Alvin Langdon Coburn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 11: Llinell 11:
| galwedigaeth =Ffotograffydd arloesol<br>Saer Rhydd
| galwedigaeth =Ffotograffydd arloesol<br>Saer Rhydd
}}
}}
Bu '''Alvin Langdon Coburn''' (11 Mehefin , 1882 - 23 Tachwedd, 1966) yn arloeswr ffotograffiaeth gynnar a rhoddodd y gorau i'w yrfa fel un o ffotograffwyr enwocaf ei gyfnod er mwyn symud i fyw yn [[Harlech]] ac wedyn [[Llandrillo-yn-Rhos]] i ganolbwyntio ar fod yn [[Seiri Rhyddion|Saer Rhydd]].
Bu '''Alvin Langdon Coburn''' ([[11 Mehefin]] [[1882]] - [[23 Tachwedd]] [[1966]]) yn arloeswr ffotograffiaeth gynnar a rhoddodd y gorau i'w yrfa fel un o ffotograffwyr enwocaf ei gyfnod er mwyn symud i fyw yn [[Harlech]] ac wedyn [[Llandrillo-yn-Rhos]] i ganolbwyntio ar fod yn [[Seiri Rhyddion|Saer Rhydd]].


Arbrofodd a thorrodd tir newydd gyda sawl techneg ac arddull. Cysylltir yn amlaf gyda ''Pictorialism'' a chreu delweddau ''Vortographs'' a oedd wedi'u dylanwadu gan y symudiad celfyddydol Seisnig ''Vorticism''.
Arbrofodd a thorrodd tir newydd gyda sawl techneg ac arddull. Cysylltir yn amlaf gyda ''Pictorialism'' a chreu delweddau ''Vortographs'' a oedd wedi'u dylanwadu gan y symudiad celfyddydol Seisnig ''Vorticism''.

Fersiwn yn ôl 16:09, 23 Ionawr 2015

Alvin Langdon Coburn
GalwedigaethFfotograffydd arloesol
Saer Rhydd

Bu Alvin Langdon Coburn (11 Mehefin 1882 - 23 Tachwedd 1966) yn arloeswr ffotograffiaeth gynnar a rhoddodd y gorau i'w yrfa fel un o ffotograffwyr enwocaf ei gyfnod er mwyn symud i fyw yn Harlech ac wedyn Llandrillo-yn-Rhos i ganolbwyntio ar fod yn Saer Rhydd.

Arbrofodd a thorrodd tir newydd gyda sawl techneg ac arddull. Cysylltir yn amlaf gyda Pictorialism a chreu delweddau Vortographs a oedd wedi'u dylanwadu gan y symudiad celfyddydol Seisnig Vorticism.

Ganwyd yn ninas Boston, Massachusetts, Unol Daleithiau i deulu cyfoethog. Symudodd i Lundain cyn rhoi'r gorau i'w yrfa ffotograffig a symud eto i fyw yng Nghymru. Derbyniodd wahoddiad i ymuno â Gorsedd y Beirdd ym 1927. [1]


Bywyd Cynnar a Ffotograffiaeth

Spiderwebs, Photogravuere a gyhoeddwyd yn Camera Work, Rhif 21, 1908

Dechreuodd Langdon Coburn dynnu lluniau yn wyth oed pan gafodd gamera Kodak 4x5 yn anrheg. Amlygodd ei ddalent am ffotograffiaeth bron yn syth a dangoswyd ei waith gyda llawr o elît byd y camera.

Yn 16 oed cyfarfu â'r ffotograffydd rhyngwladol enwog F. Holland Day a fu'n gymorth mawr iddo gael i waith mewn arddangosfa'r Royal Photograhic Society yn Llundain.

Fel canlyniad i'w luniau cael eu gweld yn Llundain fe wahoddwyd i ymuno'r grŵp ffotograffig y Linked Ring gan Fredrick H, Evans. Hefyd cyhoeddwyd Alfred Stieglitz ei luniau yng nghylchgrawn 'Camera'. Y ddau yn enwau mawr ffotograffiaeth y cyfnod a'i gynorthwyodd i ddysgu ac arddangos.

Teithiodd yn helaeth rhwng Ewrop a'r Unol Daleithiau o 1899 a 1912. Tynnodd luniau tirweddau a dinasoedd, yn enwedig yn Llundain ond roedd yn fwyaf adnabyddus am gyfres o bortreadau enwogion. Ymhlith yr enwau mawrion a dynnoedd eu lluniau mae awduron ac artistiaid fel Henri Matisse, George Bernard Shaw, G.K. Chesterton, Auguste Rodin, Mark Twain, Theodore Roosevelt, W.B. Yeats a H.G. Wells.

Ar ddechrau'r 20fed ganrif bu ffotograffiaeth yn dal yn ddyfodiad cymharol newydd gyda byd celf y cyfnod yn araf i'w hystyried a'i harddangos ochr ac ochr a pheintio a cherfluniaeth. Roedd gwaith tirwedd Pictorialist Langdon Coburn yn gyfraniad sylweddol wrth ddatblygu a chydnabod ffotograffiaeth yn gelfyddyd yn hytrach na dim ond yn 'gynnyrch peiriant'. Ystyrir Langdon Coburn a Stieglitz yn sylfaenwyr Pictorialism.

Arbrofodd hefyd gydag Autochrome Lumière a fu'n broses ffotograffiaeth liw arloesol.

Yn 1912 fe briododd â Edith Wightman Clement yn Boston a symudodd y cwpl i Loegr gan beidio byth â dychwelyd i'r Unol Daleithiau.

Yn Llundain, (yn rhannol o dan ddylanwad ei gyfaill y bardd Ezra Pound) fe gydweithiodd gyda grŵp avant-garde newydd y Vorticists. Yn ystod y cyfnod hwn, fe newidiodd i ffotograffiaeth haniaethol (abstract), a'u alwodd yn vortographs. Defnyddiwyd drychau a gwydrau dros lens y camera i greu patrymau rhanedig yn debyg i waith peintwyr Ciwbaidd a Dyfodolwyr (Futurists) y cyfnod. Ystyrir ei vortographs yn arloesol wrth torri tir newydd yn natblygiad ffotograffiaeth gynnar. [2]

Symud i Gymru a'r Seiri Rhyddion

Plac ar ei hen dŷ yn Harlech

Collodd Langdon Coburn ei ddiddordeb yn ffotograffiaeth am obsesiwn gyda mysticism, hud a lledrith, derwyddon ac yn dod yn aelod brwd o'r Seiri Rhyddion. Fel llawer o artistiaid a llenorion y cyfnod bu'n aelod o'r 'Theosophical Society' mudiad a ymddiddorodd yn hud a mysticism.

Dechreuodd gysylltiad Langdon Coburn gyda Chymru ym 1916 pan ymwelodd â Harlech ar wahoddiad George Davison (1854-1930), pennaeth Kodak yng ngwledydd Prydain. Dwy flynedd yn ddiweddarach fe brynodd darn o dir yn Harlech ac adeiladodd tŷ hâf a alwodd yn 'Cae Besi'.

Wrth iddo golli pob diddordeb yn ffotograffiaeth dywedir iddo daflu dros 15,000 o blatiau gwydr a negatifau ffotograffig a wedyn symud i fyw yn barhaol Harlech.

Fel aelod selog o'r Seiri Rhyddion ddaeth yn Inspector General, Thirty-third Degree, for North Wales of The Ancient and Accepted Rite a hefyd yn Provincial Grand Master of the Mark Degree for North Wales. Hefyd ymchwiliodd mewn i hanes, seremonïau a symbolau'r Seiri Rhyddion gan deithio trwy Gymru a Lloegr i ymweld â nifer fawr o 'Lodges'.

Gwahoddwyd i ymuno â Gorsedd y Beirdd ym 1927, yn derbyn y wisg werdd yn Eisteddfod Lerpwl.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd symudodd i fyw yn Llandrillo-yn-Rhos ger Fae Colwyn ble bu'n byw tan ddiwedd ei oes ym 1966 yn Awen, Ebberstone Road East. [3] [4]


Portreadau

Llundain 1920au

Darllen pellach

  • Alvin Langdon Coburn, Alvin Langdon Coburn, Photographer, An Autobiography, Dover Publications, 1978, ISBN 0-486-23685-4

Dolenni

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Cyfeiriadau