Tenzin Gyatso, 14eg Dalai Lama: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
9cfilorux (sgwrs | cyfraniadau)
B pennawd lefel 2
Awdurdod
Llinell 5: Llinell 5:
Ar ôl arwyddo, dan bwysau milwrol, [[Cytundeb 17 Pwynt]] [[1951]], ffodd o Dibet i [[India]] ar ôl methiant [[gwrthryfel Tibetaidd 1959]]. Yn India bu ganddo ran flaenllaw mewn sefdydlu [[Gweinyddiaeth Ganolog Tibet]] fel llywodraeth alltud a cheisio diogelu diwylliant Tibet ac addysg Dibeteg i'r miloedd o Dibetiaid a ffoes i India.

Mewn alltudiaeth, mae'r Dalai Lama wedi teithio'n eang yn y byd Gorllewinol - y Dalai Lamai cyntaf i wneud hynny - ac wedi cysegru ei fywyd i hyrwyddo achos cenedlaethol Tibet ac ymledu dealltwriaeth o Fwdhaeth. Mae'n siaradwr cyhoeddus penigamp. Yn ei ddysgeidiaeth mae'n pwysleisio cydberthynas pobl y byd, cyfrifoldeb pobl i wella'r byd sydd ohoni, moesoldeb seciwlar, a chytgord crefyddol.

== Dolenni allanol ==
== Dolenni allanol ==
Llinell 18: Llinell 18:
{{bocs olyniaeth | cyn = [[Thubten Gyatso, 13eg Dalai Lama|Thubten Gyatso]] | teitl = [[Dalai Lama]] | blynyddoedd = [[1935]] – ''heddiw'' | ar ôl = ''dal i deyrnasu''}}
{{bocs olyniaeth | cyn = [[Thubten Gyatso, 13eg Dalai Lama|Thubten Gyatso]] | teitl = [[Dalai Lama]] | blynyddoedd = [[1935]] – ''heddiw'' | ar ôl = ''dal i deyrnasu''}}
{{diwedd-bocs}}
{{diwedd-bocs}}
{{eginyn Tibet}}
{{eginyn Bwdhaeth}}

{{Cyswllt erthygl ddethol|he}}
{{Cyswllt erthygl ddethol|he}}
Llinell 28: Llinell 26:
[[Categori:Genedigaethau 1935]]
[[Categori:Genedigaethau 1935]]
[[Categori:Llenorion Tibeteg]]
[[Categori:Llenorion Tibeteg]]

{{eginyn Tibet}}
{{eginyn Bwdhaeth}}

{{Authority control}}

Fersiwn yn ôl 05:02, 8 Tachwedd 2014

Jetsun Jamphel Ngawang Lobsang Yeshe Tenzin Gyatso (enw genedigol Llhamo Döndrub; Tibeteg: ལྷ་མོ་དོན་འགྲུབ་ Lha-mo Don-'grub) (ganed 6 Gorffennaf 1935 yn Qinghai, Tibet), yw'r 14eg Dalai Lama, gan olynu Thubten Gyatso. Mae'r Dalai Lama yn arweinydd ysbrydol uchel ei barch gan y Tibetiaid sydd â dylanwad mawr dros yr Ysgol Gelug, cangen o Bwdhiaeth Tibet. Mae'n bennaeth llywodraeth alltud Tibet yn Dharamsala, India. Enillodd Wobr Heddwch Nobel yn 1989. Ef yw'r mynach Bwdhaidd mwyaf adnabyddus yn y byd. Fodd bynnag, mae llywodraeth Gweriniaeth Pobl China, sy'n llywodraethu Tibet, yn gwrthod ei hawl i gynrychioli pobl y wlad honno.

Ganed Tenzin Gyatso y pumed o 16 o blant mewn teulu o ffermwyr ym mhentref Taktser, yn nhalaith Qinghai, lle siaradai y dafodiaith Tibeteg Amdo fel ei iaith gyntaf. Cafodd ei gyhoeddi yn tulku (ailenedigaeth) y 13eg Dalai Lama dwy flynedd ar ôl ei eni yn 1935. Ar 17 Tachwedd 1950, yn bymtheg oed, cafodd ei orseddu fel Dalai Lama Tibet, gan ddod felly yn arweinydd gwleidyddol a chrefyddol pwysicaf y wlad honno. Digwyddodd hynny cwta un mis yn unig ar ôl i Byddin Rhyddhad y Bobl (y PLA) ddechrau goresgyn Tibet.

Ar ôl arwyddo, dan bwysau milwrol, Cytundeb 17 Pwynt 1951, ffodd o Dibet i India ar ôl methiant gwrthryfel Tibetaidd 1959. Yn India bu ganddo ran flaenllaw mewn sefdydlu Gweinyddiaeth Ganolog Tibet fel llywodraeth alltud a cheisio diogelu diwylliant Tibet ac addysg Dibeteg i'r miloedd o Dibetiaid a ffoes i India.

Mewn alltudiaeth, mae'r Dalai Lama wedi teithio'n eang yn y byd Gorllewinol - y Dalai Lamai cyntaf i wneud hynny - ac wedi cysegru ei fywyd i hyrwyddo achos cenedlaethol Tibet ac ymledu dealltwriaeth o Fwdhaeth. Mae'n siaradwr cyhoeddus penigamp. Yn ei ddysgeidiaeth mae'n pwysleisio cydberthynas pobl y byd, cyfrifoldeb pobl i wella'r byd sydd ohoni, moesoldeb seciwlar, a chytgord crefyddol.

Dolenni allanol

Gweler hefyd

Rhagflaenydd:
Thubten Gyatso
Dalai Lama
1935heddiw
Olynydd:
dal i deyrnasu

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol

Eginyn erthygl sydd uchod am Dibet. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am Fwdhaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.