John Evans (I. D. Ffraid): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎Cyfeiriadau: manion using AWB
Llinell 26: Llinell 26:
== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}

{{Authority control}}


{{DEFAULTSORT:Evans (I. D. Ffraid), John}}
{{DEFAULTSORT:Evans (I. D. Ffraid), John}}
Llinell 36: Llinell 38:
[[Categori:Marwolaethau 1875]]
[[Categori:Marwolaethau 1875]]
[[Categori:Pobl o Gonwy]]
[[Categori:Pobl o Gonwy]]

{{Authority control}}

Fersiwn yn ôl 06:22, 17 Chwefror 2015

Parch John Evans (I D Ffraid neu Adda Jones, 1814-75) NLW3364082

Geiriadurwr a chyfieithydd Cymreig oedd John Evans (23 Gorffennaf 1814 - 4 Mawrth 1875), sy'n fwy adnabyddus wrth ei lysenw I. D. Ffraid (hefyd: Adda Jones).[1]

Bywgraffiad

Ganwyd John Evans yn y Tŷ Mawr Llansanffraid Glan Conwy ar 23 Gorffennaf 1814 yn fab hynaf i David Evans, siopwr, a Grace (neé Roberts) ei wraig. Cafodd ei fedyddio yn Eglwys y plwyf ar 27in o'r un mis.[2]. Cafodd rhywfaint o addysg yn ysgol Thomas Hughes Abergele yn ystod 1824 ond erbyn 1825 yr oedd wedi ddychwelyd i Lansanffraid i weithio yn siop ei ewythr. Ym 1830 fe fu am dymor yn ddisgybl yn ysgol y Parch John Hughes yn Wrecsam, ysgol oedd yn rhoi rhywfaint o hyfforddiant i ddarpar weinidogion Methodistaidd yn y cyfnod cyn bod gan yr enwad athrofa swyddogol,[3] ond ni ddechreuodd pregethu tan 1840. Cafodd ei ordeinio yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ym 1853 (er na fu'n weinidog ar gapel erioed).

Priododd am y tro cyntaf ar y 9fed o Dachwedd 1836 ag Ann Williams a bu iddynt chwech o blant. Bu farw Ann ym 1850. Fe briododd am yr ail waith a Hanna (1812-1896) ym 1853.[4]

Bedd I D Ffraid Eglwys San Ffraid Glan Conwy

Bu farw ar 4ydd Mawrth 1875 yn ei gartref yn Llansanffraid Glan Conwy a chladdwyd ei weddillion ym mynwent eglwys y plwyf[5]. Cafwyd tanysgrifiad cenedlaethol o dan arweinyddiaeth Thomas Gee i godi cofadail ar ei fedd.[6]

Bywyd Cyhoeddus

Daeth yn adnabyddus trwy Gymru fel cyfieithydd Paradise Lost John Milton (Coll Gwynfa, 1865).[1] Roedd hwn yn llyfr dylanwadol iawn yn ei gyfnod a ysbardunodd sawl bardd i gyfansoddi cerddi ar y mesur moel di-odl.[7]

Cefnogai'r ymgyrch dros ryddid addoliad ac ysgrifenodd gyfres hir o dros 500 o lythyrau ar hyn a phynciau eraill dan y llysenw "Adda Jones" a gyhoeddwyd yn Baner ac Amserau Cymru rhwng 1869 ac 1874.[1]

Llyfryddiaeth

  • Hanes yr Iddewon (1831)
  • (cyfieithydd) Bywyd Turpin Leidr (John Jones, Llanrwst 1835). Hanes Dick Turpin.
  • Geiriadur Saesneg-Cymraeg (1847)
  • (golygydd a chyfranydd) Difyrrwch Bechgyn Glan Conwy (1855)
  • (cyfieithydd) Coll Gwynfa (1865)
  • Pennau Teuluol a'r Ysgol Sabothol (1870)

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru
  2. Cofnodion bedydd plwyf Llansanffraid blwyddyn 1814 rhif 54 (yng ngofal Archifdy Sir Ddinbych)
  3. MARWOLAETH Y PARCH JOHN T EVANS (I. D. FFRAID) yn Seren Cymru 19 Mawrth 1875 adalwyd 19 Chwef 2014
  4. Genedigaethau, Priodasau, Marwolaethau yn Y Cymro 11 Mehefin 1896 adalwyd 19 Chwef 2014
  5. Cofrestr Claddu Llansanffraid Glan Conwy tudalen 39 Rhif 311(yng ngofal Archifdy Sir Ddimbych)
  6. The late I D Ffraid yn y Llangollen Advertiser, Denbighshire, Merionethshire, and North Wales Journal 19 Mawrth 1875 adalwyd 19 Chwef 2014
  7. D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a Llenorion Cymraeg y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Lerpwl, 1922), tud. 89.