Stephen Richard Glynne, 9fed Barwnig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
Bu farw Syr [[Stephen Richard Glynne, 8fed Barwnig|Stephen]] yr 8fed farwnig ym 1815 yn 35 mlwydd oed. Gan hynny etifeddodd Stephen ei fab y farwniaeth ac ystadau'r teulu (a oedd yn cynnwys [[Castell Penarlâg]]) pan nad oedd ond 7 mlwydd oed. |
Bu farw Syr [[Stephen Richard Glynne, 8fed Barwnig|Stephen]] yr 8fed farwnig ym 1815 yn 35 mlwydd oed. Gan hynny etifeddodd Stephen ei fab y farwniaeth ac ystadau'r teulu (a oedd yn cynnwys [[Castell Penarlâg]]) pan nad oedd ond 7 mlwydd oed. |
||
Priododd Catherine, chwaer Stephen Glynne, y gwleidydd William Ewart Gladstone. Gwnaeth tad Gladstone, Syr John Gladstone, helpu achub Glynne rhag mynd yn fethdalwr ar ôl methiant gwaith |
Priododd Catherine, chwaer Stephen Glynne, y gwleidydd William Ewart Gladstone. Gwnaeth tad Gladstone, Syr John Gladstone, helpu achub Glynne rhag mynd yn fethdalwr ar ôl methiant gwaith haearn yr oedd yn rhan berchennog arnynt<ref>THE OAK FARM IRON WORKS -Carnarvon and Denbigh Herald 22 Ionawr 1848[http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3643822/ART7]adalwyd 27 Rhag 2014</ref>. Yr unig fodd iddo gadw ei deiliadaeth o [[Penarlâg|Benarlâg]] oedd trwy werthu rhan o'r ystâd a chytuno i rannu'r castell gyda William a Catherine. |
||
Bu Glynne farw yn ddibriod, a daeth y farwnigaeth i'w therfyn ar ei farwolaeth. Cafodd ystâd a chastell Penarlâg eu hetifeddu gan ei nai William Henry Gladstone, mab hynaf William a Catherine. |
Bu Glynne farw yn ddibriod, a daeth y farwnigaeth i'w therfyn ar ei farwolaeth. Cafodd ystâd a chastell Penarlâg eu hetifeddu gan ei nai William Henry Gladstone, mab hynaf William a Catherine. |
||
==Gyrfa == |
|||
Cafodd Glynne ei addysgu yng [[Coleg Eton|Ngholeg Eton]] a Choleg Christ Church, [[Rhydychen]] gan enill gradd trydydd dosbarth yn y Clasuron. |
|||
Bu'n gwasanaethu fel [[Aelod Seneddol]] Ceidwadol [[Bwrdeistrefi Fflint (etholaeth seneddol)|Bwrdistrefi Fflint]] o 1832 i 1837 a [[Sir y Fflint (etholaeth seneddol)|Sir y Fflint]] o 1837 i 1841 ac eto o 1842 i 1847 er na siaradodd erioed mewn dadl yn [[Tŷ'r Cyffredin|Nhŷ'r Cyffredin]]. Bu hefyd yn Uchel Siryf Sir y Fflint ym 1831 ac yn Arglwydd Raglaw Sir y Fflint o 1845 i 1871. |
|||
Yn ystod ymgyrch etholiadol 1841, daeth Glynne ag achos enllib yn erbyn y Chester Chronicle, wedi i'r papur cyhoeddi honiad ei fod yn [[Cyfunrywioldeb|gyfunrywiol]]. Enillodd yr achos a bu'n rhaid i'r papur ymddiheuro. |
Fersiwn yn ôl 00:04, 29 Rhagfyr 2014
Roedd Syr Stephen Richard Glynne, 9fed Barwnig (22 Medi, 1807 - 17 Mehefin, 1874) yn dirfeddiannwr Gymreig ac yn wleidydd Geidwadol. Fe'i cofir yn bennaf fel ymchwilydd ym maes yr hynafiaethau gyda diddordeb arbennig mewn pensaernïaeth eglwysig Prydain. Yr oedd yn frawd-yng-nghyfraith i'r Brif Weinidog Rhyddfrydol William Ewart Gladstone.
Cefndir
Bu farw Syr Stephen yr 8fed farwnig ym 1815 yn 35 mlwydd oed. Gan hynny etifeddodd Stephen ei fab y farwniaeth ac ystadau'r teulu (a oedd yn cynnwys Castell Penarlâg) pan nad oedd ond 7 mlwydd oed.
Priododd Catherine, chwaer Stephen Glynne, y gwleidydd William Ewart Gladstone. Gwnaeth tad Gladstone, Syr John Gladstone, helpu achub Glynne rhag mynd yn fethdalwr ar ôl methiant gwaith haearn yr oedd yn rhan berchennog arnynt[1]. Yr unig fodd iddo gadw ei deiliadaeth o Benarlâg oedd trwy werthu rhan o'r ystâd a chytuno i rannu'r castell gyda William a Catherine.
Bu Glynne farw yn ddibriod, a daeth y farwnigaeth i'w therfyn ar ei farwolaeth. Cafodd ystâd a chastell Penarlâg eu hetifeddu gan ei nai William Henry Gladstone, mab hynaf William a Catherine.
Gyrfa
Cafodd Glynne ei addysgu yng Ngholeg Eton a Choleg Christ Church, Rhydychen gan enill gradd trydydd dosbarth yn y Clasuron.
Bu'n gwasanaethu fel Aelod Seneddol Ceidwadol Bwrdistrefi Fflint o 1832 i 1837 a Sir y Fflint o 1837 i 1841 ac eto o 1842 i 1847 er na siaradodd erioed mewn dadl yn Nhŷ'r Cyffredin. Bu hefyd yn Uchel Siryf Sir y Fflint ym 1831 ac yn Arglwydd Raglaw Sir y Fflint o 1845 i 1871.
Yn ystod ymgyrch etholiadol 1841, daeth Glynne ag achos enllib yn erbyn y Chester Chronicle, wedi i'r papur cyhoeddi honiad ei fod yn gyfunrywiol. Enillodd yr achos a bu'n rhaid i'r papur ymddiheuro.