Llandderfel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Cyfrifiad 2011: clean up, replaced: {{bar percent|:''Y ganran drwy Gymru''|grey|5}} → {{bar percent|:''Y ganran drwy Gymru''|grey|67.1}} using AWB
B cyswllt uniongyrchol i'r nod
Llinell 2: Llinell 2:
[[Delwedd:Llandderfel - geograph.org.uk - 65663.jpg|250px|bawd|Yr hen bont dros afon Dyfrdwy ger Llandderfel.]]
[[Delwedd:Llandderfel - geograph.org.uk - 65663.jpg|250px|bawd|Yr hen bont dros afon Dyfrdwy ger Llandderfel.]]
[[Delwedd:Yr Hen Ysgol - geograph.org.uk - 170965.jpg|250px|bawd|Llandderfel: adeilad yr hen ysgol.]]
[[Delwedd:Yr Hen Ysgol - geograph.org.uk - 170965.jpg|250px|bawd|Llandderfel: adeilad yr hen ysgol.]]
Pentref gwledig a chymuned yn nwyrain [[Gwynedd]] yw '''Llandderfel''', tua 3 milltir i'r dwyrain o'r [[Y Bala|Bala]]. Mae [[plwyf]] Llandderfel yn un o bump plwyf [[Penllyn]]. Mae'n gorwedd yn rhan uchaf [[Dyffryn Edeirnion]] yn agos i'r [[Sarnau]] a [[Cefnddwysarn|Chefnddwysarn]], wrth odre'r [[Berwyn]].
Pentref gwledig a chymuned yn nwyrain [[Gwynedd]] yw '''Llandderfel''', tua 3 milltir i'r dwyrain o'r [[Y Bala|Bala]]. Mae [[plwyf]] Llandderfel yn un o bump plwyf [[Penllyn]]. Mae'n gorwedd yn rhan uchaf [[Dyffryn Edeirnion]] yn agos i'r [[Sarnau, Gwynedd|Sarnau]] a [[Cefnddwysarn|Chefnddwysarn]], wrth odre'r [[Berwyn]].


==Hanes yr eglwys==
==Hanes yr eglwys==

Fersiwn yn ôl 20:55, 17 Tachwedd 2014

Cyfesurynnau: 52°55′19″N 3°30′58″W / 52.922°N 3.516°W / 52.922; -3.516

Yr hen bont dros afon Dyfrdwy ger Llandderfel.
Llandderfel: adeilad yr hen ysgol.

Pentref gwledig a chymuned yn nwyrain Gwynedd yw Llandderfel, tua 3 milltir i'r dwyrain o'r Bala. Mae plwyf Llandderfel yn un o bump plwyf Penllyn. Mae'n gorwedd yn rhan uchaf Dyffryn Edeirnion yn agos i'r Sarnau a Chefnddwysarn, wrth odre'r Berwyn.

Hanes yr eglwys

Mae eglwys Llandderfel yn hen ac wedi'i chysegru i Sant Derfel Gadarn (fl. 6ed ganrif efallai). Ceir yma ffenest liw nodedig iawn gan James Powell a'i fab, sy'n dyddion ôl i 1890.[1] Yn y porth gwelir ceffyl pren derw hynafol. Ar un adeg roedd y sant yn marchogaeth y ceffyl ond yn ystod y Diwygiad Protestannaidd cymerwyd delw'r sant a'i ffon a'u cludo i Lundain lle cawsent eu defnyddio i losgi offeiriad Catholig ar y Bryngwyn ar orchymyn Thomas Cromwell. Yn rhyfedd iawn roedd hyn yn cyflawni hen broffwydoliaeth y byddai'r ddelw ryw ddydd yn llosgi coedwig gyfan: enw'r offeiriad druan oedd 'Mr Forest'.

Roedd yn arfer gan y plwyfolion orymdeithio gyda'r sant ar ei geffyl pren i fyny i ben allt leol a elwir Bryn y Saint. Credid fod y ddelw'n gallu iachau'r claf. Ceir Ffynnon Dderfel ger yr eglwys.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llandderfel (pob oed) (1,095)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandderfel) (708)
  
67.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandderfel) (727)
  
66.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llandderfel) (131)
  
30%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

Cyfeiriadau

  1.  Church of St Derfel, Llandderfel, Gwynedd, formerly in Merioneth. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 5 Mai 2012.
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.