Trabzon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:View of Trabzon.jpg|250px|bawd|Golygfa dros Trabzon.]] |
[[Delwedd:View of Trabzon.jpg|250px|bawd|Golygfa dros Trabzon.]] |
||
[[Delwedd:Trabzon Caddesi.jpg|250px|bawd|Canol dinas Trabzon.]] |
[[Delwedd:Trabzon Caddesi.jpg|250px|bawd|Canol dinas Trabzon.]] |
||
[[Dinas]] hynafol ar arfordir y [[Môr Du]] yng ngogledd-ddwyrain [[Twrci]] yw '''Trabzon''' (hen enw: '''Trebizond''', o'r ffurf wreiddiol Τραπεζούντα). |
[[Dinas]] hynafol ar arfordir y [[Môr Du]] yng ngogledd-ddwyrain [[Twrci]] yw '''Trabzon''' (hen enw: '''Trebizond''', o'r ffurf wreiddiol Τραπεζούντα, yn tarddu o 'τράπεζα', sef 'banc' mewn Groeg). |
||
Mae Trabzon yn borthladd pwysig ac yn brifddinas [[Trabzon (talaith)|talaith Trabzon]]. |
Mae Trabzon yn borthladd pwysig ac yn brifddinas [[Trabzon (talaith)|talaith Trabzon]]. |
Fersiwn yn ôl 13:01, 20 Tachwedd 2014
Dinas hynafol ar arfordir y Môr Du yng ngogledd-ddwyrain Twrci yw Trabzon (hen enw: Trebizond, o'r ffurf wreiddiol Τραπεζούντα, yn tarddu o 'τράπεζα', sef 'banc' mewn Groeg).
Mae Trabzon yn borthladd pwysig ac yn brifddinas talaith Trabzon.
Hanes
Sefydlwyd y dref hynafol fel trefedigaeth gan Roegwyr o Filetus yn y 6ed ganrif CC. Ymsefydlasant ar graig geometraidd ei ffurf a roddodd iddi ei henw gwreiddiol Trapezos (y gair Groeg am "bwrdd"). Roedd hi'n ddinas bwysig yn y cyfnod Bysantaidd. O'r flwyddyn 1204 hyd 1461 Trebizond oedd prifddinas Ymerodraeth Trebizond a reolai ran sylweddol o Asia Leiaf. Erys sawl adeilad gwych o'r cyfnod hwnnw yn yr hen ddinas. Cofnodir i'r Pla Du gyrraedd y ddinas yn y flwyddyn 1347, ar ei ffordd i Ewrop. Cipiwyd Trebizond gan Mehmet y Cwncwerwr yn 1461.
Ar ymyl y ddinas mae hen eglwys Fyzantaidd Santa Sophia yn sefyll mewn lecyn prydferth.
Sefydlwyd prifysgol yno yn 1980.
Adeiladau a chofadeiladau
- Amgueddfa Trabzon
- Atatürk Köşkü
- Castell Trabzon
- Mosg Fatih
- Mosg Yeni Cuma
- Parc Boztepe
Enwogion
- Swleiman I (1494-1566), Swltan Ymerawdwr yr Otomaniaid
- Hayati Hamzaoğlu (1933-2000), actor
- Sunay Akın (g. 1962), bardd