Epigram: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ffynonellau a manion using AWB
Llinell 15: Llinell 15:
:Cur dwfn yw cariad ofer.<ref>''ibid.'', rhif 506.</ref>
:Cur dwfn yw cariad ofer.<ref>''ibid.'', rhif 506.</ref>


[[Saunders Lewis]] yn y ddrama ''[[Blodeuwedd (drama)|Blodeuwedd]]'':
[[Saunders Lewis]] yn y ddrama [[Siwan (drama)|Siwan]]:


:Rhodd enbyd yw bywyd i bawb.<ref>''ibid.'', rhif 794.</ref>
:Rhodd enbyd yw bywyd i bawb.<ref>''ibid.'', rhif 794.</ref>

Fersiwn yn ôl 10:03, 8 Ebrill 2015

Ffurf lenyddol gryno, yn llinell, cwpled neu bennill, sy'n traethu doethineb neu wirionedd neu gyngor buddiol ynghylch bywyd a'r byd wedi'i fynegi'n goeth, yn fachog a chofiadwy yw epigram. Gair Groeg yw epigram sydd wedi cael ei fenthyg gan sawl iaith, yn cynnwys y Gymraeg, a gan lenorion Groeg yr Henfyd y ceir yr epigramau cynharaf yn nhraddodiad llenyddol y Gorllewin. Ceir ffurfiau tebyg mewn diwylliannau eraill hefyd, e.e. yr haiku yn llenyddiaeth Siapaneg, ac mae'n ffurf lenyddol boblogaidd yn y Gymraeg ers canrifoedd.

Tyfodd yr epigram yn y Gorllewin allan o arfer y Groegiaid o lunio beddargraffiadau am y meirw. Yn ddiweddarach cafwyd casgliadau o epigramau Groeg, yn cynnwys Y Flodeugerdd Roeg. Ymledaenodd yr epigram i Rufain a daeth beirdd fel Martial yn feistri arno. Parhaodd traddodiad yr epigram Lladin clasurol yn rhan o brif ffrwd llenyddiaeth Ewrop am ganrifoedd. Un o epigramwyr Lladin enwocaf yr 17eg ganrif oedd y Cymro John Owen, a adnabyddwyd fel "Martial Prydain".

Yng Nghymru gellid dweud fod naws yr epigram yn elfen bwysig ym marddoniaeth gynnar y Cymry, yn enwedig yn y canu englynol, ond er y ceir llinellau a chwpledi sy'n epigramau mewn llawer o ganu y Cywyddwyr, ni ddatblygodd yn ffurf ar wahân tan y ddeunawfed ganrif. Perthyn yn agos i'r epigram y mae'r diharebion Cymraeg hefyd. Heddiw mae'n parhau i fod yn ffurf boblogaidd gan feirdd Cymraeg ac mae'n un o gystadlaethau arferol Talwrn y Beirdd.

Rhai enghreifftiau

Dyma ychydig o enghreifftiau o epigramau Cymraeg dros y blynyddoedd, gan gychwyn gyda chwpled enwog gan Llawdden (tua 1450-1480):

'Nôl blino'n treiglo pob tref
Teg edrych tuag adref.[1]

Rhys Cain (m. 1614) ar garu'n ofer:

Cur dwfn yw cariad ofer.[2]

Saunders Lewis yn y ddrama Siwan:

Rhodd enbyd yw bywyd i bawb.[3]

Gerallt Lloyd Owen ar brofiad a chyfiawnder:

A ŵyr frath newyn i'r fron
A ry bris ar y briwsion.[4]

Cyfeiriadau

  1. Y Flodeugerdd o Epigramau Cynganeddol, rhif 101.
  2. ibid., rhif 506.
  3. ibid., rhif 794.
  4. ibid., rhif 1246.

Llyfryddiaeth

  • Alan Llwyd (gol.), Y Flodeugerdd o Epigramau Cynganeddol (Cyhoeddiadau Barddas, 1985).