Stephen Richard Glynne, 9fed Barwnig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
manion, replaced: Yr oedd → Roedd (3) using AWB |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[File:Eglwys Sant Deiniol Penarlag St Deiniol Church 01.JPG|bawd|300px|Cofeb Glynne yn Eglwys Sant Deiniol, [[Penarlâg]], [[Sir y Fflint]].]] |
[[File:Eglwys Sant Deiniol Penarlag St Deiniol Church 01.JPG|bawd|300px|Cofeb Glynne yn Eglwys Sant Deiniol, [[Penarlâg]], [[Sir y Fflint]].]] |
||
Roedd '''Syr Stephen Richard Glynne''', 9fed Barwnig ([[22 Medi]], [[1807]] - [[17 Mehefin]], [[1874]]) yn dirfeddiannwr Gymreig ac yn wleidydd [[Y Blaid Geidwadol (DU)|Ceidwadol]]. Fe'i cofir yn bennaf fel ymchwilydd ym maes yr hynafiaethau gyda diddordeb arbennig mewn pensaernïaeth eglwysig Prydain. |
Roedd '''Syr Stephen Richard Glynne''', 9fed Barwnig ([[22 Medi]], [[1807]] - [[17 Mehefin]], [[1874]]) yn dirfeddiannwr Gymreig ac yn wleidydd [[Y Blaid Geidwadol (DU)|Ceidwadol]]. Fe'i cofir yn bennaf fel ymchwilydd ym maes yr hynafiaethau gyda diddordeb arbennig mewn pensaernïaeth eglwysig Prydain. Roedd yn frawd-yng-nghyfraith i'r [[Prif Weinidog|Brif Weinidog]] Rhyddfrydol [[William Ewart Gladstone]].<ref>GLYNNE (TEULU), Penarlâg Y Bywgraffiadur arlein [http://yba.llgc.org.uk/cy/c-GLYN-PEN-1603.html] adalwyd 28 Rhagfyr 2014</ref> |
||
==Cefndir== |
==Cefndir== |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
[[File:Sir Stephen Glynne 01.jpeg|thumb|chwith|Syr Stephen Glynne]] |
[[File:Sir Stephen Glynne 01.jpeg|thumb|chwith|Syr Stephen Glynne]] |
||
Priododd Catherine, chwaer Stephen Glynne, y gwleidydd [[William Ewart Gladstone]]. Daeth tad Gladstone, Syr John Gladstone, i'r adwy, pan achubodd Glynne rhag mynd yn fethdalwr ar ôl methiant gwaith haearn yr oedd yn rhan-berchennog arnynt<ref>THE OAK FARM IRON WORKS -Carnarvon and Denbigh Herald 22 Ionawr 1848[http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3643822/ART7]adalwyd 27 Rhag 2014</ref>. Yr unig fodd iddo gadw [[Penarlâg]] oedd trwy werthu rhan o'r ystâd a chytuno i rannu ei gartref [[Castell Penarlâg (18fed ganrif)|Castell Newydd Penarlâg]] gyda William a Catherine. |
Priododd Catherine, chwaer Stephen Glynne, y gwleidydd [[William Ewart Gladstone]]. Daeth tad Gladstone, Syr John Gladstone, i'r adwy, pan achubodd Glynne rhag mynd yn fethdalwr ar ôl methiant gwaith haearn yr oedd yn rhan-berchennog arnynt<ref>THE OAK FARM IRON WORKS -Carnarvon and Denbigh Herald 22 Ionawr 1848 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3643822/ART7] adalwyd 27 Rhag 2014</ref>. Yr unig fodd iddo gadw [[Penarlâg]] oedd trwy werthu rhan o'r ystâd a chytuno i rannu ei gartref [[Castell Penarlâg (18fed ganrif)|Castell Newydd Penarlâg]] gyda William a Catherine. |
||
Bu Glynne farw'n ddibriod, a daeth y farwnigaeth i'w therfyn ar ei farwolaeth. Cafodd ystâd a chastell Penarlâg eu hetifeddu gan ei nai William Henry Gladstone, mab hynaf William a Catherine. |
Bu Glynne farw'n ddibriod, a daeth y farwnigaeth i'w therfyn ar ei farwolaeth. Cafodd ystâd a chastell Penarlâg eu hetifeddu gan ei nai William Henry Gladstone, mab hynaf William a Catherine. |
||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
Cafodd Glynne ei addysgu yng [[Coleg Eton|Ngholeg Eton]] a Choleg Christ Church, [[Rhydychen]] gan ennill gradd trydydd dosbarth yn y Clasuron. |
Cafodd Glynne ei addysgu yng [[Coleg Eton|Ngholeg Eton]] a Choleg Christ Church, [[Rhydychen]] gan ennill gradd trydydd dosbarth yn y Clasuron. |
||
Bu'n gwasanaethu fel [[Aelod Seneddol]] Ceidwadol [[Bwrdeistrefi Fflint (etholaeth seneddol)|Bwrdistrefi Fflint]] o 1832 i 1837 a [[Sir y Fflint (etholaeth seneddol)|Sir y Fflint]] o 1837 i 1841 ac eto o 1842 i 1847 er na siaradodd erioed mewn dadl yn [[Tŷ'r Cyffredin|Nhŷ'r Cyffredin]]. Bu hefyd yn Uchel Siryf Sir y Fflint ym 1831 ac yn Arglwydd Raglaw Sir y Fflint o 1845 i 1871. |
Bu'n gwasanaethu fel [[Aelod Seneddol]] Ceidwadol [[Bwrdeistrefi Fflint (etholaeth seneddol)|Bwrdistrefi Fflint]] o 1832 i 1837 a [[Sir y Fflint (etholaeth seneddol)|Sir y Fflint]] o 1837 i 1841 ac eto o 1842 i 1847 er na siaradodd erioed mewn dadl yn [[Tŷ'r Cyffredin|Nhŷ'r Cyffredin]]. Bu hefyd yn Uchel Siryf Sir y Fflint ym 1831 ac yn Arglwydd Raglaw Sir y Fflint o 1845 i 1871. |
||
Yn ystod ymgyrch etholiadol 1841, daeth Glynne ag achos enllib yn erbyn y ''Chester Chronicle'', wedi i'r papur gyhoeddi honiad ei fod yn [[Cyfunrywioldeb|gyfunrywiol]]. Enillodd yr achos a bu'n rhaid i'r papur ymddiheuro. |
Yn ystod ymgyrch etholiadol 1841, daeth Glynne ag achos enllib yn erbyn y ''Chester Chronicle'', wedi i'r papur gyhoeddi honiad ei fod yn [[Cyfunrywioldeb|gyfunrywiol]]. Enillodd yr achos a bu'n rhaid i'r papur ymddiheuro. |
||
==Crefydd== |
==Crefydd== |
||
O ran ei ddaliadau crefyddol yr oedd Glynne yn aelod pybyr o [[Eglwys Lloegr]] ac yn elyniaethus i achosion anghydffurfiol. |
O ran ei ddaliadau crefyddol yr oedd Glynne yn aelod pybyr o [[Eglwys Lloegr]] ac yn elyniaethus i achosion anghydffurfiol. Roedd yn gwrthod caniatáu i anghydffurfwyr gynnal cyfarfodydd o addoliad yn y pentrefi a oedd yn eiddo i'w ystâd.<ref>Court and Aristocracy -Welshman - 4 Mehefin 1841 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/4345316/ART7] adalwyd 28 Rhagfyr 2014</ref> |
||
Er mwyn lleihau apêl y capeli yr oedd Glynne yn credu ei fod yn bwysig i'r Eglwys gynnig gwasanaethau Cymraeg a bu'n ddylanwadol wrth sicrhau bod y Cymro Cymraeg, John Hughes, yn cael ei benodi'n [[Esgob Llanelwy]] ym 1870. |
Er mwyn lleihau apêl y capeli yr oedd Glynne yn credu ei fod yn bwysig i'r Eglwys gynnig gwasanaethau Cymraeg a bu'n ddylanwadol wrth sicrhau bod y Cymro Cymraeg, John Hughes, yn cael ei benodi'n [[Esgob Llanelwy]] ym 1870. |
||
==Hynafiaethau == |
==Hynafiaethau == |
||
Yn codi o'i Anglicanaeth pybyr roedd gan Glynne diddordeb mawr mewn pensaernïaeth eglwysig. |
Yn codi o'i Anglicanaeth pybyr roedd gan Glynne diddordeb mawr mewn pensaernïaeth eglwysig. Roedd yn aelod o bwyllgor, yn ddiweddarach yn ysgrifennydd mygedol, ac yn y pendraw yn is-lywydd yr ''Ecclesiological Society'' - cymdeithas a oedd yn hybu astudiaethau o bensaernïaeth Gothig ac o hynafiaethau Eglwysig. Ym 1847 bu'n un o olygyddion llyfr a gyhoeddwyd gan y gymdeithas ''Hand-Book of English Ecclesiology.'' |
||
Yn ystod ei fywyd bu Glynne yn ymweld â dros bum mil o eglwysi gan wneud nodiadau manwl am eu nodweddion pensaernïol< |
Yn ystod ei fywyd bu Glynne yn ymweld â dros bum mil o eglwysi gan wneud nodiadau manwl am eu nodweddion pensaernïol<ref>Cyngor Sir y Fflint - NODIADAU EGLWYSI SYR STEPHEN GLYNNE [http://www.siryfflint.gov.uk/cy/PDFFiles/Records-and-Archives/Source-Guide-No-11-NODIADAU-EGLWYSI-SYR-STEPHEN-GLYNNE.pdf] adalwyd 28 Rhagfyr 2014</ref>. Mae ei nodiadau yn dyddio o 1824 tan ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth ac maent yn cwmpasu eglwysi yng Nghymru, Lloegr ac [[Ynysoedd y Sianel]] ac ychydig yn yr [[Alban]] ac [[Iwerddon]]. Mae ei nodiadau yn parhau i gael eu gwerthfawrogi'n fawr gan haneswyr pensaernïol, gan eu bod yn aml yn rhoi cofnod byr a gwybodus o'r adeiladau fel yr oeddent cyn adferiadau Fictoraidd. |
||
[[Delwedd:Llyfrgell Sant Deiniol and Gladstone's Library Hawarden Penarlâg 35.JPG|bawd|[[Llyfrgell Gladstone]].]] |
[[Delwedd:Llyfrgell Sant Deiniol and Gladstone's Library Hawarden Penarlâg 35.JPG|bawd|[[Llyfrgell Gladstone]].]] |
||
Llinell 35: | Llinell 35: | ||
==Marwolaeth == |
==Marwolaeth == |
||
Bu farw Glynne o drawiad ar y galon y tu allan i orsaf reilffordd Bishopsgate ar 17 Mehefin, 1874 ar ôl ymweld ag eglwysi yn Essex a Suffolk<ref>MARWOLAETH DISYMWTH SYR STEPHEN GLYNNE Llais Y Wlad—26 Mehefin 1874 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3573398/ART18] adalwyd 28 Tachwedd 2014</ref>. Fe'i claddwyd yn Eglwys Penarlâg. |
Bu farw Glynne o drawiad ar y galon y tu allan i orsaf reilffordd Bishopsgate ar 17 Mehefin, 1874 ar ôl ymweld ag eglwysi yn Essex a Suffolk<ref>MARWOLAETH DISYMWTH SYR STEPHEN GLYNNE Llais Y Wlad—26 Mehefin 1874 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3573398/ART18] adalwyd 28 Tachwedd 2014</ref>. Fe'i claddwyd yn Eglwys Penarlâg.<ref>Y DIWEDDAR SYR STEPHEN GLYNNE Llais Y Wlad—3 Gorffennaf 1874 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3573413/ART40] adalwyd 28 Tachwedd 2014</ref> |
||
==Cyfeiriadau== |
==Cyfeiriadau== |
||
Llinell 43: | Llinell 43: | ||
{{Teitl Dil|du}} |
{{Teitl Dil|du}} |
||
{{bocs olyniaeth |
{{bocs olyniaeth |
||
| cyn=[[ |
| cyn=[[Henry Glynne]] |
||
| teitl=[[Aelod Seneddol]] dros [[Bwrdeistrefi Fflint (etholaeth seneddol)| |
| teitl=[[Aelod Seneddol]] dros [[Bwrdeistrefi Fflint (etholaeth seneddol)|Bwrdeistrefi Fflint]] |
||
| blynyddoedd=[[1832]] – [[1837]] |
| blynyddoedd=[[1832]] – [[1837]] |
||
| ar ôl=[[ |
| ar ôl=[[Charles Whitley Deans Dundas]]}} |
||
{{Teitl Dil|du}} |
{{Teitl Dil|du}} |
||
{{bocs olyniaeth |
{{bocs olyniaeth |
||
Llinell 61: | Llinell 61: | ||
{{diwedd-bocs}} |
{{diwedd-bocs}} |
||
{{DEFAULTSORT: |
{{DEFAULTSORT:Glynne, Syr Stephen Richard }} |
||
[[Categori:Aelodau Seneddol y Deyrnas Unedig]] |
|||
[[Categori:Genedigaethau 1807]] |
[[Categori:Genedigaethau 1807]] |
||
[[Categori:Gwleidyddion Cymreig y 19eg ganrif]] |
[[Categori:Gwleidyddion Cymreig y 19eg ganrif]] |
Fersiwn yn ôl 07:31, 17 Chwefror 2015
Roedd Syr Stephen Richard Glynne, 9fed Barwnig (22 Medi, 1807 - 17 Mehefin, 1874) yn dirfeddiannwr Gymreig ac yn wleidydd Ceidwadol. Fe'i cofir yn bennaf fel ymchwilydd ym maes yr hynafiaethau gyda diddordeb arbennig mewn pensaernïaeth eglwysig Prydain. Roedd yn frawd-yng-nghyfraith i'r Brif Weinidog Rhyddfrydol William Ewart Gladstone.[1]
Cefndir
Bu farw Syr Stephen yr 8fed farwnig ym 1815 yn 35 mlwydd oed. Gan hynny etifeddodd Stephen ei fab y farwniaeth ac ystadau'r teulu (a oedd yn cynnwys Castell Penarlâg) pan nad oedd ond 7 mlwydd oed.[2]
Priododd Catherine, chwaer Stephen Glynne, y gwleidydd William Ewart Gladstone. Daeth tad Gladstone, Syr John Gladstone, i'r adwy, pan achubodd Glynne rhag mynd yn fethdalwr ar ôl methiant gwaith haearn yr oedd yn rhan-berchennog arnynt[3]. Yr unig fodd iddo gadw Penarlâg oedd trwy werthu rhan o'r ystâd a chytuno i rannu ei gartref Castell Newydd Penarlâg gyda William a Catherine.
Bu Glynne farw'n ddibriod, a daeth y farwnigaeth i'w therfyn ar ei farwolaeth. Cafodd ystâd a chastell Penarlâg eu hetifeddu gan ei nai William Henry Gladstone, mab hynaf William a Catherine.
Gyrfa
Cafodd Glynne ei addysgu yng Ngholeg Eton a Choleg Christ Church, Rhydychen gan ennill gradd trydydd dosbarth yn y Clasuron.
Bu'n gwasanaethu fel Aelod Seneddol Ceidwadol Bwrdistrefi Fflint o 1832 i 1837 a Sir y Fflint o 1837 i 1841 ac eto o 1842 i 1847 er na siaradodd erioed mewn dadl yn Nhŷ'r Cyffredin. Bu hefyd yn Uchel Siryf Sir y Fflint ym 1831 ac yn Arglwydd Raglaw Sir y Fflint o 1845 i 1871.
Yn ystod ymgyrch etholiadol 1841, daeth Glynne ag achos enllib yn erbyn y Chester Chronicle, wedi i'r papur gyhoeddi honiad ei fod yn gyfunrywiol. Enillodd yr achos a bu'n rhaid i'r papur ymddiheuro.
Crefydd
O ran ei ddaliadau crefyddol yr oedd Glynne yn aelod pybyr o Eglwys Lloegr ac yn elyniaethus i achosion anghydffurfiol. Roedd yn gwrthod caniatáu i anghydffurfwyr gynnal cyfarfodydd o addoliad yn y pentrefi a oedd yn eiddo i'w ystâd.[4]
Er mwyn lleihau apêl y capeli yr oedd Glynne yn credu ei fod yn bwysig i'r Eglwys gynnig gwasanaethau Cymraeg a bu'n ddylanwadol wrth sicrhau bod y Cymro Cymraeg, John Hughes, yn cael ei benodi'n Esgob Llanelwy ym 1870.
Hynafiaethau
Yn codi o'i Anglicanaeth pybyr roedd gan Glynne diddordeb mawr mewn pensaernïaeth eglwysig. Roedd yn aelod o bwyllgor, yn ddiweddarach yn ysgrifennydd mygedol, ac yn y pendraw yn is-lywydd yr Ecclesiological Society - cymdeithas a oedd yn hybu astudiaethau o bensaernïaeth Gothig ac o hynafiaethau Eglwysig. Ym 1847 bu'n un o olygyddion llyfr a gyhoeddwyd gan y gymdeithas Hand-Book of English Ecclesiology.
Yn ystod ei fywyd bu Glynne yn ymweld â dros bum mil o eglwysi gan wneud nodiadau manwl am eu nodweddion pensaernïol[5]. Mae ei nodiadau yn dyddio o 1824 tan ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth ac maent yn cwmpasu eglwysi yng Nghymru, Lloegr ac Ynysoedd y Sianel ac ychydig yn yr Alban ac Iwerddon. Mae ei nodiadau yn parhau i gael eu gwerthfawrogi'n fawr gan haneswyr pensaernïol, gan eu bod yn aml yn rhoi cofnod byr a gwybodus o'r adeiladau fel yr oeddent cyn adferiadau Fictoraidd.
Mae nodiadau eglwysig Glynne wedi eu cadw mewn 106 o gyfrolau, sydd yn cael eu cadw yn Llyfrgell Gladstone (Llyfrgell Deiniol Sant gynt), Penarlâg.[6] Er na chyhoeddodd Glynne ei nodiadau yn ystod ei fywyd mae sawl gyfrol bellach wedi'u cyhoeddi gan gymdeithasau archeolegol a chofnodion lleol ers ei farwolaeth.
Bu Glynne hefyd yn gwasanaethu fel Llywydd cyntaf (1847-9) Cymdeithas Hynafiaethau Cymru; ac fel cadeirydd (1852-1874) Adran Bensaernïol y Sefydliad Archeolegol.
Marwolaeth
Bu farw Glynne o drawiad ar y galon y tu allan i orsaf reilffordd Bishopsgate ar 17 Mehefin, 1874 ar ôl ymweld ag eglwysi yn Essex a Suffolk[7]. Fe'i claddwyd yn Eglwys Penarlâg.[8]
Cyfeiriadau
- ↑ GLYNNE (TEULU), Penarlâg Y Bywgraffiadur arlein [1] adalwyd 28 Rhagfyr 2014
- ↑ GLYNNE, Sir Stephen Richard, 9th bt. (1807-1874), of Hawarden Castle, Flint The History of Parliament: the House of Commons 1820-1832, ed. D.R. Fisher, 2009 [2] adalwyd 28 Rhagfyr 2014
- ↑ THE OAK FARM IRON WORKS -Carnarvon and Denbigh Herald 22 Ionawr 1848 [3] adalwyd 27 Rhag 2014
- ↑ Court and Aristocracy -Welshman - 4 Mehefin 1841 [4] adalwyd 28 Rhagfyr 2014
- ↑ Cyngor Sir y Fflint - NODIADAU EGLWYSI SYR STEPHEN GLYNNE [5] adalwyd 28 Rhagfyr 2014
- ↑ Glynne, Sir Stephen Richard (1807-1874) 9th Baronet MP Antiquary [6] adalwyd 28 Rhagfyr 2014
- ↑ MARWOLAETH DISYMWTH SYR STEPHEN GLYNNE Llais Y Wlad—26 Mehefin 1874 [7] adalwyd 28 Tachwedd 2014
- ↑ Y DIWEDDAR SYR STEPHEN GLYNNE Llais Y Wlad—3 Gorffennaf 1874 [8] adalwyd 28 Tachwedd 2014
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Henry Glynne |
Aelod Seneddol dros Bwrdeistrefi Fflint 1832 – 1837 |
Olynydd: Charles Whitley Deans Dundas |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Edward Lloyd-Mostyn, 2il Farwn Mostyn |
Aelod Seneddol dros Sir y Fflint 1837 – 1841 |
Olynydd: Edward Lloyd-Mostyn |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Edward Lloyd-Mostyn |
Aelod Seneddol dros Sir y Fflint 1842 – 1847 |
Olynydd: Edward Lloyd-Mostyn |