Tal-y-bont, Ceredigion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ychwanegu categorïau
cyswllt i'r dudalen wahaniaethu
Llinell 22: Llinell 22:
|static_image_caption = Tal-y-bont, yn edrych tuag at aber afon [[Afon Dyfi|Dyfi]].
|static_image_caption = Tal-y-bont, yn edrych tuag at aber afon [[Afon Dyfi|Dyfi]].
}}
}}
:''Erthygl am y pentref yng Ngheredigion yw hon. Am ddefnydd arall o'r enw gweler [[Tal-y-bont]].''
Pentref yng ngogledd [[Ceredigion]] yw '''Tal-y-bont''' (hefyd '''Talybont'''). Fe'i lleolir ar y briffordd [[A487]] tua hanner ffordd rhwng [[Aberystwyth]] i'r de-orllewin a [[Machynlleth]] i'r gogledd-ddwyrain. Mae'n rhan o gymuned [[Ceulan-a-Maesmor]].
Pentref yng ngogledd [[Ceredigion]] yw '''Tal-y-bont''' (hefyd '''Talybont'''). Fe'i lleolir ar y briffordd [[A487]] tua hanner ffordd rhwng [[Aberystwyth]] i'r de-orllewin a [[Machynlleth]] i'r gogledd-ddwyrain. Mae'n rhan o gymuned [[Ceulan-a-Maesmor]].



Fersiwn yn ôl 22:28, 17 Tachwedd 2014

Cyfesurynnau: 52°28′49″N 3°58′46″W / 52.480272°N 3.979430°W / 52.480272; -3.979430
Tal-y-bont, Ceredigion

Tal-y-bont, yn edrych tuag at aber afon Dyfi.
Tal-y-bont is located in Ceredigion
Tal-y-bont

 Tal-y-bont yn: Ceredigion
Cyfeirnod grid yr AO SN6589
    - Caerdydd 90 mi (140 km) D-Dd 
Sir Ceredigion
Sir seremonïol Dyfed
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost TALYBONT
Rhanbarth cod post SY24
Cod deialu 01970
Heddlu Dyfed-Powys
Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Ceredigion
Cynulliad Cymru Ceredigion
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Ceredigion
Erthygl am y pentref yng Ngheredigion yw hon. Am ddefnydd arall o'r enw gweler Tal-y-bont.

Pentref yng ngogledd Ceredigion yw Tal-y-bont (hefyd Talybont). Fe'i lleolir ar y briffordd A487 tua hanner ffordd rhwng Aberystwyth i'r de-orllewin a Machynlleth i'r gogledd-ddwyrain. Mae'n rhan o gymuned Ceulan-a-Maesmor.

Saif ar lan Afon Leri a'r Afon Ceulan yn ardal Genau'r Glyn, wrth droed bryn Ceulan Maes-mawr (383m).

Hanes

Mae nifer o hen feini arian, plwm a melinau gwlan yn amgylchynu'r pentref. Er i arian a phlwm cael eu cloddio yno ers adeg y Rhufeiniaid, tyfodd y pentref yn gyflym tuag at ddiwedd y 19eg ganrif ac adeiladwyd nifer o'r terasau yn ystod y cyfnod hwn ar gyfer y gweithwyr a fewnfudodd i'r ardal. Mae nifer o'r tai, gan gynnwys y Fferyllfa yn adeiladau rhestredig ac felly'n dal i gadw nifer o nodweddion gwreiddiol deiniadol megis ffenestri ddalennog. Dim ond 35 o dai oedd yn Nhal-y-bont yn 1835, bythynod to gwellt oedd y rhan fwyaf o'r rhain.

Ar un adeg roedd 15 siop, garej, dau fanc a dau capel ac eglwys yn y pentref; adeiladwyd y Tabernacl yn 1812, ac Eglwys Dewi Sant yn 1909, mae hefyd Bethel, Capel yr Annibynwyr. Mae Neuadd Goffa er mwyn cofio'r rhai a laddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, agorwyd yn swyddogol ar 6 Awst 1924,[1] ni chaniateir yfed alcohol yn yr adeilad hwn. Cynhelir Ffair y Neuadd yn flynyddol ar ddiwedd pob mis Tachwedd.

Heddiw

Ers 1966 mae'r pentref wedi bod yn gartref i wasg Y Lolfa. Mae garej dal i fod yn y pentref yn ogystal a siop torri gwallt, feryllfa a siop fach 'Spar', sydd â cyfleusterau swyddfa bost ynddi. Datganwyd ym mis Hydref 2007, fod y swyddfa bost ar y rhestr o'r rhai sydd yn bwriadu cael eu cau, a credwyd y byddai'r siop yn anhebyg o allu ennill bywoliaeth heb allu cynnig gwasanaethau post.[2] Datganwyd ym mis Awst 2009 i'r swyddfa gael ei hachub wedi cryn ymgyrchu.[3]

Mae dwy dafarn yn Nhal-y-bont, Y Llew Gwyn a'r Llew Du. Delir sioe amaethyddol Tal-y-bont yn hen gaeau'r Llew Du yn flynyddol hyd heddiw. Mae'r tafarnau wedi dioddef cyfnod o newid dros yr ugain mlynedd diwethaf gan newid dwylo nifer o weithiau, yn bennaf gan cyn-drigolion o Lerpwl a Birmingham yn dilyn y freuddwyd o symud i'r wlad a rhedeg tafarn. Erbyn 2007, roedd y Llew Du a'r Llew Gwyn wedi dychwelyd i ddwylo trigolion lleol.[4]

Addysg

Lleolir Ysgol Gynradd Gymunedol Tal-y-bont yng ngogledd y pentref, mae'n ysgol Gymraeg sydd â tua 100 o ddisgyblion rhwng 4 ac 11 oed. Mae hefyd ysgol feithrin rhan amser sy'n cymryd plant iau, a chylch Ti a Fi pob prynhawn dydd Gwener.[5]

Diwylliant

Mae gan y bentref Gymdeithas yr Henoed, Clwb Ffermwyr Ifanc, Merched y Wawr a changen Plaid Cymru.

Mae papur bro Papur Pawb sy'n gweinyddu ardal Tal-y-bont, Taliesin a Tre'r Ddôl, yn cael ei olygu a'i argraffu yn y pentref.

Pobl o Dal-y-bont

Oriel

Cyfeiriadau

  1. Welsh Gazette, 7 Awst 1924
  2. Y Siop, Hydref 2007
  3.  Post: Achub cangen?. Newyddion BBC (17 Awst 2009).
  4.  Y Llew Du. Papur Pawb (Hydref 2007).
  5.  Mudiad Ysgolion Meithrin.

Dolenni allanol