 'Pyramid pêl-droed Cymru' ar is-dudalen fy mhroffil. Mae o ar ei ganol fel y gweli di. Gobeithio bod enwau (Cymraeg) y gwahanol gyngrheiriau'n gywir hyd yma.--Rhyswynne (sgwrs) 12:47, 23 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Aha! Ar dudalen proffil mae rhywun i fod i arbrofi ia? !! --Blogdroed (sgwrs) 13:08, 23 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Ia, neu yn y Pwll Tywod, ond mae beth ti wedi bod yn ei wneud gyda'r erthygl dan sylw a rhai Gemau'r Gymanwlad, sef ychwanegu tipyn ar y tro, yn berffiath iawn - dyna yw hanfod wici! Dw i wedi dewis cyfieithu'r pyramid ar is-dudalen fy mhroffil gan na fyddai'n dderbyniol creu erthygl gyda'r cyfieithu ar ei hanner.--Rhyswynne (sgwrs) 11:43, 28 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Syniad am olygathon

Yn gysylltiedig â'r uchod a gan bod Sgorio yn dathlu pen-blwydd 25 oed eleni, be ti'n feddwl o'r syniad ar gyfer un neu fwy o ddigwyddiadau golygu'r Wicipedia (Cymraeg a Saesneg o bosib) yn seiliedig a'r Bêl-droed. Ti'n meddwl byddai gan glwb, y Gymdeithas Bêl-droed, grŵp cefnogwyr neu falle cwmni Rondo ddiddordeb noddi/cynnal digwyddiad o'r fath? Oes amgueddfa neu arddangosfa bêl-droed parhaol neu dros dro gyda ni yng Nghymru bellach, neu unigolion sy'n frwd dros hanes y gamp y gallwn droi ato am syniadau? --Rhyswynne (sgwrs) 09:52, 23 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Bae Trearddur / Trarddur?

Well spotted! Pa un yw'r sillafiad lleol? Llywelyn2000 (sgwrs) 20:13, 20 Mai 2014 (UTC)[ateb]

Trearddur fyswn i'n ddefnyddio'n lleol Blogdroed (sgwrs) 21:32, 20 Mai 2014 (UTC)[ateb]
Diolch gyfaill; dw i wedi uno'r ddau bellach. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:41, 21 Mai 2014 (UTC)[ateb]
FFanciw Mawr! Blogdroed (sgwrs) 18:43, 21 Mai 2014 (UTC)[ateb]

Ashley Williams

Wedi ei newid. Er gwybodaeth (a dwi'n meddwl bod pawb yn gallu gwneud hyn, nid mond gweinyddwyr), ar ben pob erthygl, i'r chwith i'r blwch chwilio, mae saeth bach gyda'r dewis o 'Symud' tudalen. Mae hyn yn creu enw newydd i'r erthygl ac yn algyfeirio unrhyw ddoleni at yr hen enw.

Gwaith gwych ar yr holl erthyglau pêl-droed eraill hefyd gyda llaw.--Rhyswynne (sgwrs) 21:04, 20 Mai 2014 (UTC)[ateb]

Diolch yn dalpau! Blogdroed (sgwrs) 21:32, 20 Mai 2014 (UTC)[ateb]

FA Cup

Beth i alw hwn yn Gymraeg? Penderfynais i (yn unfrydol!) i greu ac enwi'r erthygl yn Cwpan Lloegr yn ddiweddar gan bod cymaint o ddoleni coch yn cyfeirio ato a gyda chymaint o ffurfiau amrywiol (FA Cup, Cwpan yr FA ayyb). Ers hynny dwi'n ailgyfeirio popeth arall yno. Hapus i drafod os ti'n teimlo bod enw mwy addas/cywir.--Rhyswynne (sgwrs) 21:04, 22 Mai 2014 (UTC)[ateb]

Cwpan FA Lloegr fyddwn i'n ddefnyddio - dyna mae'r BBC ac S4C yn ddefnyddio. England's Cup fydde Cwpan Lloegr Blogdroed (sgwrs) 21:10, 22 Mai 2014 (UTC)[ateb]
er, wedi deud hynny, di Cwpan Cymru ddim yn gwneud synnwyr yn hynny o beth nacdi!!! Blogdroed (sgwrs) 21:11, 22 Mai 2014 (UTC)[ateb]

Manylion coll gyda File:WorldCup1958logo.jpg

Annwyl uwchlwythwr: Mae manylion ar goll gyda'r ffeil a uwchlwythoch (File:WorldCup1958logo.jpg). Mae hi naill ai'n colli disgrifiad a/neu fanylion eraill, a/neu drwydded ar ei thudalen disgrifio. Os oes modd, ychwanegwch y wybodaeth hon. Bydd hwn yn cynorthwyo i olygyddion eraill wneud y defnydd gorau o'r ddelwedd, a bydd yn fwy addysgiadol i ddarllenwyr.

Os na roddir y wybodaeth, dilëir y ffeil ymhen tri diwrnod i ddyddiad gosod y tag hwn, sy'n sefyllfa annymunol, a sefyllfa y gellir ei hosgoi'n hawdd.

Os oes cwestiynu gennych, ymwelwch â'r dudalen hon. Diolch. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 22:27, 30 Mai 2014 (UTC)[ateb]


Daw'r delwedd o en.wikipedia - rwyf wedi defnyddio yr un manylion â sydd ar yr ochr Saesneg - dwi ddim yn siwr beth yn fwy sydd ei angen ... Blogdroed (sgwrs) 15:28, 1 Mehefin 2014 (UTC)[ateb]
Mae'n edrych yn OK i fi, ond dwi ddim yn arbenigwr ar hyn. Hefyd wedi adfer delwedd Gemau'r Gymanwlad 2014 ac wedi newid y cod - doedd dim disgrifiad hawlfraint arno o gwbl o beth welais yn hane sy ffeil, ond dylid bod wedi rhoi ychydig o rybudd ta beth. Ceisio sicrhau bod ni yma'n cydymffurfio a'r rheolau hawlfraint mae xxglennxx er tegwch, mond bod angen esbonio'n well.--Rhyswynne (sgwrs) 21:24, 2 Mehefin 2014 (UTC)[ateb]
Diolch Rhys! Blogdroed (sgwrs) 21:36, 2 Mehefin 2014 (UTC)[ateb]

Broliant gan Wicimania

Cafwyd sylw yn un o'r grwpiau yn Wicimania heddiw cystal yw erthyglau'r wici cy o ran yr adran chwaraeon! Cafwyd trafodaeth yn dilyn hynny am bwysigrwydd erthyglau fel hyn i bobl ifanc. Mae llawer o'r diolch i ti! Fory: grwpiau ieithoedd lleiafrifol yn trafod cymorth a mwy o gydweithio. Gwych iawn. Llywelyn2000 (sgwrs) 22:41, 8 Awst 2014 (UTC)[ateb]

Wow! diolch! Dwi'n falch o fod yn rhan o rhywbeth sy'n ceisio denu'r to ifanc i ddefnyddio'r we yn Gymraeg! Blogdroed (sgwrs) 23:21, 8 Awst 2014 (UTC)[ateb]

Nodyn:Infobox International Football Competition

Helo. Ti wedi newid y Nodyn pel-droed yma, fel mai'r Pencampwyr ydy Brisil ac nid Ffrainc. Dydy'r baner / enw gwledydd ddim yn gweithio rwan. Dw i ddim yn deall pam. ond efallai mai gadael o fel roedd o ydy'r gorau? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 15:42, 11 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]

Dydw i ddim yn giamstar efo'r Nodiadau )templates) yma, ond efallai mai dyma lle mae pthe'n mynd ar chwal? [1]. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 15:54, 11 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]
Dim byd o'i le efo'r pencampwyr; manion yn unig. Mae'n iawn rwan. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:43, 11 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]
Ymddiheuriadau - dim ond nawr dwi'n gweld y neges - diolch Llywelyn2000 Blogdroed (sgwrs) 10:46, 12 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]

Ar y brig!

Haia. Ydy blwch llywio bychan fel hwn yn help neu'n rhwystr? Gweler: Pêl-droed yng Nghymru 2014-15 - brig, dde. Gyda / heb y saethau? I'w gopio / addasu os wyt ti'n meddwl ei fod o ddefnydd. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:16, 25 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]

Roeddwn i am greu rhywbeth tebyg i'r hyn sydd gan en.wikipedia fan hyn: https://en.wikipedia.org/wiki/2013%E2%80%9314_in_English_football felly alla'i addasu hwn i wneud hynny! Diolch Blogdroed (sgwrs) 10:21, 25 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]
Llawer gwell! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:12, 25 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]

Golygathon Rygbi

Helo!

Er gwybodaeth, mis Medi yma bydd Golygathon yn cael i gynnal yn stadiwm y mileniwm i ddathlu Rygbi yn Gymru a Chwpan Rygbi'r Byd. Os hoffwch chi wybod mwy rhowch wybod. Diolch.Jason.nlw (sgwrs) 09:46, 2 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

Diolch @Jason.nlw: - er gwybodaeth, rwyf wedi cychwyn 'template' ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn fy mlwch tywod - bydd yn fyw cyn bo hir Blogdroed (sgwrs) 12:59, 2 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]
Grêt @Blogdroed: - Gobeithio bydd modd i chi dod ar eich holl arbenigedd i'r digwyddiad ym mis Medi!
does gen i fawr o arbenigedd rygbi mae gen i ofn - dwi'n bell o fod yn ffan rygbi! Blogdroed (sgwrs) 11:58, 5 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

Y Teclyn newydd

Dwi'n cytuno efo ti gant y cant fod y "GolygyddGweledol" yn boen, a deud y lleia. Ond cofia does dim rhaid i ti ei ddefnyddio o gwbl. Sbia yn dy ddewisiadau golygu lle mae'r blwch VisualEditor wedi'i dicio - dad-dicia fo i gael gwared o'r peth gwirion. Defnyddiais o unwaith ac roedd hynny'n fwy na ddigon! Hir oes i olygu'n uniongyrchol ar y dudalen gyda'r hen Destun Wici annwyl, meddaf i! Hwyl, Anatiomaros (sgwrs) 00:54, 19 Ebrill 2015 (UTC)[ateb]

Aha! Gwych! Diolch i ti Anatiomaros Blogdroed (sgwrs) 08:51, 22 Ebrill 2015 (UTC)[ateb]