Katherine Philipps: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
clawr llyfr amdani
Llinell 5: Llinell 5:


==Bywgraffiad==
==Bywgraffiad==
[[Delwedd:Katherine Philips the Matchless Orinda.jpg|bawd|chwith|160px|Penddelwedd o Katherine]]
[[Delwedd:PHILIPS(1669) Poems.jpg|bawd|chwith|160px|Penddelwedd o Katherine]]
Cafodd ei geni yn [[Llundain]], ond treuliai cyfnodau hir yn ardal [[Aberteifi]] gyda'i gŵr James Philipps (priodasant yn [[1647]] pan oedd hi'n un ar bymtheg oed). Ffurfiodd gylch llenyddol i ferched bonheddig yn yr ardal.
Cafodd ei geni yn [[Llundain]], ond treuliai cyfnodau hir yn ardal [[Aberteifi]] gyda'i gŵr James Philipps (priodasant yn [[1647]] pan oedd hi'n un ar bymtheg oed). Ffurfiodd gylch llenyddol i ferched bonheddig yn yr ardal.



Fersiwn yn ôl 12:00, 12 Rhagfyr 2014

Orinda (Katherine Philipps)
Gwaith Katherine ar fur Eglwys Aberteifi, er cof am 'John Loyd of Kilrhewe'.

Bardd, dramodydd ac awdures oedd Katherine Philipps (neu Philips), neu Orinda (née Katherine Fowler, 1 Ionawr, 1631 - 22 Mehefin, 1664). Roedd hi'n boblogaidd iawn yn ei dydd ac yn cael ei hadnabod fel "Y Ddigymar Orinda" ("The Matchless Orinda").

Bywgraffiad

Penddelwedd o Katherine

Cafodd ei geni yn Llundain, ond treuliai cyfnodau hir yn ardal Aberteifi gyda'i gŵr James Philipps (priodasant yn 1647 pan oedd hi'n un ar bymtheg oed). Ffurfiodd gylch llenyddol i ferched bonheddig yn yr ardal.

Mae nifer o'i cherddi'n adlewyrchu ei chariad at Gymru a'r iaith Gymraeg. Cyfansoddodd gerdd ar thema wladgarol i Henry Vaughan (1621 - 1695), y bardd a meddyg o Ddyffryn Wysg.

Cyhoeddwyd casgliad o'i holl gerddi dan y teitl Poems by the incomparable Mrs K(atherine) P(hilipps) yn 1664.

Mae'r nofel Orinda gan R. T. Jenkins yn seiliedig ar y cyfnod a dreuliodd Katherine Philipps yn Aberteifi.

Llyfryddiaeth

Katherine Philips (Orinda) gan Patrick Thomas

Gwaith Orinda

  • Poems by the incomparable Mrs K(atherine) P(hilipps) (1664).

Yr unig olygiad diweddar hwylus yw,

  • Saintsbury (gol.), Minor Poets of the Caroline Period, cyf. 3 (1905)

Astudiaethau a llyfrau eraill

  • Edmund Gosse, 'The Matchless Orinda', yn Seventeenth Century Studies (1883).
  • R. T. Jenkins, Orinda (1943). Nofel fer seiliedig ar ei hanes.