Lucius Cornelius Sulla: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ffynonellau using AWB
Awdurdod
Llinell 3: Llinell 3:
Cadfridog, gwleidydd a ''[[dictator]]'' [[Gweriniaeth Rhufain|Rhufeinig]] oedd '''Lucius Cornelius Sulla Felix'''(tua [[138 CC]] - [[78 CC]]).

Roedd teulu Sulla, y Cornelii, o dras uchel, ond wedi mynd yn dlawd erbyn iddo ef gael ei eni. Dywedir iddo dreulio ei ieuenctid ymhlith pobl o safle gymdeithasol isel, yn enwedig actorion, ac iddo ddechrau carwriaeth a'r actor [[Metrobius]] a barhaodd trwy ei oes.

Yn 107 CC, penodwyd Sulla i swydd [[quaestor]] i gynorthwyo [[Gaius Marius]], oedd wedi ei ethol yn [[Conswl Rhufeinig|gonswl]] am y flwyddyn. Cafodd Marius y dasg o arwain byddin Rhufain yn y rhyfel yn erbyn [[Jugurtha]], brenin [[Numidia]] yng ngogledd Affrica. Llwyddodd i orchfygu Jugurtha, i raddau helaeth oherwydd i Sulla berswadio [[Bocchus]], brenin [[Mauretania]], i fradychu Jugurtha, oedd wedi ffoi ato am gymorth. Rhwng [[104 CC]] a [[101 CC]] bu'n ymladd gyda Marius yn erbyn llwythau Almaenig y [[Cimbri]] a'r [[Teutones]], a bu ganddo ran amlwg ym muddugoliaeth [[Brwydr Vercellae]].

Etholwyd ef i swydd ''[[Praetor]] urbanus'' yn 97 CC, a'r flwyddyn wedyn roedd yn ''[[proconsul|pro consule]]'' talaith [[Cilicia]] (yn [[Anatolia]]). Dychwelodd i Rufain tua [[93 CC]], ac ochrodd gyda'r ''[[Optimates]]'' yn erbyn Gaius Marius. Yn 92 CC gyrrodd Sulla [[Tigranes Fawr]], brenin [[Armenia]], o [[Cappadocia]].

Llinell 12: Llinell 12:
Wedi brwydr ger [[Nola]], dyfarnwyd iddo y ''Corona Obsidionalis'' neu'r ''Corona Graminea'' ("[[Coron Laswellt]]"), a roddid i gadfridog Rhufeinig oedd wedi achub lleng neu fyddin trwy ei ddewrder personol mewn brwydr.

Roedd Sulla i fod i arwain byddin Rufeinig i'r dwyrain i ymladd yn erbyn [[Mithridates VI, brenin Pontus]], ond roedd Marius, er ei fod bellach yn heneiddio, yn dymuno cymeryd ei le. Bu ymladd yn Rhufain, a gadawodd Sulla y ddinas a ffoi at ei filwyr. Dychwelodd Sulla i Rufain gyda chwe lleng, a chipio grym. Ffodd Marius i Ogledd Affrica, ac yng ngwanwyn 87 CC glaniodd Sulla yn Dyrrachium i ddechrau ymgyrch yn erbyn Mithridates. Cipiodd ddinas [[Athen]] ac yn [[86 CC]] enillodd frwydr fawr dros Archelaus, cadfridog Mithridates, ym [[Brwydr Chaeronea (86 CC)|Mrwydr Chaeronea]], yna bu'n fuddugoliaethus eto ym [[Brwydr Orchomenos|Mrwydr Orchomenos]].

Wedi i Sulla adael am y dwyrain, roedd Marius a [[Lucius Cornelius Cinna]] wedi cipio grym yn Rhufain, er i Marius farw yn fuan wedyn. Gwnaeth Sulla heddwch a Mithridates a dychwelyd i Rufain, lle gorchfygodd gefnogwyr Marius. Ar ddechrau [[81 CC]], apwyntiwyd Sulla i swydd ''dictator'' gan [[Senedd Rhufain]], gan ddod yn feistr ar y ddinas a holl diriogaethau Rhufain heblaw [[Sbaen]], lle roedd [[Quintus Sertorius]] wedi cipio grym. Dywedir i Sulla ddienyddio tua 1,500 o uchelwyr Rhufain, ac i tua 9,000 o bobl farw i gyd. Un o'r rhai a orfodwyd i ffoi o'r ddinas oedd [[Iŵl Cesar]]; roedd gwraig Marius yn fodryb iddo.

Llinell 25: Llinell 25:
[[Categori:Marwolaethau 78 CC|Sulla, Lucius Cornelius]]

[[Categori:Gweriniaeth Rhufain|Sulla, Lucius Cornelius]]

{{Authority control}}

Fersiwn yn ôl 03:44, 8 Tachwedd 2014

Cerflun o Sulla yn y Glyptothek, München.

Cadfridog, gwleidydd a dictator Rhufeinig oedd Lucius Cornelius Sulla Felix(tua 138 CC - 78 CC).

Roedd teulu Sulla, y Cornelii, o dras uchel, ond wedi mynd yn dlawd erbyn iddo ef gael ei eni. Dywedir iddo dreulio ei ieuenctid ymhlith pobl o safle gymdeithasol isel, yn enwedig actorion, ac iddo ddechrau carwriaeth a'r actor Metrobius a barhaodd trwy ei oes.

Yn 107 CC, penodwyd Sulla i swydd quaestor i gynorthwyo Gaius Marius, oedd wedi ei ethol yn gonswl am y flwyddyn. Cafodd Marius y dasg o arwain byddin Rhufain yn y rhyfel yn erbyn Jugurtha, brenin Numidia yng ngogledd Affrica. Llwyddodd i orchfygu Jugurtha, i raddau helaeth oherwydd i Sulla berswadio Bocchus, brenin Mauretania, i fradychu Jugurtha, oedd wedi ffoi ato am gymorth. Rhwng 104 CC a 101 CC bu'n ymladd gyda Marius yn erbyn llwythau Almaenig y Cimbri a'r Teutones, a bu ganddo ran amlwg ym muddugoliaeth Brwydr Vercellae.

Etholwyd ef i swydd Praetor urbanus yn 97 CC, a'r flwyddyn wedyn roedd yn pro consule talaith Cilicia (yn Anatolia). Dychwelodd i Rufain tua 93 CC, ac ochrodd gyda'r Optimates yn erbyn Gaius Marius. Yn 92 CC gyrrodd Sulla Tigranes Fawr, brenin Armenia, o Cappadocia.

Yn 91 CC dechreoudd Rhyfel y Cyngheiriaid (91–87 C) rhwng Rhufain a'i cyngheiriaid Eidalaidd, oedd yn ceisio gorfodi Rhufain i roi hawliau llawn iddynt. Enillodd Sulla nifer o fuddugoliaethau, yn cynnwys cipio Aeclanum. Yn 88 CC, etholwyd ef yn gonswl am y tro cyntaf. Wedi brwydr ger Nola, dyfarnwyd iddo y Corona Obsidionalis neu'r Corona Graminea ("Coron Laswellt"), a roddid i gadfridog Rhufeinig oedd wedi achub lleng neu fyddin trwy ei ddewrder personol mewn brwydr.

Roedd Sulla i fod i arwain byddin Rufeinig i'r dwyrain i ymladd yn erbyn Mithridates VI, brenin Pontus, ond roedd Marius, er ei fod bellach yn heneiddio, yn dymuno cymeryd ei le. Bu ymladd yn Rhufain, a gadawodd Sulla y ddinas a ffoi at ei filwyr. Dychwelodd Sulla i Rufain gyda chwe lleng, a chipio grym. Ffodd Marius i Ogledd Affrica, ac yng ngwanwyn 87 CC glaniodd Sulla yn Dyrrachium i ddechrau ymgyrch yn erbyn Mithridates. Cipiodd ddinas Athen ac yn 86 CC enillodd frwydr fawr dros Archelaus, cadfridog Mithridates, ym Mrwydr Chaeronea, yna bu'n fuddugoliaethus eto ym Mrwydr Orchomenos.

Wedi i Sulla adael am y dwyrain, roedd Marius a Lucius Cornelius Cinna wedi cipio grym yn Rhufain, er i Marius farw yn fuan wedyn. Gwnaeth Sulla heddwch a Mithridates a dychwelyd i Rufain, lle gorchfygodd gefnogwyr Marius. Ar ddechrau 81 CC, apwyntiwyd Sulla i swydd dictator gan Senedd Rhufain, gan ddod yn feistr ar y ddinas a holl diriogaethau Rhufain heblaw Sbaen, lle roedd Quintus Sertorius wedi cipio grym. Dywedir i Sulla ddienyddio tua 1,500 o uchelwyr Rhufain, ac i tua 9,000 o bobl farw i gyd. Un o'r rhai a orfodwyd i ffoi o'r ddinas oedd Iŵl Cesar; roedd gwraig Marius yn fodryb iddo.

Bu Sulla yn gyfrifol am nifer o newidiadau, gan gynyddu maint y senedd o 300 aelod i 600, a'i gwneud yn amhosibl i neb oedd wedi dal swydd tribwn i ddal unrhyw swydd arall. Wedi bod mewn grym am ddwy flynedd, ymddiswyddodd Sulla fel dictator yn 79 CC er mawr syndod i bawb, ac aeth i fyw i'w fila ger Puteoli. Bu farw yno y flwyddyn ddilynol.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol