Bwdhaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
→Y Llwybr Wythblyg Doeth: dadwneud fandaliaeth fwriadol |
||
Llinell 19: | Llinell 19: | ||
===Y Llwybr Wythblyg Doeth=== |
===Y Llwybr Wythblyg Doeth=== |
||
#Safbwynt Cyfiawn - Sylweddoli'r Pedwar Gwiredd Doeth''' |
#Safbwynt Cyfiawn - Sylweddoli'r Pedwar Gwiredd Doeth''' |
||
#Gwerthoedd Cyfiawn - Ymrwymiad i |
#Gwerthoedd Cyfiawn - Ymrwymiad i dyfiant meddyliol a moesol mewn cymedroldeb |
||
#Iaith Gyfiawn - Siarad mewn modd di-drais, gan ddweud y gwir, a heb or-ddweud |
#Iaith Gyfiawn - Siarad mewn modd di-drais, gan ddweud y gwir, a heb or-ddweud |
||
#Gweithredoedd Cyfiawn - Gweithredu holliach, gan osgoi gweithredoedd a fyddai'n gwneud niwed. |
#Gweithredoedd Cyfiawn - Gweithredu holliach, gan osgoi gweithredoedd a fyddai'n gwneud niwed. |
Fersiwn yn ôl 06:33, 20 Ionawr 2015
Crefydd ddi-dduw yw Bwdhaeth neu Fwdïaeth. Gellir ei hystyried hefyd yn athroniaeth gymhwysol neu'n ffurf ar seicoleg. Canolbwynt Bwdhaeth yw'r hyn a ddysgodd Gotama Buddha, a aned yn Kapilavastu (sydd yn Nepal erbyn hyn), ac a enwyd Siddhattha Gotama oddeutu'r 5ed ganrif cyn Crist. Lledaenodd Bwdhaeth drwy is-gyfandir India yn y pum canrif nesaf, ac i ardaloedd ehangach o Asia wedi hynny.
Erbyn heddiw, rhennir Bwdhaeth yn dri phrif draddodiad: Theravāda, Mahāyāna, a Vajrayāna. Mae'n parhau i ddenu dilynwyr ledled y byd, ac yn ôl [1], mae oddeutu 350 miliwn o Fwdhyddion (fodd bynnag, mae'r amcangyfrifon a geir mewn sawl wlad yn ansicr). Hyhi yw'r bumed grefydd fwyaf yn y byd yn ôl niferoedd, ar ôl Cristnogaeth, Islam, Hindŵaeth, a chrefydd traddodiadol Tsieineaidd. Mae'r urdd mynaich Sangha ymysg y sefydliadau hynaf ar y ddaear.
Athrawiaethau
Y Pedwar Gwiredd Doeth
Dysgodd y Bwdha fod dioddefaint mewn bywyd a achosir gan chwenychu, ac y gellir ei ddileu trwy ddilyn y Llwybr Wythblyg Doeth (gw. isod):
- Dioddefaint: Dioddefaint yw genedigaeth, dioddefaint yw heneiddio, dioddefaint yw afiechyd, dioddefaint yw marwolaeth; dioddefaint yw uno â'r hyn sy'n annymunol; dioddefaint yw gwahanu o'r hyn sy'n ddymunol; dioddefaint yw peidio â chael yr hyn a ddymunir; yn gryno, dioddefaint yw'r pump cyfansawdd sy'n wrthrych ymafael.
- Tarddiad dioddefaint: Y chwenychu sy'n arwain at ailenedigaeth.
- Darfod dioddefaint: Darfod chwenychu.
- Y ffordd sy'n arwain at ddarfod dioddefaint: Y Llwybr Wythblyg Doeth;
Nirfana
Nirfana yw diffodd pob chwenychiad, rhithdyb, ac anwybodaeth.
Y Llwybr Wythblyg Doeth
- Safbwynt Cyfiawn - Sylweddoli'r Pedwar Gwiredd Doeth
- Gwerthoedd Cyfiawn - Ymrwymiad i dyfiant meddyliol a moesol mewn cymedroldeb
- Iaith Gyfiawn - Siarad mewn modd di-drais, gan ddweud y gwir, a heb or-ddweud
- Gweithredoedd Cyfiawn - Gweithredu holliach, gan osgoi gweithredoedd a fyddai'n gwneud niwed.
- Bywoliaeth Gyfiawn - Gwneud swydd nad yw'n diweddu eich hun neu eraill mewn unrhyw ffordd, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.
- Ymdrech Cyfiawn - Gwneud ymdrech i wella
- Gwybodus Rwydd Cyfiawn - Y gallu meddyliol i weld pethau fel y maent, gydag ymwybod clir.
- Myfyrio Cyfiawn