Katherine Philipps: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd cofeb
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Philips.jpg|200px|bawd|de|'''Orinda''' (Katherine Philipps)]]
[[Delwedd:Philips.jpg|200px|bawd|de|'''Orinda''' (Katherine Philipps)]]
[[Delwedd:Epitaph by 'the matchless Orinda' - geograph.org.uk - 1385889.jpg|bawd|200px|Gwaith Katherine ar fur Eglwys Aberteifi, er cof am 'John Loyd of Kilrhewe'.]]


[[Bardd]], dramodydd ac awdures oedd '''Katherine Philipps''' (neu Philips), neu '''Orinda''' (née Katherine Fowler, [[1 Ionawr]], [[1631]] - [[22 Mehefin]], [[1664]]). Roedd hi'n boblogaidd iawn yn ei dydd ac yn cael ei hadnabod fel "Y Ddigymar Orinda" ("''The Matchless Orinda''").
[[Bardd]], dramodydd ac awdures oedd '''Katherine Philipps''' (neu Philips), neu '''Orinda''' (née Katherine Fowler, [[1 Ionawr]], [[1631]] - [[22 Mehefin]], [[1664]]). Roedd hi'n boblogaidd iawn yn ei dydd ac yn cael ei hadnabod fel "Y Ddigymar Orinda" ("''The Matchless Orinda''").

Fersiwn yn ôl 08:50, 8 Rhagfyr 2014

Orinda (Katherine Philipps)
Gwaith Katherine ar fur Eglwys Aberteifi, er cof am 'John Loyd of Kilrhewe'.

Bardd, dramodydd ac awdures oedd Katherine Philipps (neu Philips), neu Orinda (née Katherine Fowler, 1 Ionawr, 1631 - 22 Mehefin, 1664). Roedd hi'n boblogaidd iawn yn ei dydd ac yn cael ei hadnabod fel "Y Ddigymar Orinda" ("The Matchless Orinda").

Bywgraffiad

Cafodd ei geni yn Llundain, ond treuliai cyfnodau hir yn ardal Aberteifi gyda'i gŵr James Philipps (priodasant yn 1647 pan oedd hi'n un ar bymtheg oed). Ffurfiodd gylch llenyddol i ferched bonheddig yn yr ardal.

Mae nifer o'i cherddi'n adlewyrchu ei chariad at Gymru a'r iaith Gymraeg. Cyfansoddodd gerdd ar thema wladgarol i Henry Vaughan (1621 - 1695), y bardd a meddyg o Ddyffryn Wysg.

Cyhoeddwyd casgliad o'i holl gerddi dan y teitl Poems by the incomparable Mrs K(atherine) P(hilipps) yn 1664.

Mae'r nofel Orinda gan R. T. Jenkins yn seiliedig ar y cyfnod a dreuliodd Katherine Philipps yn Aberteifi.

Llyfryddiaeth

Gwaith Orinda

  • Poems by the incomparable Mrs K(atherine) P(hilipps) (1664).

Yr unig olygiad diweddar hwylus yw,

  • Saintsbury (gol.), Minor Poets of the Caroline Period, cyf. 3 (1905)

Astudiaethau a llyfrau eraill

  • Edmund Gosse, 'The Matchless Orinda', yn Seventeenth Century Studies (1883).
  • R. T. Jenkins, Orinda (1943). Nofel fer seiliedig ar ei hanes.