Neidio BASE: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Parasiwtio oddi ar strwythyr neu glogwyn sefydlog yw '''neidio BASE'''. Datblygodd neidio BASE fel camp yn ystod dechrau'r 1980au, a chaiff y gamp ei hen...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 23:56, 31 Ionawr 2015
Parasiwtio oddi ar strwythyr neu glogwyn sefydlog yw neidio BASE. Datblygodd neidio BASE fel camp yn ystod dechrau'r 1980au, a chaiff y gamp ei henw o'r talfyriad Saesneg o'r mannau cychwyn sefydlog y gellir neidio oddi arnynt, sef: adeiladau, antenau, rhychwant (pontydd) a'r ddaear (Yn y Saesneg: Buildings, Antennas, Spans, Earth).
Yn 1986, y Cymro Eric Jones, oedd y cyntaf i neidio BASE oddi ar fynydd yr Eiger. Mae Eric Jones hefyd wedi neidio oddi ar y rhaeadr uchaf yn y byd, sef Kerepakupai Vená (Rhaeadr Angel) yn Feneswela, ac i fewn i Ogof y Gwenoliaid (Sotano de las Golodrinas) ym Mecsico.