Ffracio: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newydd
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:43, 25 Ionawr 2015

Ffracio gyda dŵr, dan wasgedd uchel

Ffracio (neu ffracio hydrolig) yw'r dull o dorri creigiau drwy wasgu gyda hylif sy'n cynnwys dŵr, tywod a chemegolion. Ceir ffracio naturiol ar adegau, e.e. mewn daeareg ceir gwythiennau a deics.[1] Mae'r hylif yn cael ei bwmpio dan bwysau enfawr i dyllau a wnaed gan ddril mewn craig, sy'n achosi i'r graig gracio ymhell o dan wyneb y ddaear. Drwy'r craciau hyn rhyddheir nwy, petroliwm a dŵr hallt. Mae'r gronynnau tywod yn yr hylif yn dal pob hollt bychan ar agor, sy'n caniatáu i'r nwyon a'r petroliwm ddianc o'r graig, a'i sugno i fyny i'r wyneb.

Dechreuwyd arbrofi gyda ffracio hydrolig yn 1947, a chychwynodd y gwaith masnachol cyntaf yn 1950. Yn 2012 roedd ffracio hydrolig wedi cymryd lle ar 2.5 miliwn o adegau, mewn gwahanol rannau o'r byd gyda ffynhonnau olew a ffynhonnau nwy. Roedd dros miliwn o'r rhain wedi digwydd yn Unol Daleithiau America.[2].

Ffracio ar waith

Mae ffracio'n destun dadl ym mhob cwr o'r byd, gyda rhai yn ei weld yn fwy 'gwyrdd' nag ynni niwclear ac yn ateb sydyn i'r broblem o ryddhau hydrocarbonau, ar y naill law.[3][4] Ar y llaw arall ceir dadleuon bod ffracio yn medru halogi'r gronfa ddŵr tanddaearol, yn halogi'r aer, yn creu sŵn ac y gall hyn effeithio ar iechyd pobl yn ogystal â'r amgylchedd. Cred gwrthwynebwyr ffracio hefyd y gall ffracio sbarduno daeargrynfeydd.[5]

pan fo ffawtiau naturiol mewn craig, gall ffracio achosi problemau seismig; gwaharwddwyd ffracio mewn ardaloedd lle gwyddys fod y broblem hon yn bodoli; ond ar adegau mae'r ffawltiau'n bodoli heb yn wybod i'r daearegydd a gall chwistrellu hylif dan bwysau achosi gweithgaredd seismig a all, yn ei dro, achosi daeargrynfeydd bychan a difrod i adeiladau.[6]

Cymru

Mae unrhyw benderfyniadau ynglŷn ffracio'n cael eu gwneud yn San Steffan yn hytrach na Chaerdydd. Mae hyn yn gwbwl wahanol i'r sefyllfa yn yr Alban. Dywedodd Dr Dai Lloyd, Plaid Cymru: "Felly paham gwahaniaethu yn erbyn Cymru – unwaith yn rhagor – a’n trin fel cenedl eilradd?

“Mae Plaid Cymru hefyd yn cefnogi moratoriwm ar ffracio i adlewyrchu ei effeithiau ar newid hinsawdd, yr amgylchedd, iechyd a diogelwch, a’r economi.”"[7]

Yn 2014 gwelwyd nifer o brotestiadau yn erbyn ffracio, ond nid yr un dros ffracio yng Nghymru. Cadwynodd nifer o wrthwynebwyr a oedd yn aelodau o Reclaim the Power eu hunain i ffesys gwaith adeiladu yn Abertawe.[8]

Unol Daleithiau America

Rhagfynegiad EIA o gynhyrchu olew yn yr UDA hyd at 2040.[9]:1
Rhagfynegiad EIA o gynhyrchu nwy yn yr UDA hyd at 20140.[9]:2

Yn 2010 roedd 26% o'r nwy a gynhyrchwyd yn yr UDA yn dod o dywodfaen tynn (tight sandstone) a 23% o siâl, sy'n rhoi cyfanswm a gynhyrchwyd drwy ffracio yn 49% - bron i hanner holl gynnyrch olew a nwy yr Unol Daleithiau.[10] Wrth i'r UDA gynhyrchu mwy-a-mwy nid oedd angen mewnforio cymaint o wledydd eraill; yn 2012 mewnforiodd UDA 32% yn llai nag yn 2007.[11] Yn 2013 rhagwelodd Gweinyddiaeth Gwybodaeth Ynni yr UDA y byddant yn allforio yn hytrach nag yn mewnforio erbyn 2020. Mae hyn yn golygu fod gwledydd fel Sawdi Arabia'n allforio llawer llai o nwy ac olew (neu betroliwm) nag yr oeddent ddeg mlynedd yn ôl. Oherwydd hyn, a rhai ffactorau eraill, gwelwyd gostyngiad ym mhrisiau olew ledled y byd.[12]

Cyfeiriadau

  1. Blundell D., (2005). "Processes of tectonism, magmatism and mineralization: Lessons from Europe". Ore Geology Reviews 27: 340. http://books.google.co.uk/books?id=4DZCHESg9R4C&pg=PA340&dq=%22hydraulic+fracturing%22+veins+dykes&hl=en&sa=X&ei=K38oVK6UNKGf7gaW3oGwDw&ved=0CDMQ6AEwAA#v=onepage&q=%22hydraulic%20fracturing%22%20veins%20dykes&f=false.
  2. King, George E (2012) (PDF), Hydraulic fracturing 101, 'Society of Petroleum Engineers', Paper 152596, http://www.kgs.ku.edu/PRS/Fracturing/Frac_Paper_SPE_152596.pdf
  3. IEA (29 May 2012). Golden Rules for a Golden Age of Gas. World Energy Outlook Special Report on Unconventional Gas (PDF). OECD. tt. 18–27.
  4. Hillard Huntington et al. Adroddiad EMF 26: Changing the Game? Emissions and Market Implications of New Natural Gas Supplies. Stanford University. Energy Modeling Forum, 2013.
  5. Brown, Valerie J. (February 2007). "Industry Issues: Putting the Heat on Gas". Environmental Health Perspectives (US National Institute of Environmental Health Sciences) 115 (2): A76. doi:10.1289/ehp.115-a76. PMC 1817691. PMID 17384744. http://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC1817691/. Adalwyd 2012-05-01.
  6. Jared Metzker (7 Awst 2013). "Govt, Energy Industry Accused of Suppressing Fracking Dangers". Inter Press Service. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2013.
  7. [http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/175569-ffracio-dylai-pobol-cymru-benderfynu?utm_source=twitterfeed&utm_medium=twitter 25 Ionawr 2015; adalwyd 25 Ionawr 2015
  8. Golwg 360; adalwyd 25 Ionawr 2015
  9. 9.0 9.1 AEO2013 Early Release Overview (Adroddiad). U.S. Energy Information Administration. http://www.eia.gov/forecasts/aeo/er/pdf/0383er(2013).pdf. Adalwyd 17 Medi 2014.
  10. US Energy Information Administration, United States Annual Energy Outlook 2012, tud.208.
  11. US Energy Information Administration, Natural gas imports
  12. Adam Sieminski, U.S. Energy Outlook, US Energy Information Administration, 14 Mar. 2013, p.12.