Llyfrgell Brydeinig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
dileu is nodyn diangen |
Ham II (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith yn Llundain]] |
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith yn Llundain]] |
||
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith 1997]] |
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith 1997]] |
||
[[Categori:Llyfrgelloedd cenedlaethol| |
[[Categori:Llyfrgelloedd cenedlaethol|Prydain]] |
||
[[Categori:Llyfrgelloedd Lloegr|Brydeinig]] |
[[Categori:Llyfrgelloedd Lloegr|Brydeinig]] |
||
[[Categori:Llundain]] |
[[Categori:Llundain]] |
Fersiwn yn ôl 17:43, 12 Tachwedd 2014
Llyfrgell genedlaethol y Deyrnas Unedig ydy'r Llyfrgell Brydeinig.[1] Lleolir y llyfrgell yn St. Pancras, Llundain. Mae'n un o lyfrgelloedd ymchwil pwysica'r byd; yn dal dro 150 miliwn o eitemau ym mhob iaith a fformat;[2] llyfrau, newyddiaduron, papurau newydd, cylchgronnau, recordiau sain a cherddoriaeth, breinleni, basau data, mapiau, stampiau, argraffiadau, darluniau a llawer mwy, gan ei wneud yn gasgliad mwya'r byd. Mae casgliadau'r llyfrgell yn cynnwys tua 14 miliwn o lyfrau,[3][4] ynghyd a casgliad ychwanegol o lawysgrifau sylweddol ac eitemau hanesyddol yn dyddio'n ôl i 2000 CC.
Llawysgrifau Cymraeg
Cedwir sawl llawysgrif Gymraeg yn y Llyfrgell Brydeinig. Gwaddolwyd y rhan fwyaf ohonynt i'r llyfrgell gan y Gwyneddigion yn hanner cyntaf y 19eg ganrif, yn y dyddiau cyn sefydlu Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Maent yn cynnwys casgliadau'r Morysiaid, yn cynnwys rhai yn llaw Lewis Morris ei hun, ac eraill a gasglwyd gan Owain Myfyr ac aelodau eraill o'r gymdeithas, sy'n cynnwys sawl llawysgrif ganoloesol hefyd.
Cyfeiriadau
- ↑ Reitz, Joan M. (2004). Dictionary for Library and Information Science. Libraries Unlimited. t. 103. ISBN 978-1-59158-075-1.
- ↑ "Collection Development Policy". British Library. Cyrchwyd 2011-01-15.
- ↑ "The British Library; Explore the world's knowledge". British Library. Cyrchwyd 2010-04-12.
- ↑ Encyclopædia Britannica Article: British Library