Malawi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B newid hen enw, replaced: Tanzania → Tansanïa, Zambia → Sambia using AWB |
SeoMac (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 13: | Llinell 13: | ||
|teitlau_arweinwyr = [[Arlywydd Malawi|Arlywydd]] |
|teitlau_arweinwyr = [[Arlywydd Malawi|Arlywydd]] |
||
|math_o_lywodraeth = [[Gweriniaeth|Gweriniaeth amlbleidiol]] |
|math_o_lywodraeth = [[Gweriniaeth|Gweriniaeth amlbleidiol]] |
||
|enwau_arweinwyr = [[ |
|enwau_arweinwyr = [[Peter Mutharika]] |
||
|digwyddiad_sefydlu'r_wladwriaeth = Sefydliad |
|digwyddiad_sefydlu'r_wladwriaeth = Sefydliad |
||
|digwyddiadau_gwladwriaethol = Rhoddir Annibyniaeth |
|digwyddiadau_gwladwriaethol = Rhoddir Annibyniaeth |
Fersiwn yn ôl 07:44, 31 Ionawr 2015
| |||||
Arwyddair: Unity and Freedom (Saesneg): Undeb a Rhyddid | |||||
Anthem: Mlungu dalitsani Malawi | |||||
Prifddinas | Lilongwe | ||||
Dinas fwyaf | Blantyre | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Saesneg (swyddogol), Chichewa (cenedlaethol) | ||||
Llywodraeth | Gweriniaeth amlbleidiol | ||||
Arlywydd | Peter Mutharika | ||||
Sefydliad Rhoddir Annibyniaeth |
6 Gorffennaf, 1964 | ||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
118,484 km² (99eg) 20.6 | ||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2005 - Cyfrifiad 1998 - Dwysedd |
12,884,000 (69eg) 9,933,868 109/km² (91af) | ||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $7,670,000,000 (143ydd) $596 (181af) | ||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.404 (165eg) – isel | ||||
Arian cyfred | Kwacha (D) (MWK )
| ||||
Cylchfa amser - Haf |
CAT (UTC+2) CAT (UTC+2) | ||||
Côd ISO y wlad | .mw | ||||
Côd ffôn | +265
|
Gwlad yn ne Affrica yw Gweriniaeth Malawi, neu Malawi (yn Saesneg: Republic of Malawi, yn Chichewa: Dziko la Malaŵi). Y gwledydd cyfagos yw Tansania i'r gogledd, Sambia i'r gorllewin, a Mosambic i’r de a'r dwyrain. Mae'n annibynnol ers 1964. Prifddinas Malawi yw Lilongwe.
Daearyddiaeth Malawi
- Prif: Daearyddiaeth Malawi
Gwlad hir a chul, heb arfordir, yw Malawi. Mae rhan ogleddol y wlad ar ochr orllewinol Llyn Malawi. Yn y gogledd, saif rhwng Sambia yn y gorllewin a Tansanïa a Mosambic yn y dwyrain, yr ochr draw i Llyn Malawi. Yn y de, mae'r wlad yn ymestyn i mewn i Mosambic ar hyd dyffryn afon Shire. Nid oes gan Malawi arfordir, ond mae rheilffordd yn ei chysylltu a phorthladdoedd Nacala a Beira yn Mosambic.
Rhed y Dyffryn Hollt Mawr ar hyd y wlad o'r gogledd i'r de, a cheir nifer o lynnoedd yn y dyffryn. Llyn Malawi yw'r trydydd llyn yn Affrica o ran arwynebedd. Llifa afon Shire o ben deheuol y llyn i ymuno ag afon Zambezi yn Mosambic. Bob ochr i'r Dyffryn Hollt, mae'r wlad yn un fynyddig. Yn y gogledd, mae Ucheldir Nyika yn cyrraedd 2,600 medr uwch lefel y môr, ac i'r de o Lyn Malawi mae Ucheldiroedd Shire, sy'n cyrraedd uchder o 2,130 m ar Ucheldir Zomba a 3,002 m yn Mynyddoedd Mulanje.
Mae dwysder poblogaeth Malawi yn uchel i wlad yn Affrica. Y ddinas fwyaf, yn ôl pob tebyg, yw Blantyre, gyda phoblogaeth o tua 500,000, tra mae poblogaeth y brifddinas, Lilongwe, dros 400,000. Mae'r tywydd yn drofannol, gyda tymor glawog rhwng Tachwedd ac Ebrill, ac ychydig iawn o law rhwng Mai a Hydref. Ar y tir isel ceir tymheredd o tua 27° to 29 °C rhwng Medi ac Ebrill, a tua 23° rhwng Mai a Medi.
Hanes Malawi
- Prif: Hanes Malawi
Cafwyd hyd i olion hominid yn dyddio'n ôl tua miliwn o flynyddoedd yn yr ardal yma, ac roedd pobl gynnar yn byw ar lannau Llyn Malawi 50,000 i 60,000 o flynyddoedd yn ôl. Gelwir y trigolion cynnar yr Akufula neu'r Batwa. Hwy oedd yn gyfrifol am yr arlunwaith craig i'r de o Lilongwe, yn Chencherere a Mphunzi.
Yn ystod y 16eg ganrif, sefydlwyd gwladwriaeth Maravi gan gangen o'r bobloedd Bantu o gwmpas Llyn Malawi. Dywedir fod yr enw "Malawi" yn dod o "Maravi". Tyfodd tiriogaeth y wladwriaeth i ymestyn o ardaloedd Tumbuka a Tonga yn y gogledd i ran isaf afon Shire yn y de, ac i'r gorllewin cyn belled a dyffrynoedd Luangwa a Zambezi. Roedd rheolwyr Maravi yn perthyn i dylwyth y Phiri, ac yn dwyn y teitl Kalonga. Manthimba oedd eu prifddinas. Prif iaith y Maravi oedd Chichewa.
Yn y 19eg ganrif, symudodd nifer o bobloedd eraill i'r ardal. Daeth pobl y Ngoni, neu'r Angoni, o ardal Natal, yn yr hyn sy'n awr yn Dde Affrica, yn ffoi oddi wrth Ymerodraeth y Zulu, oedd yn ymestyn ei grym dan Shaka Zulu. Grŵp arall o fewnfudwyr oedd yr Yao neu Ayao, o'r hyn sy'n awr yn ogledd Mosambic. Cyn hir roedd y Maravi yn dioddef oherwydd ymosodiadau eu cymdogion, y Ngoni a'r Yao, ac yn aml yn cael eu gwerthu fel caethweision. Roedd yr Yao wedi troi at Islam, ac wedi datblygu partneriaeth a marsiandïwyr caethion Arabaidd.
Roedd y Portiwgeaid wedi ymsefydlu ar yr arfordir ers yr 16eg ganrif, ond ymddengys mai'r Ewropead cyntaf i gyrraedd Llyn Malawi oedd David Livingstone yn 1859. Yn ystod y blynyddoedd nesaf, sefydlodd cenhadon Albanaidd yn y wlad. Yn 1891, daeth y diriogaeth yn than o'r Ymerodraeth Brydeinig, ac yn 1907 rhoddwyd yr enw Nyasaland arni.
Yn ystod y 1950au, bu nifer o ymgyrchoedd i geisio ennill annibyniaeth. Un o'r arweinwyr oedd Dr Hastings Kamuzu Banda, a ddaeth yn Brif Weinidog pan ddaeth Malawi yn wlad annibynnol yn 1964, ac yn Arlywydd ddwy flynedd yn ddiweddarach. Dim ond un blaid a ganiateid, ac yn 1970, cyhoeddwyd Banda yn Arlywydd am Oes.
Yn 1993, pleidleisiodd pobl Malawi mewn refferendwm dros gael system ddemocrataidd, sydd wedi parhau ers hynny. Bingu wa Mutharika oedd yr arlywydd o 2004 tan ei farwolaeth yn Ebrill 2012.
Gwleidyddiaeth Malawi
Iaith a diwylliant
Yn ogystal â Saesneg mae Chichewa yn iaith swyddogol sy'n cael ei siarad gan 57.2% o'r boblogaeth. Yr ieithoedd brodorol eraill yw Chinyanja (12.8%), Chiyao (10.1%), Chitumbuka (9.5%), Chisena (2.7%), Chilomwe (2.4%), a Chitonga (1.7%). Ceir sawl iaith arall (3.6%). (Cyfrifiad 1998, CIA World Factbook).
Economi Malawi
- Prif: Economi Malawi
Gweler hefyd
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.