Bauhaus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Huw P (sgwrs | cyfraniadau) |
|||
Llinell 29: | Llinell 29: | ||
Fel canlyniad i'r problemau hyn, tyfodd gefnogaeth i [[Adolf Hitler]] a'r [[Natsïaid]] a oedd yn gweld celf fodern yn groes i'w syniadaeth eithafol. Fe gondemnion nhw'r Bauhaus yn [[Iddewiaeth|Iddewig]], [[Comiwnyddiaeth|Comiwnyddol]] ac yn [[Entartete Kunst]] ('celf ddirywiedig'). <ref>http://www.arthistoryunstuffed.com/bauhaus-the-fate-of-the-bauhaus/</ref> |
Fel canlyniad i'r problemau hyn, tyfodd gefnogaeth i [[Adolf Hitler]] a'r [[Natsïaid]] a oedd yn gweld celf fodern yn groes i'w syniadaeth eithafol. Fe gondemnion nhw'r Bauhaus yn [[Iddewiaeth|Iddewig]], [[Comiwnyddiaeth|Comiwnyddol]] ac yn [[Entartete Kunst]] ('celf ddirywiedig'). <ref>http://www.arthistoryunstuffed.com/bauhaus-the-fate-of-the-bauhaus/</ref> |
||
Ym 1925 bu rhaid i symud i [[Dessau]] oherwydd problemau ariannol a gwrthwynebiad y Natsïaid |
Ym 1925 bu rhaid i symud i [[Dessau]] oherwydd problemau ariannol a gwrthwynebiad y Natsïaid yn Weimar. |
||
Roedd Dessau'n dref ddiwydiannol gan roi'r cyfle i gydweithio gyda llawer o'r cwmnïau lleol i gynllunio eu cynnyrch. Ym 1928 ymddiswyddodd Gropius fel cyfarwyddwr a'i ddilynwyd gan y pensaer Hannes Meyer. Ond pan daeth y Natsïaid i rym yn Dessau hefyd ymddiswyddodd Hannes Meyer ym 1930. |
Roedd Dessau'n dref ddiwydiannol gan roi'r cyfle i gydweithio gyda llawer o'r cwmnïau lleol i gynllunio eu cynnyrch. Ym 1928 ymddiswyddodd Gropius fel cyfarwyddwr a'i ddilynwyd gan y pensaer Hannes Meyer. Ond pan daeth y Natsïaid i rym yn Dessau hefyd ymddiswyddodd Hannes Meyer ym 1930. |
Fersiwn yn ôl 15:49, 12 Chwefror 2015
Roedd y Bauhaus (bauen = adeiladu, haus = tŷ) yn goleg gelf, cynllunio a pensaernïaeth Almaeneg o 1919 -1933 a fu'n hynod o ddylanwadol ar ddyluniad modern yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif.
Sefydlwyd gan y pensaer Walter Gropius. Ei fwriad oedd uno celf, dylunio a phensaerniaeth.
Syniadaeth
Credai sylfaenwyr y Bauhaus roedd angen diwygio'r modd a ystyriwyd celf a phensaernïaeth i fod yn gyfrwng i drawsnewid cymdeithas a chreu gwell bywydau i bobl gyffredin.
Edrychai'r Bauhaus ar ddylunio mewn ffordd wyddonol. Rhoddwyd pwyslais ar godi statws crefftau i’r un lefel â chelf gain a phwysigrwydd dylunio ac ymarferoldeb defnydd ar gyfer cynnyrch masnachol i'r cyhoedd.[1]
Roedd y darlithwyr y Bauhaus yn cynnwys rhai o’r artistiaid mwyaf y cyfnod fel: Herbert Bayer, Lyonel Feininger, Walter Gropius, Johannes Itten, Wassily Kandinsky, Paul Klee, László Moholy-Nagy, Piet Mondrian, Ludwig Mies van der Rohe a Victor Vasarely.
Bu rhaid i fyfyrwyr gymryd cwrs sylfaen yn gyntaf er mwyn astudio egwyddorion craidd.
Penodwyd y peintiwr Johannes Itten ym 1919 i ddatblygu'r cwrs sylfaen. Yn lle copïo ac astudio gwaith arlunwyr enwog fel oedd yr arfer, o dan Itten bu'r myfyrwyr yn arbrofi ac yn archwilio lliw, ffurf, defnyddiau mewn awyrgylch rhydd. Gadwodd Ittens ym 1922 wrth i Gropius rhoi mwy o bwyslais ar dechnoleg a phenodwyd y constuctavist László Moholy-Nagy yn ei le. [2]
Ym 1928 ymddiswyddodd Gropius fel cyfarwyddwr a'i ddilynwyd gan y pensaer Hannes Meyer. Yn parhau gyda'r egwyddor o ddylunio ar gyfer cynhyrchu masnachol eang, ond yn symud i ffwrdd o elfennau o'r cwricwlwm oedd yn teimlo'n rhy ffurfiol gan bwysleisio defnydd cymdeithasol pensaernïaeth er budd y cyhoedd yn hytrach na moethusrwydd preifat. Bu hysbysebu, teipograffi a ffotograffiaeth yn amlwg yn gwaith y Bauhaus o dan ei arweiniad.
Gwrthwynebiad
Lleolwyd y Staatliches Bauhaus (Bauhaus Dinesig) yn wreiddiol yn nhref Weimar. Bu tref fach Weimar yn ganolfan llywodraeth Yr Almaen yn dilyn yr Rhyfel Byd Cyntaf.
Adnabyddir y cyfnod rhwng 1919 a 1933 yn yr Almaen fel Gweriniaeth Weimar a fu'n nodweddiadol am rhyddid a chreadigrwydd celfyddydol yn erbyn cefndir o ymladd gan grwpiau gwleidyddol Comiwnyddol ac asgell de, problemau economaidd a thlodi difrifol.
Fel canlyniad i'r problemau hyn, tyfodd gefnogaeth i Adolf Hitler a'r Natsïaid a oedd yn gweld celf fodern yn groes i'w syniadaeth eithafol. Fe gondemnion nhw'r Bauhaus yn Iddewig, Comiwnyddol ac yn Entartete Kunst ('celf ddirywiedig'). [3]
Ym 1925 bu rhaid i symud i Dessau oherwydd problemau ariannol a gwrthwynebiad y Natsïaid yn Weimar.
Roedd Dessau'n dref ddiwydiannol gan roi'r cyfle i gydweithio gyda llawer o'r cwmnïau lleol i gynllunio eu cynnyrch. Ym 1928 ymddiswyddodd Gropius fel cyfarwyddwr a'i ddilynwyd gan y pensaer Hannes Meyer. Ond pan daeth y Natsïaid i rym yn Dessau hefyd ymddiswyddodd Hannes Meyer ym 1930.
Roedd rhaid i'w olynydd Ludwig Mies van der Rohe cynnal y sefydliad yn wyneb gwrthwynebiad cynyddol. Bu rhaid symud yr ysgol eto ym 1932, y tro yma i Berlin cyn i'r Natsïaid gorfodi ei chau'n gyfan gwbl y flwyddyn ganlynol. [4]
Dylanwad
Gorfodwyd llawer o ddarlithwyr, arlunwyr a myfyrwyr a oedd yn gysylltiedig â'r Bauhaus ffoi o'r Almaen, sawl un i'r Unol Daleithiau fel Walter Gropius i Brifysgol Harvard, a Marcel Breuer a Joseph Albers ym Mhrifysgol Yale.
Wedi'r Ail Ryfel Byd daeth syniadaeth a ddatblygwyd gan y Bauhaus yn un o brif ddylanwadu dylunio a phensaernïaeth Moderniaeth a mae ei ôl i'w weld ar y cynnych, dodrefn, adeiladau, teipograffi, hysbysebion a thechnoleg a defnyddiwn bob dydd heddiw. [5] [6]
Dolenni
- http://www.metmuseum.org/toah/hd/bauh/hd_bauh.htm
- Arddangosfa ryngweithiol: http://www.moma.org/interactives/exhibitions/2009/bauhaus/Main.html
- Archif y Bauhaus Berlin: http://www.bauhaus.de/en/
Cyfeiriadau
- ↑ http://www.theartstory.org/movement-bauhaus.htm
- ↑ http://bauhaus-online.de/en/atlas/das-bauhaus/lehre
- ↑ http://www.arthistoryunstuffed.com/bauhaus-the-fate-of-the-bauhaus/
- ↑ The 20th-Century art book.|year=2001|publisher=Phaidon Press|location=London|isbn=0714835420|edition=Reprinted.
- ↑ http://www.architectweekly.com/2012/12/why-was-bauhaus-style-so-important.html
- ↑ Bauhaus Culture: From Weimar to the Cold War, Kathleen James-Chakraborty, ISBN-10: 0816646880, ISBN-13: 978-0816646883, University of Minnesota Press (18 July 2006)