William Henry Preece: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:Q2140313 |
→Cyfeiriadau: Awdurdod |
||
Llinell 16: | Llinell 16: | ||
[[Categori:Marwolaethau 1913]] |
[[Categori:Marwolaethau 1913]] |
||
[[Categori:Pobl o Gaernarfon]] |
[[Categori:Pobl o Gaernarfon]] |
||
{{Authority control}} |
Fersiwn yn ôl 05:23, 8 Tachwedd 2014
Peiriannydd o fri, arloeswr yn natblygiad y teliffon, pennaeth y Swyddfa Bost, a mentor i Guglielmo Marconi oedd y Cymro William Henry Preece (15 Chwefror 1834 – 6 Tachwedd 1913).[1] Ym mis Mai, 1897, danfonodd Marconi signal radio o Drwyn Larnog yn ne Cymru i Ynys Echni, dair milltir i ffwrdd ym Môr Hafren. Profodd hyn y gallai radio weithio dros ddŵr yn ogystal â thir a defnyddiwyd yr wybodaeth hon yn ymarferol gan longau ar y môr oedd am gysylltu â'r tir mawr. Preece oedd prif gynorthwyydd Marconi. Ym 1892 roedd Preece wedi defnyddio'r lleoliad hwn ar gyfer ei arbrofion ef ei hun.[2]
Yn enedigol o Gaernarfon aeth i Ysgol King's College yng Nghaergrawnt, Coleg King's College, Llundain ac yna'r Royal Institution o dan Michael Faraday. Ym 1901, anfonodd Marconi signalau radio o Gernyw i Newfoundland, Canada.
Ychydig wedi hynny adeiladodd Marconi orsaf radio bwerus yn Waunfawr ger Caernarfon. Er i'w ymdrechion ef ei hun i ddatblygu system radio dros bellter fethu, roedd ei gymorth i Marconi'n allweddol yn natblygiad cyfathrebu torfol.
Cyfeiriadau
- ↑ Llên Natur; Rhif 69 Tachwedd 2013
- ↑ Arwyr Cymru adalwyd 08 Tachwedd 2013