Rhaeadr Niagara: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Lesbardd (sgwrs | cyfraniadau) estyn erthygl ac ychwanegu lluniau |
Lesbardd (sgwrs | cyfraniadau) dileu llun |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[File:Niagara falls - Winter - Prospect point view at night.jpg|bawd|Rhaeadr Niagara.]] |
[[File:Niagara falls - Winter - Prospect point view at night.jpg|bawd|Rhaeadr Niagara.]] |
||
[[Delwedd:NiagaraONLB01.jpg|bawd|260px|chwith|Ochr Ontario y rhaeadr]] |
|||
[[Delwedd:NiagaraONLB02.jpg|bawd|260px|chwith|Ochr Ontario y rhaeadr]] |
[[Delwedd:NiagaraONLB02.jpg|bawd|260px|chwith|Ochr Ontario y rhaeadr]] |
||
[[Delwedd:NiagaraONLB03.jpg|bawd|260px|chwith|Ceunant Niagara]] |
[[Delwedd:NiagaraONLB03.jpg|bawd|260px|chwith|Ceunant Niagara]] |
Fersiwn yn ôl 19:50, 26 Tachwedd 2014
Rhaeadr enwog sy'n gorwedd ar y ffin rhwng Canada a'r Unol Daleithiau yw Rhaeadr Niagara (Saesneg:Niagara Falls; Ffrangeg: Chutes du Niagara). Mae'r enw 'Niagara' yn tarddu o'r gair Iroquois 'Onguiaahra' sydd yn golygu 'culfor'[1].
Mae'r rhaeadr, sydd mewn gwirionedd yn gyfres o 3 rhaeadrau cysylltiedig, ar Afon Niagara rhwng Llyn Erie a Llyn Ontario. Ar ei mwyaf mae'n 43m o uchder. Darganfuwyd y rheadr ym 1678 gan Ffrancwr, Tad Louis Hennepin.[2]. Mae tua 150,000 o galwyni o ddŵr yn llifo dros y rhaeadrau Americanaidd, a 600,000 o galwyni dros y rhaeadr Ganadiaidd[3] er ailgyfeiriwyd rhwng 50 a 75 y cant o'r dŵr i orsafoedd pŵer yn hytrach na dros y rhaeadrau. Parc Genedlaethol Rhaeadr Niagara yw'r un hynaf yn yr Unol Daleithiau[4]
Ceir dwy ddinas o'r enw Niagara Falls, yn wynebu ei gilydd dros yr afon, un ohonynt yn nhalaith Efrog Newydd a'r llall yn nhalaith Ontario, yn Canada. Cynhelir teithiau yng nghychod 'Maid of the Mist' ar waelod y rhaeadr, o'r ochr yr Unol Daleithiau.
Dyma rigwm T.H. Parry-Williams a gyfansoddodd ar ymweliad â'r llecyn ar ddechrau'r 1930au:
- 'Roedd enfys fore ar y tawch a'r stŵr
- Yng ngwynder dymchwel disgynfa'r dŵr,
- A'm llygaid innau'n ei chael yn eu tro
- Yn 'sgytwad na chollir o gorff na cho'.
- Ysigol yw gwyrthiau'r ddaear ar ddyn
- Pan fo hwnnw ar daith gydag ef ei hun.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
- [http://www.niagara-usa.com/ Gwefan Niagara (Unol Daleithiau)
- [http://niagarafallstourism.com/ Gwefan Niagara (Canada)