Rhys Meirion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
Llinell 21: Llinell 21:
{{DEFAULTSORT:Meirion, Rhys}}
{{DEFAULTSORT:Meirion, Rhys}}
[[Categori:Cantorion Cymreig]]
[[Categori:Cantorion Cymreig]]
[[Categori:Cantorion opera]]
[[Categori:Cantorion opera Cymreig]]
[[Categori:Pobl o Eifionydd]]
[[Categori:Pobl o Eifionydd]]



Fersiwn yn ôl 01:53, 31 Mawrth 2015

Albwm cyntaf Rhys yn 2001

Tenor o Ruthun, Sir Ddinbych sy'n enedigol o ardal Porthmadog yw Rhys Meirion Jones. Cyn troi'n ganwr proffesiynol bu'n brifathro yn Ysgol Pentrecelyn, ger Rhuthun. Yn ôl Y Times, "Rhys has an engaging, clear tone singing the words, and brought a sweet vulnerability to the role."[1] Astudiodd yn gyntaf yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ac yna'n ddiweddarach yn "The Guildhall School of Music and Drama".

Gyrfa

Bu'n unawdydd gyda Rhaglen Cantorion Ifanc Jerwood, Opera Cenedlaethol Lloegr a Chwmni Opera Cymru; ymhlith ei ganeuon mwyaf poblogaidd y mae 'Pedair Oed' a 'Llefarodd yr Haul' (gan Robat Arwyn a Robin Llwyd ab Owain).

Rhys; Rhuthun, Mai 2011.

Ymhlith ei uchafbwyntiau mewn cyngerddau, mae: cyngerdd gala yn Neuadd Frenhinol Albert gyda Bryn Terfel, ei berfformiad cyntaf yng nghyngherddau Proms y BBC, a hynny ar y noson agoriadol (a ddarlledwyd ar BBC 2), recordiad byw gan y BBC o 9fed Symffoni Beethoven dan arweiniad Richard Hickox, Cyngerdd Dathlu Desert Island Disks yn y Royal Festival Hall Llundain a Requiem Verdi yn Neuadd Frenhinol Albert.

Canodd gyda Bryn Terfel ar yr albwm Benedictus - a gafodd ei gynnig am Wobr "Classical Brit" yn 2006.[2]

Rhannau

Mae ei rolau'n cynnwys Rodolfo yn La Boheme, Pinkerton yn Madam Butterfly, Alfredo yn La Traviata, Nemorino yn L’Elisir d’Amore, Nadir yn Y Pysgotwyr Perlau, Marcello yn La Boheme gan Leoncavallo, y Dug yn Rigoletto, Tebaldo yn Capuletti e Montecchi, Tamino yn Y Ffliwt Hud, y rôl deitl yn Ernani, Morwr yn Tristan und Isolde, Rinuccio yn Gianni Schicchi, Canwr Eidalaidd yn Der Rosenkavalier, Froh yn Das Rheingold, Zinovy yn Lady Macbeth of Mtzensk a nifer eraill.[3]

Cyfeiriadau

Dolen allanol