William Hazell: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 27: Llinell 27:
Ryfel y Boer]]. Ail briododd y tad yn nes ymlaen ond roedd y llysfam yn angharedig a gadawodd William am dde Cymru. Yn 16 oed, yn y flwyddyn 1906, dechreuodd weithio ym mhwll glo ''Lady Windsor'' yn Ynysybŵl.
Ryfel y Boer]]. Ail briododd y tad yn nes ymlaen ond roedd y llysfam yn angharedig a gadawodd William am dde Cymru. Yn 16 oed, yn y flwyddyn 1906, dechreuodd weithio ym mhwll glo ''Lady Windsor'' yn Ynysybŵl.


Priododd ferch leol, Deborah Elizabeth Pask, ym 1910 a chawsant 6 o blant ac yn ôl pob sôn fe’i ystyriwyd yn ŵr a thad da.
Priododd ferch leol, Deborah Elizabeth Pask, ym 1910 a chawsant 6 o blant ac yn ôl pob sôn fe’i ystyriwyd yn ŵr a thad da.<ref>William Hazell’s Gleaming Vision - Alan Burge, Y Lolfa , 9781784610081</ref>

Bu farw ym xxxxx <ref>William Hazell’s Gleaming Vision - Alan Burge, Y Lolfa , 9781784610081</ref>


== Mudiad Cydweithredol==
== Mudiad Cydweithredol==

Fersiwn yn ôl 10:15, 10 Chwefror 2015

William Hazell
GalwedigaethGlöwr


Roedd William Hazell (27 Gorffenaf, 1890 - 11 Tachwedd, 1964) yn aelod ac yna yn llywydd Cymdeithas Gydweithredol Ynysybŵl , Rhondda am 30 mlynedd, Roedd ganddo weledigaeth eang ynglŷn â chreu gwell dyfodol drwy'r mudiad cydweithredol.

Mae busnes Cydweithredol (Saesneg Co-operative) yn fusnes ble mae'r gweithwyr yn berchenogion a'r cwmni ac yn cael pleidleisio ar sut mae rheoli yn hytrach na chyfranddalwyr (Saesneg: Shareholders). Bu nifer fawr o fentrau cydweithredol trwy dde Cymru yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.

Ym 1954 ysgrifennodd y llyfr, The Gleaming Vision, sef hanes Cymdeithas Gydweithredol Ynysybŵl. Mae’n cofnodi’r modd yr aeth pobl gyffredin ati i drefnu agweddau economaidd a chymdeithasol ar eu bywydau gan ddarparu gwasanaethau cydweithredol ar gyfer eu cymuned. Mae clawr y lyfr, yn dwyn y slogan, “Yet Before Us Gleams the Vision of the Coming Brotherhood”. [1]


Bywyd

Ym 2014 cyhoeddwyd y llyfr - William Hazell’s Gleaming Vision gan gyhoeddwyr Y Lolfa.

Ganed ym 1890 yn St Pancras, Llundain, yr ieuengaf o 5 o blant a’i fagu yn Kentish Town. Pan yn blentyn cymerodd ei dad, a oedd yn ffariar, William i wrthdystiadau sosialaidd ac i Fynwent Highgate i weld bedd Karl Marx.

Yn 7 oed collodd ei fam a gadawodd ei dad am Ryfel y Boer. Ail briododd y tad yn nes ymlaen ond roedd y llysfam yn angharedig a gadawodd William am dde Cymru. Yn 16 oed, yn y flwyddyn 1906, dechreuodd weithio ym mhwll glo Lady Windsor yn Ynysybŵl.

Priododd ferch leol, Deborah Elizabeth Pask, ym 1910 a chawsant 6 o blant ac yn ôl pob sôn fe’i ystyriwyd yn ŵr a thad da.[2]

Mudiad Cydweithredol

Ynysybŵl: y Stryd Fawr heddiw.

Pan gyrhaeddodd Hazell dde Cymru roedd ymwybyddiaeth gwleidyddol y dosbarth gweithiol ar gynnydd. Cefnwyd yn gynyddol ar y Plaid Ryddfrydol a thyfodd y mudiad llafur. Codwyd cangen o’r Blaid Lafur Annibynnol (I.L.P.) yn Ynysybŵl ym 1906 ac ar yr un pryd daeth Cyfrinfa Pwll Lady Windsor yn llawer fwy sosialaidd.

Cafwyd cyfarfodydd cyhoeddus gwleidyddol poblogaidd gydag anerchiadau gan ffigyrau megis John McLean a Sylvia Pankhurst.

Pan daeth yn llywydd y Gymdeithas Gydweithredol ym 1935, roedd ganddi 3,345 o aelodau gyda gwerthiant yn llai na £160,000. Pan bu farw ym 1964 roedd gan y Gymdeithas dros 20,000 o aelodau gyda gwerthiant o dros £2 filiwm.

Yn ei anterth roedd gan y mundiad Cydweithredol 300,000 o aelodau trwy dde Cymru gyda Chymdeithas Gydweithredol Ynysybŵl yn fenter a oedd yn gynnwys: cigydd, nwyddau tŷ, asiantaeth teithio, caffi, adeiladu, peintio ac addurno, peirianyddiaeth moduron, trin gwallt, teganau, trysio teledu a radio, esgdiau, optegydd, trefnu angladdau, chwaraeon, unedau ystafell ymolchi, gyda chanolfannau dosbarthu bara a llaeth. [3]

Cyhoeddodd Hazel doreth o erthyglau (400 o leiaf). Roedd o flaen ei amser o ran cwestiynau cyfartaledd rhyw ac amgylcheddol. Gwelai werth gweithredu gwirfoddol ac ofnai law drom y wladwriaeth.

Roedd Hazell yn weithgar nid yn unig gyda Chymdeithas Gydweithredol Ynysybŵl ond hefyd gyda chyfrinfa pwll Lady Windsor lle y bu’n gadeirydd ar gyfnodau. Bu’n ysgrifennydd Institiwt y Gweithwyr, yn aelod etholedig o’r cyngor lleol am bron 30 mlynedd, yn Gristion argyhoeddedig, yn ddiacon, yn ffyddlon i’w gapel Presbyteraidd.

Dadleuai bod yr undebau llafur erbyn y cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd yn gynyddol ganoledig fwyfwy dan fawd y prif swyddfa.

Er yn gefnogol i’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol gofidiai am golli rheolaeth leol a’r elfennau democrataidd a gwirfoddol. Ofnai wladwriaeth les rhy fawr, biwrocrataidd ac aneffeithiol.

Er ei fod yn edmygu gwaith Marx roedd yn gynyddol feirniadol o’r [[Comiwnyddiaeth|Blaid Gomiwnyddol oherwydd y cytundeb rhwng Stalin a Hitler a’r hyn ddigwyddodd yn nwyrain Ewrop ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Erbyn 1953 daeth i’r casgliad y gallasai’r byd fod yn well a hapusach lle pe buasai wedi dilyn Robert Owen yn hytrach na Marx. [4]

Dolenni/Darllen Pellach

  • William Hazell’s Gleaming Vision - Alan Burge, Y Lolfa , 9781784610081


Cyfeiriadau

  1. William Hazell’s Gleaming Vision - Alan Burge, Y Lolfa , 9781784610081
  2. William Hazell’s Gleaming Vision - Alan Burge, Y Lolfa , 9781784610081
  3. http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/how-co-operative-movement-dominated-valleys-8391484
  4. William Hazell’s Gleaming Vision - Alan Burge, Y Lolfa , 9781784610081