Israel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
gh
Llinell 84: Llinell 84:


{{clirio}}
{{clirio}}

==Gweler hefyd==
*[[Mudiad Boicotio, Dadfuddsoddi a Sancsiynau|Mudiad Boicotio, Dadfuddsoddi a Sancsiynau yn erbyn Israel]]
*[[Y Gynghrair Arabaidd i Foicotio Israel]]


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==

Fersiwn yn ôl 06:51, 5 Ebrill 2015

מדינת ישראל
Medīnat Yisrā'el
دولة إسرائيل
Dawlat Isrā'īl

Gwladwriaeth Israel
Baner Israel Arfbais Israel
Baner Arfbais
Arwyddair: dim
Anthem: Hatikvah ("Y Gobaith")
Lleoliad Israel
Lleoliad Israel
Prifddinas Caersalem
Dinas fwyaf Caersalem
Iaith / Ieithoedd swyddogol Hebraeg, Arabeg
Llywodraeth Democratiaeth seneddol
- Arlywydd Shimon Peres
- Prif Weinidog Benjamin Netanyahu
Annibyniaeth
- Datganiad Sefydliad Gwladwriaeth Israel
o'r Deyrnas Unedig
14 Mai 1948 (05 Iyar 5708)
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
22 145 km² (151fed)
~2
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2013
 - Cyfrifiad 1995
 - Dwysedd
 
8 051 2001 (99ain)
5 548 523
324/km² (34ain)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$163.45 biliwn (53ain)
$23 416 (28ain)
Indecs Datblygiad Dynol (2006) 0.927 (23ain) – uchel
Arian cyfred Sheqel Israelaidd newydd (₪) (ILS)
Cylchfa amser
 - Haf
IST (UTC+2)
(UTC+3)
Côd ISO y wlad .il
Côd ffôn +972
Delwedd:Boycott Israel Today.PNG
Rhestr o gwmniau o Israel sy'n gwerthu eu cynnyrch yn Ewrop; oddi wrth gefan 'Boycott Israel Today.[1]

Gwlad yn y Dwyrain Canol ar arfordir y Môr Canoldir yw Gwladwriaeth Israel neu Israel (Hebraeg: מְדִינַת יִשְׂרָאֵל, Medinat Yisra'el; Arabeg: دَوْلَةْ إِسْرَائِيل, Dawlat Isrā'īl). Cafodd ei sefydlu ym 1948 yn wladwriaeth Iddewig. Mae mwyafrif y bobl sydd yn byw yno yn Iddewon, ond mae Arabiaid yn byw yno, hefyd. Lleolir Libanus i'r gogledd o'r wlad, Syria i'r gogledd-ddwyrain, Gwlad Iorddonen i'r dwyrain, a'r Aifft i'r de. Mae'r Lan Orllewinol a Llain Gaza (ar arfordir y Môr Canoldir) o dan reolaeth Israel sydd hefyd wedi meddiannu Ucheldiroedd Golan. Mae Israel ar arfordir Gwlff Aqabah, y Môr Marw, a Môr Galilea. Fe'i diffinir yn ôl ei chyfansoddiad yn wladwriaeth Iddewig, ddemocrataidd; hi yw'r unig wladwriaeth â mwyafrif Iddewig yn y byd. [2]

Bu mwy a mwy o Iddewon yn ymfudo i'r wlad (a alwyd yn Israel o'r 1920au ymlaen) a oedd ar y pryd o dan lywodraeth Gwledydd Prydain. Fe ddaeth yn wlad noddfa arbennig o bwysig i Iddewon yn sgíl twf Ffasgiaeth a Natsïaeth yn Ewrop yn y 1930au a'r 1940au.

Cysylltiadau tramor

Mae'r rhan fwyaf o gymdogion Israel, gan gynnwys y Palesteiniaid, pobl Libanus a'r Aifft yn ddig wrth Israel am yr hyn a wnaeth yn 1948 ac am beidio â rhoi tir a hawliau llawn i'r Palesteiniaid. Ers ei chreu mae Israel wedi brwydro dros ei chornel ac mae sawl rhyfel wedi bod rhyngddi hi a gwledydd cyfagos yn yr hyn a elwir Wrthdaro Arabaidd-Israelaidd. Un o'r ymosodiadau diweddaraf gan Israel yw'r Ymosodiad a wnaeth ar Lain Gaza Rhagfyr 2008 hyd 2009 sef ('Ymgyrch Plwm Bwrw' fel y'i gelwir) a lansiodd ar y 27ain o Ragfyr 2008.

Caiff Israel lawer iawn o arian gan Unol Daleithiau America a ddefnyddir ganddi i brynu arfau, gan gynnwys arfau niwclear; oddeutu $3 biliwn y flwyddyn.[3]

Yn Ionawr 2015 cyhoeddwyd y byddai'r Llys Troseddau Rhyngwladol yn agor ymchwiliad i droseddau yn ymwneud ag Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014.

Beirniadaeth

Ymhlith y feirniadaeth gryfaf o Israel mae'r honiad ei bod yn hybu apartheid yn y ffordd mae'n trin y Palesteiniaid; mynegwyd hyn gan nifer o bobl fydenwog, gan gynnwys yr enillydd Gwobr Nobel Desmond Tutu a Nelson Mandela.

"If one has to refer to any of the parties as a terrorist state, one might refer to the Israeli government, because they are the people who are slaughtering defenseless and innocent Arabs in the occupied territories, and we don't regard that as acceptable."[4]

Dywedodd Desmond Tutu, “This, in my book, is apartheid. It is untenable.”[5], traethodd Nelson Mandela'n helaeth am y tebygrwydd rhwng Israel a'r hen De Affrica, “Our freedom is incomplete without the freedom of the Palestinians”.[6] a nododd Winnie Mandela “Apartheid Israel can be defeated, just as apartheid in South Africa was defeated”[7]. Yn ei lyfr Palestine: Peace Not Apartheid (cyhoeddwyd 2006) dywedodd cyn-Arlywydd Unol Daleithiau America Jimmy Carter, fod yn Israel “a system of apartheid, with two peoples occupying the same land but completely separated from each other, with Israelis totally dominant and suppressing violence by depriving Palestinians of their basic human rights.”[8][9] Ar y llaw arall ceir rhai'n mynegi nad oes apartheid yma; dywedodd Benjamin Pogrund, cynrychiolydd Israel yn y Cenhedloedd Unedig “ Occupation is brutalising and corrupting both Palestinians and Israelis ... [b]ut it is not apartheid. Palestinians are not oppressed on racial grounds as Arabs, but, rather, as competitors — until now, at the losing end — in a national/religious conflict for land.”[10]

Coginio a bwyd

Mae bwyd Israelaidd yn gymysgedd o fwyd lleol a bwyd a ddaeth o bedwar ban y byd, wrth i'r Israeliaid grynhoi yma yn yr 1950au. Datblygwyd math o fwyd a elwir yn Israeli fusion cuisine. Kosher yw'r bwyd mwyaf poblogaidd a chaiff ei goginio yn ôl yr Halakha Iddewig. Gan fod y boblogaeth naill ai'n Iddewon neu'n Fwslemiaid, pur anaml y gwelir cig moch ar y fwydlen.

Ceir sawl cwmni o Israel sy'n allforio eu cynnyrch, ac sy'n cael eu boicotio gan lawer o bobl:

  • Burgeranch
  • Prigat - sudd ffrwyth[11]
  • Lilt
  • Fanta
  • Jaffa
  • Schweppes (UK)
  • Starbucks Coffee
  • Nestle
  • Dŵr Evian a Volvic


Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Boycott Israel Today; adalwyd 05 Ebrill 2015
  2. http://www.freedomhouse.org/report/freedom-world/2008/israel#.U8HiyrEWBws .Freedom in the World. Freedom House. 2008. Adalwyd 20 Mawrth 2012.
  3. The Christian Science Monitor
  4. [http://www.israelnationalnews.com/ www.israelnationalnews.com Nelson Mandela: The International Day Of Solidarity With The Palestinian People; Pretoria (4 Rhagfyr 1997)
  5. [http://www.countercurrents.org/polya081213.htm Archbishop Emeritus Desmond Tutu in support of BDS against Apartheid Israel (2012); adalwyd 18 Gorffennaf 2014
  6. [http://www.cbsnews.com/news/nelson-mandela-quotes-a-collection-of-memorable-words-from-former-south-african-president/ cnsnews.com; CBS News, 5 Rhagfyr 2013; accessed 18 Gorffennaf 2014
  7. Winnie Mandela quoted in Edward C. Corrigan, “Israel and apartheid: a fair comparison?”, rabble.ca, 2 Mawrth 2010 adalwyd 19 Gorffennaf 2014
  8. http://www.jimmycarterlibrary.gov/library/carterbi.phtml
  9. According to http://www.nytimes.com/pages/books/bestseller/index.html "Best Sellers: Hardcover Nonfiction", New York Times, accessed 27 January 2007: Palestine Peace Not Apartheid was number 6 on the list as of date accessed. It was listed as number 11 in "New York Times Best Sellers: Hardcover Nonfiction" on 18 March 2007, on the list for 15 weeks for the week ending 3 March 2007. As of 6 May 2007 it no longer appears on the expanded list featured at that site
  10. Pogrund, Benjamin. "Apartheid? Israel is a democracy in which Arabs vote", MidEastWeb. First published in Focus 40 (Rhagfyr 2005). Adalwyd 29 Rhagfyr 2006.
  11. Gwefan BOYCOTT ISRAEL TODAY; adalwyd 5 Ebrill 2015


Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol