Robert Jones Derfel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Doleni allanol: Awdurdod |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[ |
[[Delwedd:Robert Jones Derfel (1824-1905) NLW3364553.jpg|250px|bawd|R. J. Derfel (Delwedd o Gasgliad [[John Thomas (ffotograffydd)|John Thomas]], [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]])]] |
||
[[Llenyddiaeth Gymraeg|Bardd Cymraeg]] ac awdur rhyddiaith [[Radicaliaeth|Radicalaidd]] oedd '''Robert Jones Derfel''' neu '''R. J. Derfel''' ([[24 Gorffennaf]] [[1824]] - [[17 Rhagfyr]] [[1905]]). |
|||
==Bywgraffiad== |
|||
Cafodd Robert Jones ei eni yn y Foty, fferm rhwng [[Llandderfel]] a [[Bethel (Meirionnydd)|Bethel]], [[Sir Feirionnydd|Meirionnydd]], yn fab i Edward a Catrin Jones. Treuliodd gyfnod yn ddiwaith yn [[Llundain]] tua [[1848]] pan fu'r [[Siartwyr]] ar eu hanterth. Mabwysiadodd y cyfenw "[[Derfel]]" ar ôl symud i weithio ym [[Manceinion]] lle treuliodd y gweddill o'i oes. |
Cafodd Robert Jones ei eni yn y Foty, fferm rhwng [[Llandderfel]] a [[Bethel (Meirionnydd)|Bethel]], [[Sir Feirionnydd|Meirionnydd]], yn fab i Edward a Catrin Jones. Treuliodd gyfnod yn ddiwaith yn [[Llundain]] tua [[1848]] pan fu'r [[Siartwyr]] ar eu hanterth. Mabwysiadodd y cyfenw "[[Derfel]]" ar ôl symud i weithio ym [[Manceinion]] lle treuliodd y gweddill o'i oes. |
||
Llinell 30: | Llinell 33: | ||
[[Categori:Marwolaethau 1905]] |
[[Categori:Marwolaethau 1905]] |
||
[[Categori:Pobl o Feirionnydd]] |
[[Categori:Pobl o Feirionnydd]] |
||
[[Categori:Delweddau o gasgliad John Thomas]] |
|||
{{Authority control}} |
{{Authority control}} |
Fersiwn yn ôl 02:24, 11 Mawrth 2015
Bardd Cymraeg ac awdur rhyddiaith Radicalaidd oedd Robert Jones Derfel neu R. J. Derfel (24 Gorffennaf 1824 - 17 Rhagfyr 1905).
Bywgraffiad
Cafodd Robert Jones ei eni yn y Foty, fferm rhwng Llandderfel a Bethel, Meirionnydd, yn fab i Edward a Catrin Jones. Treuliodd gyfnod yn ddiwaith yn Llundain tua 1848 pan fu'r Siartwyr ar eu hanterth. Mabwysiadodd y cyfenw "Derfel" ar ôl symud i weithio ym Manceinion lle treuliodd y gweddill o'i oes.
Sefydlodd wasg ym Manceinion. Daeth yn bregethwr gyda'r Bedyddwyr ond troes fwyfwy at sosialaeth. Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi gwladgarol a chartrefol, am fywyd y bobl gyffredin, a fu'n boblogaidd iawn.
Cyhoeddwyd nifer o lythyrau ac erthyglau ganddo yn Y Cymro a Llais Llafur rhwng 1892 a 1903. Awgrymodd mewn un llythyr y dylid mabywsiadu'r sosialydd cynnar Robert Owen fel nawddsant Cymru yn lle Dewi Sant.
Roedd yn Gymro gwladgarol a anogai bawb i siarad Cymraeg ac amddiffyn Cymru. Pan ymddangosodd ei ddrama ddychanol Brad y Llyfrau Gleision yn 1854 mabwysiadwyd y teitl gan y Cymry i gyfeirio at adroddiad y Llyfrau Gleision gwrth-Gymraeg.
Llyfryddiaeth
- Brad y Llyfrau Gleision (1854). Drama.
- Traethodau ac Areithiau (1864)
- Caneuon Gwladgarol (1864). Cerddi.
- Munudau Segur (Caernarfon, 1863). Cerddi.
- Caneuon (1891).
- Rhyddiaith R. J. Derfel (1945). Dwy gyfrol a olygwyd gan Gwenallt.