C.P.D. Tref Caernarfon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Arwel Parry (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Garynysmon (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 8: Llinell 8:
| cynhwysedd = 3,400
| cynhwysedd = 3,400
| cadeirydd = George Denham
| cadeirydd = George Denham
| rheolwr = Steve O'Shaughnessy
| rheolwr = [[Steve O'Shaughnessy]]
| cynghrair = [[Cynghrair Cymru]]
| cynghrair = [[Cynghrair Cymru]]
| tymor = 2006-07
| tymor = 2006-07

Fersiwn yn ôl 10:29, 29 Mehefin 2007

C.P.D. Tref Caernarfon
Enw llawn Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon
Llysenw(au) Y Caneris
Sefydlwyd 1876
Maes Yr Ofal, Caernarfon, Gwynedd
Cadeirydd George Denham
Rheolwr Steve O'Shaughnessy
Cynghrair Cynghrair Cymru
2006-07 15fed


Mae Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon (Saesneg: Caernarfon Town Football Club); yn glwb Pêl-droed sy'n chwarae yn Uwchgynghrair Principality Cymru. Ffug-enw'r clwb ydi'r Caneris oherwydd eu crysau Melyn a Gwyrdd. Maent yn chwarae ar yr Ofal, Caernarfon.

Mae Peldroed yng Nghaernarfon yn dyddio nol i ffurfio Caernarvon Athletic yn 1876. Y nhw oedd perchnogion cyntaf yr Ofal.

Aeth clwb Athletic i'r wal yn 1893, ond yn fuan wedyn fe ffurfwyd clwb newydd sef Caernarvon Ironopolis.

Gafodd y clwb yr adnabyddir heddiw fel yr un presennol, eu ffurfio yn 1937 gan grwp o gefnogwyr ac ar ol cyfnod maith yng Nghynghrair Cymru (Gogledd), fe gafodd y clwb ganiatad Cymdeithas Beldroed Lloegr i ymuno a Chynghrair Siroedd Gogledd-Orllewin Lloegr. Yn 1985 ddoth Caernarfon yn ail yn y Gynghrair honno a etholwyd y clwb i Uwchgynghrair y Gogledd (Northern Premier League).

Mae tymor 1986/97 yn un enwog yn hanes y clwb, yn bennaf oherwydd y rhediad yng Nghwpan FA Lloegr. O dan reolaeth John King, aeth y clwb ymlaen i guro Stockport County a York City cyn mynd allan i Barnsley yn ail rownd y gwpan ar ol gem ail-chwarae. Gorffennodd y clwb yn 3ydd yn y Gynghrair hefyd.

Yn 1995 er sawl mlynedd o wrthwynebiad, ymunodd Caernarfon a'r Cynghrair Cenedlaethol. Yn 1999/2000 disgynnodd y clwb i'r Cynghrair Undebol cyn dod syth nol i fynny y tymor canlynol. Ond serch hynny, Eitha di-fflach ydi hanes eu perfformadiau cynghrair diweddar.

Chwaraewyr Enwog

Uwch Gynghrair Cymru, 2021–2022

Aberystwyth | Caernarfon | Cei Connah | Derwyddon Cefn | Hwlffordd | Met Caerdydd |
Pen-y-Bont | Y Bala | Y Barri | Y Drenewydd | Y Fflint | Y Seintiau Newydd