Mêl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 17: | Llinell 17: | ||
Nid yw'n iachusol bob tro, fodd bynnag. Gall mêl achosi afiechyd peryglus iawn (infant botulinism) i blant dan ddeunaw mis oed. |
Nid yw'n iachusol bob tro, fodd bynnag. Gall mêl achosi afiechyd peryglus iawn (infant botulinism) i blant dan ddeunaw mis oed. |
||
== Gweler hefyd == |
|||
* [[Ffair Fêl Conwy]] |
|||
== Cyswllt allanol == |
== Cyswllt allanol == |
Fersiwn yn ôl 00:34, 13 Ionawr 2015
Hylif melys a gynhyrchir gan wenyn yw mêl. Mae lliw a blas mêl yn dibynnu ar y blodau yr ymwelodd y gwenyn â nhw yn ystod eu gwaith hel neithdar.
Mae mêl yn gymysgedd o nifer o siwgrau (yn bennaf ffrwctos a glwcos) ac mae'n cynnwys fitaminau (B6 ac eraill), mwynau (calsiwm, copr, haearn, magnesiwm, manganîs, ffosfforws, potasiwm, sodiwm a sinc), rhai asidau amino ac ensymau.
Bwyd
Fel arfer, defnyddir mêl i goginio a phobi neu i'w ledaenu ar fara neu dost. Defnyddir mêl hefyd i roi blas ar ddiodydd fel te.
Diod feddwol wedi'i wneud o fêl yw medd. Ar un adeg ystyrid mai medd oedd y ddiod orau y gellid ei chael; sonnir yn y Gododdin mai dyna a gâi milwyr yr Hen Ogledd i'w yfed cyn mynd i'r gad.
Ymhlith y blasau mwyaf poblogaidd y mae Blodeuyn Acasia (yn bennaf o Ddwyrain Ewrop), Blodeuyn Afal a Cheirios (o Brydain) a Chneuen gastan (De Ewrop).
Gall mêl fod yn hylif neu yn hufen, gan fod crisialau siwgwr yn ffurfio ar ôl peth amser. Mae mêl crwybr, mêl â darnau o grwybr a mêl talpiau yn cynnwys darnau o grwybr cwyr sydd yn fwytadwy hefyd.
Meddygol
Mae rhai pobl yn meddwl fod mêl yn gwneud lles i'ch iechyd.
Nid yw'n iachusol bob tro, fodd bynnag. Gall mêl achosi afiechyd peryglus iawn (infant botulinism) i blant dan ddeunaw mis oed.
Gweler hefyd
Cyswllt allanol
Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol