Y Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Y Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur''' (Saeneg: ''National Democratic and Labour Party'') a adweinir wrth y llythyrau NDP yn blaid wleidyd...' |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 39: | Llinell 39: | ||
==Cyfeiriadau== |
==Cyfeiriadau== |
||
{{cyfeiriadau}} |
{{cyfeiriadau}} |
||
[[Categori:Pleidiau gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig|Llafur]] |
|||
[[Categori:Pleidiau llafur|Deyrnas Unedig, Y]] |
Fersiwn yn ôl 01:56, 22 Rhagfyr 2014
Roedd Y Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur (Saeneg: National Democratic and Labour Party) a adweinir wrth y llythyrau NDP yn blaid wleidyddol fyrhoedlog yn y Deyrnas Unedig.
Gwreiddiau'r Blaid
Cododd y blaid allan o rwyg yn y Blaid Sosialaidd Brydeinig, yn bennaf oherwydd agweddau tuag at y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym 1915 ffurfiwyd Pwyllgor Amddiffyn Cenedlaethol Sosialaidd gan y sosialwyr blaenllaw Victor Fisher, Alexander M. Thompson a Robert Blatchford. Bwriad y pwyllgor oedd cefnogi y syniad tragwyddol o genedligrwydd a hyrwyddo mesurau sosialaidd yn ymdrech y rhyfel.
Ym 1916, ffurfiodd y pwyllgor Cynghrair Gweithwyr Prydain a oedd yn disgrifio ei hun fel grŵp llafur gwladgarol ac yn canolbwyntio ar enyn cefnogaeth i'r rhyfel a'r Ymerodraeth Brydeinig. Roedd y Gynghrair yn cael ei ariannu gan yr Arglwydd Milner, ac yn cael ei gefnogi gan Aelodau Seneddol Llafur megis William Abraham, James O'Grady a Stephen Walsh. Nod y Gynghrair oedd herio heddychwyr a oedd am fod yn ymgeiswyr Seneddol [[Y Blaid lafur (DU)|Llafur. Roedd un ar ddeg o'r 38 AS Llafur Seneddol yn rhoi eu cefnogaeth i Gynghrair Gweithwyr Prydain, gan achosi rhwyg yn y Blaid Lafur er bod y mwyafrif wedi aros yn driw i Lafur pan drodd y pwyllgor yn blaid wleidyddol.
Ym 1918 penderfynodd y Blaid Lafur i ymadael a'r Llywodraeth Clymblaid a fu'n llywodraethu ar adeg y Rhyfel, ond fe wrthododd George Barnes, AS Glasgow Blackfriars ac arweinydd y Blaid Lafur i ymadael gan ymddiswyddo o'r Blaid Lafur swyddogol a sefyll fel Llafur y Glymblaid yn Etholiad Cyffredinol 1918
Er mwyn dangos eu cefnogaeth i Barnes trodd Cynghrair Gweithwyr Prydain i mewn i'r Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur. Enillodd y grŵp gefnogaeth Undeb y Cerddorion a rhannau o undebau eraill, gan gynnwys rhai adrannau o Ffederasiwn Glowyr Prydain.
Yn etholiad cyffredinol 1918 safodd wyth ar hugain o ymgeiswyr yn enw'r Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur neu yn enw Llafur y Glymblaid gan gipio deg sedd.
Aelodau Seneddol
Birmingham Duddeston - Eldred Hallas
Bradford East - Charles Edgar Loseby
Glasgow Blackfriars - George Barnes
East Ham South - Allen Clement Edwards
Leicester West - Joseph Frederick Green
Stoke-on-Trent Hanley - James Andrew Seddon
Wallsend - Matthew Turnbull Simm
Walthamstow West - Charles Jesson
Diwedd y Blaid
Etholiad Cyffredinol 1922 penderfynodd Barnes i beidio ac amddiffyn ei sedd a safodd gweddill yr Aelodau Seneddol yn enw'r Blaid Ryddfrydol Cenedlaethol. Cafodd y blaid ei ddirwyn i ben yn ffurfiol ym 1923.