Stephen Richard Glynne, 9fed Barwnig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion a delweddau
Llinell 49: Llinell 49:
{{Teitl Dil|du}}
{{Teitl Dil|du}}
{{bocs olyniaeth
{{bocs olyniaeth
| cyn= [[Edward Lloyd-Mostyn]]
| cyn= [[Edward Lloyd-Mostyn, 2il Farwn Mostyn]]
| teitl=[[Aelod Seneddol]] dros [[Sir y Fflint (etholaeth seneddol)|Sir y Fflint]]
| teitl=[[Aelod Seneddol]] dros [[Sir y Fflint (etholaeth seneddol)|Sir y Fflint]]
| blynyddoedd=[[1837]] – [[1841]]
| blynyddoedd=[[1837]] – [[1841]]
| ar ôl=[[Edward Lloyd-Mostyn]]}}
| ar ôl=[[Edward Lloyd-Mostyn, 2il Farwn Mostyn|Edward Lloyd-Mostyn]]}}
{{Teitl Dil|du}}
{{Teitl Dil|du}}
{{bocs olyniaeth
{{bocs olyniaeth
| cyn=[[Edward Lloyd-Mostyn]]
| cyn=[[Edward Lloyd-Mostyn, 2il Farwn Mostyn|Edward Lloyd-Mostyn]]
| teitl=[[Aelod Seneddol]] dros [[Sir y Fflint (etholaeth seneddol)|Sir y Fflint]]
| teitl=[[Aelod Seneddol]] dros [[Sir y Fflint (etholaeth seneddol)|Sir y Fflint]]
| blynyddoedd=[[1842]] – [[1847]]
| blynyddoedd=[[1842]] – [[1847]]
| ar ôl=[[Edward Lloyd-Mostyn]]}}
| ar ôl=[[Edward Lloyd-Mostyn, 2il Farwn Mostyn|Edward Lloyd-Mostyn]]}}
{{diwedd-bocs}}
{{diwedd-bocs}}



Fersiwn yn ôl 06:18, 30 Rhagfyr 2014

Cofeb Glynne yn Eglwys Sant Deiniol, Penarlâg, Sir y Fflint.

Roedd Syr Stephen Richard Glynne, 9fed Barwnig (22 Medi, 1807 - 17 Mehefin, 1874) yn dirfeddiannwr Gymreig ac yn wleidydd Ceidwadol. Fe'i cofir yn bennaf fel ymchwilydd ym maes yr hynafiaethau gyda diddordeb arbennig mewn pensaernïaeth eglwysig Prydain. Yr oedd yn frawd-yng-nghyfraith i'r Brif Weinidog Rhyddfrydol William Ewart Gladstone.[1]

Cefndir

Bu farw Syr Stephen yr 8fed farwnig ym 1815 yn 35 mlwydd oed. Gan hynny etifeddodd Stephen ei fab y farwniaeth ac ystadau'r teulu (a oedd yn cynnwys Castell Penarlâg) pan nad oedd ond 7 mlwydd oed.[2]

Syr Stephen Glynne

Priododd Catherine, chwaer Stephen Glynne, y gwleidydd William Ewart Gladstone. Daeth tad Gladstone, Syr John Gladstone, i'r adwy, pan achubodd Glynne rhag mynd yn fethdalwr ar ôl methiant gwaith haearn yr oedd yn rhan-berchennog arnynt[3]. Yr unig fodd iddo gadw Penarlâg oedd trwy werthu rhan o'r ystâd a chytuno i rannu ei gartref Castell Newydd Penarlâg gyda William a Catherine.

Bu Glynne farw'n ddibriod, a daeth y farwnigaeth i'w therfyn ar ei farwolaeth. Cafodd ystâd a chastell Penarlâg eu hetifeddu gan ei nai William Henry Gladstone, mab hynaf William a Catherine.

Gyrfa

Cafodd Glynne ei addysgu yng Ngholeg Eton a Choleg Christ Church, Rhydychen gan ennill gradd trydydd dosbarth yn y Clasuron.

Bu'n gwasanaethu fel Aelod Seneddol Ceidwadol Bwrdistrefi Fflint o 1832 i 1837 a Sir y Fflint o 1837 i 1841 ac eto o 1842 i 1847 er na siaradodd erioed mewn dadl yn Nhŷ'r Cyffredin. Bu hefyd yn Uchel Siryf Sir y Fflint ym 1831 ac yn Arglwydd Raglaw Sir y Fflint o 1845 i 1871.

Yn ystod ymgyrch etholiadol 1841, daeth Glynne ag achos enllib yn erbyn y Chester Chronicle, wedi i'r papur gyhoeddi honiad ei fod yn gyfunrywiol. Enillodd yr achos a bu'n rhaid i'r papur ymddiheuro.

Crefydd

O ran ei ddaliadau crefyddol yr oedd Glynne yn aelod pybyr o Eglwys Lloegr ac yn elyniaethus i achosion anghydffurfiol. Yr oedd yn gwrthod caniatáu i anghydffurfwyr gynnal cyfarfodydd o addoliad yn y pentrefi a oedd yn eiddo i'w ystâd. [4]

Er mwyn lleihau apêl y capeli yr oedd Glynne yn credu ei fod yn bwysig i'r Eglwys gynnig gwasanaethau Cymraeg a bu'n ddylanwadol wrth sicrhau bod y Cymro Cymraeg, John Hughes, yn cael ei benodi'n Esgob Llanelwy ym 1870.

Hynafiaethau

Yn codi o'i Anglicanaeth pybyr roedd gan Glynne diddordeb mawr mewn pensaernïaeth eglwysig. Yr oedd yn aelod o bwyllgor, yn ddiweddarach yn ysgrifennydd mygedol, ac yn y pendraw yn is-lywydd yr Ecclesiological Society - cymdeithas a oedd yn hybu astudiaethau o bensaernïaeth Gothig ac o hynafiaethau Eglwysig. Ym 1847 bu'n un o olygyddion llyfr a gyhoeddwyd gan y gymdeithas Hand-Book of English Ecclesiology.

Yn ystod ei fywyd bu Glynne yn ymweld â dros bum mil o eglwysi gan wneud nodiadau manwl am eu nodweddion pensaernïol[5]. Mae ei nodiadau yn dyddio o 1824 tan ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth ac maent yn cwmpasu eglwysi yng Nghymru, Lloegr ac Ynysoedd y Sianel ac ychydig yn yr Alban ac Iwerddon. Mae ei nodiadau yn parhau i gael eu gwerthfawrogi'n fawr gan haneswyr pensaernïol, gan eu bod yn aml yn rhoi cofnod byr a gwybodus o'r adeiladau fel yr oeddent cyn adferiadau Fictoraidd.

Llyfrgell Gladstone.

Mae nodiadau eglwysig Glynne wedi eu cadw mewn 106 o gyfrolau, sydd yn cael eu cadw yn Llyfrgell Gladstone (Llyfrgell Deiniol Sant gynt), Penarlâg.[6] Er na chyhoeddodd Glynne ei nodiadau yn ystod ei fywyd mae sawl gyfrol bellach wedi'u cyhoeddi gan gymdeithasau archeolegol a chofnodion lleol ers ei farwolaeth.

Bu Glynne hefyd yn gwasanaethu fel Llywydd cyntaf (1847-9) Cymdeithas Hynafiaethau Cymru; ac fel cadeirydd (1852-1874) Adran Bensaernïol y Sefydliad Archeolegol.

Marwolaeth

Bu farw Glynne o drawiad ar y galon y tu allan i orsaf reilffordd Bishopsgate ar 17 Mehefin, 1874 ar ôl ymweld ag eglwysi yn Essex a Suffolk[7]. Fe'i claddwyd yn Eglwys Penarlâg. [8]

Cyfeiriadau

  1. GLYNNE (TEULU), Penarlâg Y Bywgraffiadur arlein[1] adalwyd 28 Rhagfyr 2014
  2. GLYNNE, Sir Stephen Richard, 9th bt. (1807-1874), of Hawarden Castle, Flint The History of Parliament: the House of Commons 1820-1832, ed. D.R. Fisher, 2009 [2] adalwyd 28 Rhagfyr 2014
  3. THE OAK FARM IRON WORKS -Carnarvon and Denbigh Herald 22 Ionawr 1848[3]adalwyd 27 Rhag 2014
  4. Court and Aristocracy -Welshman - 4 Mehefin 1841 [4] adalwyd 28 Rhagfyr 2014
  5. Cyngor Sir y Fflint - NODIADAU EGLWYSI SYR STEPHEN GLYNNE [5] adalwyd 28 Rhagfyr 2014
  6. Glynne, Sir Stephen Richard (1807-1874) 9th Baronet MP Antiquary [6] adalwyd 28 Rhagfyr 2014
  7. MARWOLAETH DISYMWTH SYR STEPHEN GLYNNE Llais Y Wlad—26 Mehefin 1874 [7] adalwyd 28 Tachwedd 2014
  8. Y DIWEDDAR SYR STEPHEN GLYNNE Llais Y Wlad—3 Gorffennaf 1874[8]adalwyd 28 Tachwedd 2014
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Henry Glynne
Aelod Seneddol dros Bwrdeistrefi Fflint
18321837
Olynydd:
Charles Whitley Deans Dundas
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Edward Lloyd-Mostyn, 2il Farwn Mostyn
Aelod Seneddol dros Sir y Fflint
18371841
Olynydd:
Edward Lloyd-Mostyn
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Edward Lloyd-Mostyn
Aelod Seneddol dros Sir y Fflint
18421847
Olynydd:
Edward Lloyd-Mostyn