Wicipedia:Arddull: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 93.152.137.215 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Llywelyn2000.
→‎Gwledydd: y ddwy restr - un fersiwn o'r enwau
Llinell 108: Llinell 108:
Ceir amryw ffyrdd o sillafu enwau gwledydd yn Gymraeg. Mae’r ''Atlas Cymraeg Newydd'' (1999, Golygydd Gareth Jones) yn dilyn y sillafiad yn y wlad ei hun (neu’r fersiwn ryngwladol yn yr orgraff Rufeinig a arddelir gan y gwledydd, e.e. Kuwait) os nad oes enw Cymraeg cyfarwydd eisoes yn bod, e.e. yr Aifft. Mae ''[[Geiriadur yr Academi]]'' (1995, Gwasg Prifysgol Cymru) yn ysgrifennu enwau gwledydd yn ôl sain y llythrennau yn ôl yr wyddor Gymraeg, lle bo hynny’n bosib, e.e. Ffiji yn hytrach na Fiji. Yn ogystal, mae [[Bwrdd yr Iaith Gymraeg]] wedi cyhoeddi rhestr o enwau prif wledydd y byd, ond heb gynnwys enw pob gwlad. Fel canlyniad, yn achos rhai enwau gwledydd ceir sawl cynnig ar y ffurf safonol i'w arfer yn Gymraeg : gweler [[Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg]].
Ceir amryw ffyrdd o sillafu enwau gwledydd yn Gymraeg. Mae’r ''Atlas Cymraeg Newydd'' (1999, Golygydd Gareth Jones) yn dilyn y sillafiad yn y wlad ei hun (neu’r fersiwn ryngwladol yn yr orgraff Rufeinig a arddelir gan y gwledydd, e.e. Kuwait) os nad oes enw Cymraeg cyfarwydd eisoes yn bod, e.e. yr Aifft. Mae ''[[Geiriadur yr Academi]]'' (1995, Gwasg Prifysgol Cymru) yn ysgrifennu enwau gwledydd yn ôl sain y llythrennau yn ôl yr wyddor Gymraeg, lle bo hynny’n bosib, e.e. Ffiji yn hytrach na Fiji. Yn ogystal, mae [[Bwrdd yr Iaith Gymraeg]] wedi cyhoeddi rhestr o enwau prif wledydd y byd, ond heb gynnwys enw pob gwlad. Fel canlyniad, yn achos rhai enwau gwledydd ceir sawl cynnig ar y ffurf safonol i'w arfer yn Gymraeg : gweler [[Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg]].


Ceir y sillafiad a arferir ar Wicipedia ar y rhestr '[[Gwledydd y byd]]'. O’r rhestr hon y ceir teitlau’r erthyglau ar y gwledydd. Dylai sillafiadau amgen y wlad gael eu cofnodi yn yr erthygl.
Ceir y sillafiad a arferir ar Wicipedia ar y rhestr '''[[Gwledydd y byd]]''' a'r golofn olaf (Fersiwn Wicipedia) yn yr erthygl uchod, sef [[Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg]]. O’r rhestr hon y ceir teitlau’r erthyglau ar y gwledydd. Dylai sillafiadau amgen y wlad gael eu cofnodi yn yr erthygl.


Gellir ymgynghori â Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar sillafiad Cymraeg enwau lleoedd tramor trwy anfon e-bost at enwaulleoedd@bwrdd-yr-iaith.org.uk. Os yw ffurf Gymraeg neu enw tramor ar le o bosib yn ddieithr gellir ychwanegu'r enw Saesneg mewn cromfachau wedi'r defnydd cyntaf o'r enw mewn erthygl, e.e. Napoli (Naples), [[Efrog]] (York). Neu os yw enw lle yn cael ei gysylltu â'r erthygl ar y lle trwy gyswllt wici mae'n bosib i'r darllenydd gwirio'r ystyr trwy ddilyn y cyswllt.
Gellir ymgynghori â Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar sillafiad Cymraeg enwau lleoedd tramor trwy anfon e-bost at enwaulleoedd@bwrdd-yr-iaith.org.uk. Os yw ffurf Gymraeg neu enw tramor ar le o bosib yn ddieithr gellir ychwanegu'r enw Saesneg mewn cromfachau wedi'r defnydd cyntaf o'r enw mewn erthygl, e.e. Napoli (Naples), [[Efrog]] (York). Neu os yw enw lle yn cael ei gysylltu â'r erthygl ar y lle trwy gyswllt wici mae'n bosib i'r darllenydd gwirio'r ystyr trwy ddilyn y cyswllt.


(I ddilyn peth o hanes trafod enwau lleoedd gweler [[Sgwrs:Gwledydd y byd]].)
(I ddilyn peth o hanes trafod enwau lleoedd gweler [[Sgwrs:Gwledydd y byd]].)

====Cymru====
====Cymru====
Nid oes safoni cenedlaethau i enwau lleoedd Cymru. Ceir nifer o ganllawiau y dylid eu hystyried, fodd bynnag:
Nid oes safoni cenedlaethau i enwau lleoedd Cymru. Ceir nifer o ganllawiau y dylid eu hystyried, fodd bynnag:

Fersiwn yn ôl 16:57, 28 Rhagfyr 2014

Cymorth Iaith

Os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â'r iaith Gymraeg, megis treiglo, sillafu, gramadeg neu gystrawen, gofynnwch ar y dudalen Cymorth iaith ac mi fydd Wicipedwyr eraill yn ceisio eich helpu.

Gofynnwch gwestiwn iaith

Cofiwch lofnodi'r neges drwy ychwanegu pedair tilde (~~~~) ar y diwedd, os gwelwch yn dda.

Bwriad y dudalen hon yw eich helpu chi i ysgrifennu erthyglau ar Wicipedia. Mae'r canllawiau isod yn ceisio helpu cysoni Wicipedia er mwyn hwyluso darllen erthyglau a dod o hyd i wybodaeth ar Wicipedia.

Ceir canllawiau ysgrifennu yn Gymraeg ar y dudalen canllawiau iaith. Os nad yw'r Arddull yn nodi hoff ddefnydd, trafodwch y mater ar y dudalen sgwrs.

Egwyddorion cyffredinol

Cysondeb mewnol

Un egwyddor allweddol yw y dylai arddull a fformatio fod yn gyson o fewn erthygl Wicipedia, er nad o reidrwydd o fewn Wicipedia yn ei chyfanrwydd. Mae cysondeb o fewn erthygl yn arwain at erthygl eglur a chydlynol. O ganlyniad, byddwch yn gyson o fewn erthygl, hyd yn oed lle mae'r Canllaw Arddull yn caniatáu defnyddiau eraill.

Sefydlogrwydd erthyglau

Ni ddylai golygwyr newid erthygl o un arddull a ddiffinnir gan y canllawiau i arddull arall heb reswm sylweddol. Nid yw'r rheswm sylweddol hwn yn cynnwys hoffter o arddull arbennig, ac ystyrir rhyfeloedd-gwrthdroi ynglŷn ag arddulliau opsiynol yn annerbyniol.[1] Lle ceir anghydweld ynglŷn â pha arddull y dylid defnyddio mewn erthygl, dylid defnyddio'r arddull a ddefnyddiwyd gan y cyfrannwr sylweddol cyntaf.

Arddull dyddiadau

Canrifoedd

Argymhellir ysgrifennu canrifoedd ar Wicipedia fel a ganlyn:

   

Ar gyfer canrifoedd cyn Crist defnyddir y byrfodd "CC": 4edd ganrif CC.

Dyddiadau llawn

Wrth fformatio dyddiadau argymhellir y patrwm: diwrnod mis blwyddyn.

Ni argymhellir ei ehangu'n frawddeg gyflawn, er engraifft ni ddylid ysgrifennu ar yr 21ain o Fehefin, 2009.
Yn hytrach argymhellir ysgrifennu ar 21 Mehefin 2009.
Argymhellir rhoi un gwagle (space) rhwng y mis a'r flwyddyn, heb atalnod (neu "goma").
Dylid creu dolen ar gyfer pob dyddiad yn yr erthygl.
h.y. [[21 Mehefin]] [[1926]]

Amrediad o ddyddiadau neu rifau

Dylid defnyddio llinell doriad en, nid cysylltnod, i ddynodi amrediad, gellir teipio hwn fel –

Fel rheol, ni ddylid rhoi gwagle rhwng y rhifau a'r llinell doriad en. h.y. 1926–1932 sy'n gywir. Ond weithiau, gellir defnyddio gwagle pan y gallai amrediad fod yn aneglur hebddo, er engraifft gydag amrediad o ddyddiadau penodol megis Mehefin 1926 – Gorffennaf 1932 neu 21 Mehefin 1926 – 3 Gorffennaf 1932.

Gweler yr erthygl llinell doriad am fwy o wybodaeth am ddefnydd amryw o atalnodau tebyg.

Dyddiadau geni a marw

Dylai rhain fod mewn cromfachau ar ôl enw'r person mewn erthyglau am bobl.

Os mai dim ond dyddiad geni sydd, dylid ysgrifennu (ganwyd 21 Mehefin 1926)
Os mai dim ond dyddiad marw sydd, dylid ysgrifennu (bu farw 21 Mehefin 1926)
Os yw'r ddau ddyddiad yn yr erthygl, ni ddylid ysgrifennu "ganwyd" na "bu farw", yn hytrach dylid ei fformatio fel amrediad o ddyddiadau fel y disgrifir uchod.

Ni ddylid cynnyws lle geni a marw person o fewn y cromfachau sy'n dynodi rhychwant bywyd, ond dylid ei gynnwys mewn brawddeg. Mae hyn yn osgoi gor-gymlethu'r frawddeg agoriadol ac yn rhoi cyfle i ehangu'r erthygl ymhellach.

Enwi erthyglau

Teitl erthygl sydd angen y fannod (y/yr)

Os ydych yn ysgrifennu tudalen am dermau sydd angen y fannod "y" neu "yr", dylid rhoi'r fannod yn rhan o deitl y dudalen, e.e. Y Gymanwlad neu Yr Undeb Ewropeaidd, nid Cymanwlad neu Undeb Ewropeaidd. Cofier ei fod o ddefnydd i greu tudalennau ail-gyfeirio ar gyfer yr enw heb y fannod, e.e. i ail-gyfeirio Cymanwlad at Y Gymanwlad.

Teitlau erthyglau ar deyrnoedd ac aelodau teuluoedd brenhinol

  1. Argymhellir y ffurf: {Enw cyntaf y teyrn} {Rhif trefnol os oes rhagor nag un o'r un enw}, {disgrifiad o'i safle gyda phriflythyren} {ei brif diriogaeth}. Enghreifftiau: Edward I, Brenin Lloegr; Boris I, Tsar Bwlgaria; Jean, Archddug Lwcsembwrg.
  2. Gellir hepgor y teitl ac enw'r wlad wrth ddisgrifio teyrnoedd yr henfyd, gan roi'r enw a arferir amlaf heddiw amdano, e.e. Nero; Genghis Khan.
  3. Defnyddir yr enw ar brif diriogaeth y teyrn pan y teyrnasai. Hynny yw, Gwilym I, brenin Lloegr ond Victoria, brenhines y Deyrnas Unedig; Henry V, Ymerawdwr Rhufeinig Sanctaidd – hyd at 1806; William I, Ymerawdwr yr Almaen – wedi 1806; Ferdinand I, Ymerawdwr Awstria – wedi 1804. Ar gyfer y cyfnod rhwng 1603 a 1707 ym Mhrydain defnyddir y patrwm Iago I, brenin Loegr. Gellir enwi holl diriogaeth y teyrn yn yr erthygl amdano.
  4. Ar gyfer tywysogion Cymru defnyddir naill ai:
    1. yr enw mwyaf adnabyddus, e.e. Hywel Dda, Owain Gwynedd, neu
    2. yr enw ffurfiol, e.e. Llywelyn ap Gruffudd, Rhys ap Gruffudd.

Ceir nodiadau ar y gramadeg perthnasol yn Wicipedia:Canllawiau iaith#O a materion cysylltiedig.

Termau amgen

  • Rhestrir geirfa dechnegol-gyfrifiadurol ar un dudalen: gweler Wicipedia:Geirfa; gyda'r Gymraeg - Saesneg ar y brif dudalen a Saesneg - trafodaeth / Cymraeg ar y dudalen sgwrs. Ychwanegir unrhyw eirfa newydd yma, fel y cânt eu bathu.
  • Lle mae rhagor nag un term neu sillafiad am un peth yn Gymraeg megis afu ac iau, China a Tsieina, comed a seren gynffon, mae angen sicrhau cyn dechrau erthygl newydd nad yw'r erthygl yn bodoli eisoes a'r term amgen yn deitl iddo.
  • Y mae'n arferol rhoi'r termau amgen mewn cromfachau wedi'r tro cyntaf y defnyddir y term yn yr erthygl (gweler Chile).
  • Pan yr ysgrifennir erthygl newydd dylid creu tudalennau ailgyfeirio ar gyfer y termau amgen. Mae hefyd yn ddefnyddiol creu tudalennau ailgyfeirio ar gyfer y term Saesneg er mwyn hyrwyddo gwaith chwilio'r darllenydd.
  • Argymhellir peidio â newid nôl ac ymlaen rhwng termau amgen o fewn un erthygl.

Enwau lleoedd

Gwledydd

Ceir amryw ffyrdd o sillafu enwau gwledydd yn Gymraeg. Mae’r Atlas Cymraeg Newydd (1999, Golygydd Gareth Jones) yn dilyn y sillafiad yn y wlad ei hun (neu’r fersiwn ryngwladol yn yr orgraff Rufeinig a arddelir gan y gwledydd, e.e. Kuwait) os nad oes enw Cymraeg cyfarwydd eisoes yn bod, e.e. yr Aifft. Mae Geiriadur yr Academi (1995, Gwasg Prifysgol Cymru) yn ysgrifennu enwau gwledydd yn ôl sain y llythrennau yn ôl yr wyddor Gymraeg, lle bo hynny’n bosib, e.e. Ffiji yn hytrach na Fiji. Yn ogystal, mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi rhestr o enwau prif wledydd y byd, ond heb gynnwys enw pob gwlad. Fel canlyniad, yn achos rhai enwau gwledydd ceir sawl cynnig ar y ffurf safonol i'w arfer yn Gymraeg : gweler Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg.

Ceir y sillafiad a arferir ar Wicipedia ar y rhestr Gwledydd y byd a'r golofn olaf (Fersiwn Wicipedia) yn yr erthygl uchod, sef Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg. O’r rhestr hon y ceir teitlau’r erthyglau ar y gwledydd. Dylai sillafiadau amgen y wlad gael eu cofnodi yn yr erthygl.

Gellir ymgynghori â Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar sillafiad Cymraeg enwau lleoedd tramor trwy anfon e-bost at enwaulleoedd@bwrdd-yr-iaith.org.uk. Os yw ffurf Gymraeg neu enw tramor ar le o bosib yn ddieithr gellir ychwanegu'r enw Saesneg mewn cromfachau wedi'r defnydd cyntaf o'r enw mewn erthygl, e.e. Napoli (Naples), Efrog (York). Neu os yw enw lle yn cael ei gysylltu â'r erthygl ar y lle trwy gyswllt wici mae'n bosib i'r darllenydd gwirio'r ystyr trwy ddilyn y cyswllt.

(I ddilyn peth o hanes trafod enwau lleoedd gweler Sgwrs:Gwledydd y byd.)

Cymru

Nid oes safoni cenedlaethau i enwau lleoedd Cymru. Ceir nifer o ganllawiau y dylid eu hystyried, fodd bynnag:

  1. y ffurf a argymhellir gan lyfrau safonol
  2. y ffurf a gydnabyddir gan y sir
  3. y ffurf a ddefnyddir gan wefannau safonol e.e. Archif Melville Richards neu Ganolfan Bedwyr.

Nid yw yr un o'r rhain yn gynhwysfawr, a'u bônt yn anghyflawn.

Cyn newid enw lle mewn erthygl, byddai'n beth cwrtais ei drafod yn gyntaf ar y Dualen Sgwrs perthnasol.

Termau sy'n amrywio yn ôl ardal

Ceir termau gwahanol mewn gwahanol ardaloedd megis afu ac iau. Nid yw un term yn fwy cywir nac un arall ond y mae un term weithiau'n fwy 'safonol' nac un arall yn yr ystyr bod y term yn eithaf cyfarwydd y tu allan i'w fro dafodieithol, gan amlaf am mai dyna'r term yr arferir mewn llenyddiaeth. Fe welir mwy o ddefnydd ysgrifenedig o'r termau llai eu defnydd nag a fu, er enghraifft, ysgrifennir llefrith yn hytrach na'r term safonol llaeth yn aml.

Os oes un term yn fwy cyfarwydd na'i gilydd argymhellir defnyddio'r un mwyaf cyfarwydd ar gyfer Wicipedia. Yr hyn sy'n bwysicach na'r dewis o derm yw cofio rhoi'r termau amgen yn yr erthygl a chreu tudalennau ailgyfeirio o'r term amgen.

Cenedl enw yn amrywio

Mae rhai enwau yn gallu bod yn fenywaidd neu'n wrywaidd eu cenedl, megis llythyr, munud, tudalen. Un o'r rhesymau y gall cenedl enw fod yn wrywaidd neu'n fenywaidd yw bod yr arfer yn wahanol mewn tafodieithoedd gwahanol. Mae'r gogleddwr yn gwybod yn bendant mai'r tudalen hwn y sonnir amdano a hynny heb fynd ar gyfyl geiriadur. Mae'r deheuwr yr un mor bendant mai'r dudalen hon y sonnir amdani. Y ffordd i sicrhau nad yw golygyddion yn 'cywiro' cenedl gair yn ddiangen, gan ddamasgin (sathru!) traed rhywun arall yn ddiarwybod, yw trwy chwilota yn y geiriadur cyn cywiro. Mae rhai geiriau benthyg hefyd yn ansicr eu cenedl megis piano, disg.

Wedi dweud hyn nid yw cenedl gair yn newid yn ôl ac ymlaen fel yoyo. Mae sôn am y tudalen hon yn anghywir. Os oes anghysondeb mewn cenedl gair o fewn erthygl yna gwell cysoni.

Enghreifftiau o enwau sydd yn gallu bod yn wrywaidd neu'n fenywaidd, heb newid ystyr yn ôl y genedl, yw:

angladd, breuddwyd, cinio, clorian, clust, copa, cyflog, diweddeb, glin, gwniadur, llygad, munud, rhyfel, troed, tudalen.

(Gwerthfawroger derbyn ychwanegiadau at y rhestr hon)

Tudalennau gwahaniaethu

Ar gyfer termau sydd â mwy nag un ystyr (fel Mawrth, sydd yn golygu naill ai "mis Mawrth" neu'r blaned "Mawrth") bydd yn rhaid cyflwyno tudalen wahaniaethu. Mae dau fath o dudalen wahaniaethu o flaen pob erthygl berthnasol; naill ai mae defnyddio'r term yn eich hebrwng yn syth at y dudalen gwahaniaethu (e.e. Conwy (gwahaniaethu)), neu fe ewch at erthygl sy'n defnyddio'r term a dolen ar ben y dudalen honno yn eich hebrwng at y dudalen wahaniaethu (e.e. Tsieina). Wrth gwrs, mae'r cyntaf (sef tudalen wahaniaethu o flaen pob tudalen perthnasol) yn well, ond os oes llawer o gysylltiadau i Wicipediau mewn ieithoedd eraill ers meitin efallai ei bod hi'n syniad defnyddio'r ail ddull.

Pan nad oes rhagor na dau ystyr gan derm, a bod gan y dudalen lawer o gysylltiadau rhyddieithol ers meitin, gallwch ysgrifennu brawddeg sydd yn awgrymu'r ystyr arall ar ddechrau'r erthygl sy'n cysylltu i'r dudalen newydd (e.e. fel Gwyn Thomas).

Cyfeiriadau