Canu Llywarch Hen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Llinell 35: | Llinell 35: | ||
*[[Llywarch Hen]] |
*[[Llywarch Hen]] |
||
*[[Canu Heledd]] |
*[[Canu Heledd]] |
||
*[[Pabell Llywarch Hen]] |
|||
*[[Rheged]] |
*[[Rheged]] |
||
⚫ | |||
[[Categori:Llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol]] |
|||
[[Categori:Barddoniaeth Gymraeg]] |
[[Categori:Barddoniaeth Gymraeg]] |
||
[[Categori:Canu'r Bwlch]] |
[[Categori:Canu'r Bwlch]] |
||
[[Categori: |
[[Categori:Llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol]] |
||
[[Categori:Rheged]] |
[[Categori:Rheged]] |
||
[[Categori:Teyrnas Powys]] |
[[Categori:Teyrnas Powys]] |
||
[[Categori:Yr Hen Ogledd]] |
|||
⚫ |
Fersiwn yn ôl 01:01, 6 Mawrth 2015
Canu Llywarch Hen yw'r enw a roddwyd ar y cyfresi o englynion am yr arwr Llywarch Hen gan yr ysgolhaig Ifor Williams yn ei gyfrol o'r un enw (mae Canu Llywarch Hen, 1935, yn cynnwys y cerddi a adnabyddir fel Canu Heledd yn ogystal â cherddi eraill sy'n perthyn i'r cylch).
Cefndir
Aelod o deulu brenhinol Rheged yn yr Hen Ogledd oedd Llywarch Hen (fl. diwedd y 6ed ganrif). Mae'n bosibl ei fod wedi olynu Urien Rheged fel brenin Rheged (bu farw Owain fab Urien cyn ei dad), ond nid oes sicrwydd am hynny. Mae dyddiadau geni a marw Llywarch Hen yn anhysbys. Roedd yn gefnder i Urien Rheged ac yn un o ddisgynyddion Coel Hen. Ychydig iawn a wyddys amdano ar wahân i'r hyn a geir yn nhraddodiadau cynnar Cymru. Yn yr achau traddodiadol a elwir Bonedd Gwŷr y Gogledd mae'n un o ddisgynyddion Coel Hen, hendaid Rhodri Mawr ac eraill o frenhinoedd Cymru'r Oesoedd Canol. Dywedir mai Gwawr ferch Brychan oedd mam Llywarch ac Urien.[1]
Yn ddiweddarach trawsleolwyd y traddodiadau am Lywarch a'i feibion i Bowys a lluniwyd cyfres o englynion lled-hanesyddol, lled-chwedlonol, am ei fywyd. Fe'i portreadir ynddynt fel hen ŵr unig sy'n galaru colli ei 24 mab. Am ei fod yn siarad yn y person cyntaf mewn rhai o'r englynion hyn daethpwyd i ystyried mai ef a'u canodd, ond gwyddys erbyn heddiw eu bod yn gerddi amdano a fu'n rhan o gylch o chwedlau ehangach, efallai. Credir i'r cerddi gael eu cyfansoddi tua chanol y 9fed ganrif gan fardd neu feirdd o Bowys. Mae'r broses hon o drawsleoli arwyr yr Hen Ogledd i Gymru i'w gweld hefyd yn achos cymeriadau eraill, e.e. Taliesin, Gwyddno Garanhir, Myrddin, ac Urien Rheged hefyd.
Y cerddi
Ceir testunau'r englynion yn Llyfr Coch Hergest (y casgliad cyflawnaf a phwysicaf), Llyfr Du Caerfyrddin a llawysgrifau eraill. Yn y gyfrol Canu Llywarch Hen dosbarthodd Ifor Williams y cerddi canlynol fel cylch o gerddi sy'n ymwneud â Llywarch:
- Gwên ap Llywarch a'i dad
- Cân yr Henwr
- Urien Rheged
- Llywarch a Maen
- Gwahodd Llywarch i Lanfawr (Llanfor)
- Claf Abercuawg
- Mechydd ap Llywarch
- Enwau Meibion Llywarch Hen
- March Gwên
- Am Arwdir Eifionydd
- Am ei blant
Sylwer mai trefniant Ifor Williams yw hyn a bod trefn y cerddi yn amrywio yn y llawysgrifau. Syr Ifor hefyd biau deitlau'r cerddi (ac eithrio 'Enwau Meibion Llywarch Hen').
Cyfeiriadau
- ↑ Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1961; arg. newydd 1991), Atodiad II.
Llyfryddiaeth
- Jenny Rowland (gol.), Early Welsh Saga Poetry (Caerdydd, 1990)
- Ifor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen. (Caerdydd, 1935; sawl argraffiad diweddarach)