Mudiad Boicotio, Dadfuddsoddi a Sancsiynau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
delwedd
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Al Quds.jpg|bawd|275px|Iddew yn dal baner 'Boicotiwch Israel']]
[[Delwedd:Al Quds.jpg|bawd|275px|Iddew yn dal baner 'Boicotiwch Israel']]
[[Delwedd:Boycott-israel-275x275.gif|bawd|Logo'r ymgyrch gyffredinol i foicotio cwmniau a chynnyrch o Israel]]

Mae'r '''Mudiad <big>B</big>oicotio, <big>D</big>adfuddsoddi a <big>S</big>ancsiynau''' (neu '''BDS''') yn fudiad byd-eang<ref name="Svirsky2011">{{cite book|author=Marcelo Svirsky|title=''Arab-Jewish activism in Israel-Palestine''|url=http://books.google.com/books?id=iQj5GhqfMloC&pg=PA123|accessdate=3 Mehefin 2013|date=28 Hydref 2011|publisher=Ashgate Publishing, Ltd.|isbn=978-1-4094-2229-7|page=121}}</ref> sy'n ceisio cynyddu'r pwysau economaidd a gwleidyddol ar [[Israel]] i gydymffurfio gyda nodau ac amcanion y mudiad. Mae nhw'n galw ar Israel:
Mae'r '''Mudiad <big>B</big>oicotio, <big>D</big>adfuddsoddi a <big>S</big>ancsiynau''' (neu '''BDS''') yn fudiad byd-eang<ref name="Svirsky2011">{{cite book|author=Marcelo Svirsky|title=''Arab-Jewish activism in Israel-Palestine''|url=http://books.google.com/books?id=iQj5GhqfMloC&pg=PA123|accessdate=3 Mehefin 2013|date=28 Hydref 2011|publisher=Ashgate Publishing, Ltd.|isbn=978-1-4094-2229-7|page=121}}</ref> sy'n ceisio cynyddu'r pwysau economaidd a gwleidyddol ar [[Israel]] i gydymffurfio gyda nodau ac amcanion y mudiad. Mae nhw'n galw ar Israel:
#i roi'r gorau i feddiannu'r [[Tiriogaethau Palesteinaidd|tiroedd Palesteinaidd]],
#i roi'r gorau i feddiannu'r [[Tiriogaethau Palesteinaidd|tiroedd Palesteinaidd]],

Fersiwn yn ôl 07:35, 5 Ebrill 2015

Iddew yn dal baner 'Boicotiwch Israel'
Logo'r ymgyrch gyffredinol i foicotio cwmniau a chynnyrch o Israel

Mae'r Mudiad Boicotio, Dadfuddsoddi a Sancsiynau (neu BDS) yn fudiad byd-eang[1] sy'n ceisio cynyddu'r pwysau economaidd a gwleidyddol ar Israel i gydymffurfio gyda nodau ac amcanion y mudiad. Mae nhw'n galw ar Israel:

  1. i roi'r gorau i feddiannu'r tiroedd Palesteinaidd,
  2. am hawliau cyfartal i ddinasyddion Palesteinaidd yn Israel a
  3. am yr hawl i ffoaduriaid Palesteiniaid i ddychwelyd i Balesteina.[1]

Cychwynwyd yr ymgyrch ar 9 Gorffennaf 2005 gan 171 o Balesteiniaid a alwaodd am sancsiynau rhyngwladol yn erbyn Israel. Galwodd y grwp ar Israel i gydymffurfio gyda phenderfyniadau'r Cenhedloedd Unedig. Mae eu hymgyrch yn adleisio ymgyrchoedd gwrth-Apartheid y 60au a'r 70au yn Ne Affrica.[2] Galwodd y BDS am foicotio mewn gwahanol ac amrywiol ffyrdd - hyd nes fod Israel yn cydymffurfio gyda deddwriaeth rhyngwladol.[3]

Rhai llwyddiannau

2009–2012

Ym Mawrth 2009, cafwyd sawl protest gan fyfyrwyr mewn sawl Prifysgol gan gynnwys Prifysgol Caerdydd ble gwelwyd awdurdodau'r coleg yn dadfuddsoddi eu daliadau yn BAE Systems, sef gwneuthurwr arfau milwrol sy'n cydweithredu gydag Israel.[1] Ym Mai 2009, tynnwyd hysbysebion twriastaidd Israel o'r Underground yn Llundain.[1] Yng Ngorffennaf 2009, ataliodd y grwp o Wlad Belg Dexia, pob gwasanaeth ariannol i Israeliaid a oedd yn meddiannu tiroedd y Llain Gorllewinol.[1]

Yn Rhagfyr 2012 penderfynodd Cronfa Bensiwn Seland Newydd na fyddent yn buddsoddi mewn tri chwmni adeiladu oherwydd eu cysylltiad Israelaidd.

2013

Cronfa Bensiwn Lwcsembwrg yn esgymuno wyth cwmni o'u buddsoddiadau oherwydd eu bod wedi cynorthwyo i dorri hawliau dynol. Roedd y cwmni Americanaidd Motorola Solutions yn un o'r rhain.[4]

2014

Yn ionawr 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Norwy na fyddai eu Cronfa Bensiwn yn buddsoddi mewn dau gwmni o Israel (Africa Israel Investments a Danya Cebus) "oherwydd eu cyfraniad i dorri hawliau dynol mewn rhyfel drwy ddymchwel tai Palesteinaidd yn Nwyrain Jeriwsalem.[5]

Yn Ionawr 2014 cyhoeddodd banc mwyaf Denmarc (Danske Bank), sancsiynau yn erbyn Bank Hapoalim, am weithredu yn erbyn rheolau a deddfau dyngarol rhyngwladol drwy fuddsoddi mewn tai Israeliaid oddi fewn i diriogaeth y Palesteiniaid yn y Llain Gorllewinol.[5]

Ym Mehefin 2014, cyhoeddodd yr Eglwys Fethodistiaeth eu bod wedi gwerthu eu daliadau yn y cwmni G4S (gwerth $110,000).[6] Yn yr un mis, cyhoeddodd Ashley Almanza, Prif Weithredwr G4S' na fyddent yn adnewyddu eu contract gydag Israel.

Ym Mehefin 2014 gwagiodd staff y Siop John Lewis o rai cynnyrch o Israel gan gynnwys nwyddau 'SodaStream'; roedd hyn yn dilyn protestiaiadau ddwywaith yr wythnos gan BDS yn erbyn cynnyrch o Israel. Ceuodd 'Sodastream' eu strordy yn Brighton yn dilyn protestiadau dwy flynedd - yng Ngorffennaf 2014.[7]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Marcelo Svirsky (28 Hydref 2011). Arab-Jewish activism in Israel-Palestine. Ashgate Publishing, Ltd. t. 121. ISBN 978-1-4094-2229-7. Cyrchwyd 3 Mehefin 2013.
  2. Mitchell G. Bard; Jeff Dawson (2012). "Israel and the Campus: The Real Story" (PDF). AICE. Cyrchwyd 27 October 2013.
  3. Charles Tripp (25 Chwefror 2013). The Power and the People: Paths of Resistance in the Middle East. Cambridge University Press. t. 125. ISBN 978-0-521-80965-8. Cyrchwyd 3 Mehefin 2013. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  4. http://www.fdc.lu/fileadmin/file/fdc/Organisation/Liste_d_exclusion20131115.pdf
  5. 5.0 5.1 Denmark's largest bank blacklists Israel's Hapoalim over settlement construction gan Barak Ravid, Haaretz, 1 Chwefror 2014.
  6. "United Methodist Church Divests From Security Firm Targeted For Work In Palestinian Territories". Huffington Post. 12 June 2014.
  7. "BDS bursts SodaStream's U.K. bubble". Haaretz. 3 July 2014. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2014.