Leonardo da Vinci: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
CommonsDelinker (sgwrs | cyfraniadau)
B Yn gosod File:Leonardo_da_Vinci_-_presumed_self-portrait_-_WGA12798.jpg yn lle Leonardo_da_Vinci_-_Self-Portrait_-_WGA12798.jpg (gan Rillke achos: File renamed: [[commons:COM:FR#reasons|File renaming crite...
Awdurdod
Llinell 1: Llinell 1:
{{Unigolyn_marw|enw=Leonardo da Vinci|galwedigaeth=Arlunydd a dyfeisiwr|delwedd=[[Delwedd:Leonardo_da_Vinci_-_presumed_self-portrait_-_WGA12798.jpg|200px]]|dyddiad_geni=[[15 Ebrill]] [[1452]]|lleoliad_geni=[[Vinci]], [[Yr Eidal]]|dyddiad_marw=[[21 Mehefin]] [[1519]]|lleoliad_marw=[[Amboise]], [[Ffrainc]]}}
{{Unigolyn_marw|enw=Leonardo da Vinci|galwedigaeth=Arlunydd a dyfeisiwr|delwedd=[[Delwedd:Leonardo da Vinci - presumed self-portrait - WGA12798.jpg|200px]]|dyddiad_geni=[[15 Ebrill]] [[1452]]|lleoliad_geni=[[Vinci]], [[Yr Eidal]]|dyddiad_marw=[[21 Mehefin]] [[1519]]|lleoliad_marw=[[Amboise]], [[Ffrainc]]}}


[[Arlunydd]], dyfeisiwr, cerddor ac athrylith cyffredinol oedd '''Leonardo da Vinci''' ([[15 Ebrill]], [[1452]] - [[2 Mai]], [[1519]]). Mae Leonardo yn enwocaf am beintiadau maestrolgar megis y ''[[Mona Lisa]]'' a'r ''[[Y Swper Olaf (Leonardo)|Swper Olaf]]'' ac am ei ddyfeisiadau sydd yn rhagflaenwyr ar gyfer technoleg modern.
[[Arlunydd]], dyfeisiwr, cerddor ac athrylith cyffredinol oedd '''Leonardo da Vinci''' ([[15 Ebrill]], [[1452]] - [[2 Mai]], [[1519]]). Mae Leonardo yn enwocaf am beintiadau maestrolgar megis y ''[[Mona Lisa]]'' a'r ''[[Y Swper Olaf (Leonardo)|Swper Olaf]]'' ac am ei ddyfeisiadau sydd yn rhagflaenwyr ar gyfer technoleg modern.
Llinell 23: Llinell 23:
== Cysylltiau Allanol ==
== Cysylltiau Allanol ==
* {{eicon en}} [http://www.malarze.walhalla.pl/galeria.php5?art=47 '''Art Gallery''' - Leonardo da Vinci]
* {{eicon en}} [http://www.malarze.walhalla.pl/galeria.php5?art=47 '''Art Gallery''' - Leonardo da Vinci]

{{eginyn Eidalwyr}}


{{Cyswllt erthygl ddethol|bg}}
{{Cyswllt erthygl ddethol|bg}}
Llinell 41: Llinell 39:
[[Categori:Marwolaethau 1519|Leonardo da Vinci]]
[[Categori:Marwolaethau 1519|Leonardo da Vinci]]
[[Categori:Leonardo da Vinci]]
[[Categori:Leonardo da Vinci]]


{{eginyn Eidalwyr}}

{{Authority control}}

Fersiwn yn ôl 03:38, 8 Tachwedd 2014

Leonardo da Vinci
Arlunydd a dyfeisiwr
Geni:
 
15 Ebrill 1452
   Vinci, Yr Eidal
Marw:
 
21 Mehefin 1519
   Amboise, Ffrainc

Arlunydd, dyfeisiwr, cerddor ac athrylith cyffredinol oedd Leonardo da Vinci (15 Ebrill, 1452 - 2 Mai, 1519). Mae Leonardo yn enwocaf am beintiadau maestrolgar megis y Mona Lisa a'r Swper Olaf ac am ei ddyfeisiadau sydd yn rhagflaenwyr ar gyfer technoleg modern.

Bywyd a gyrfa cynnar

Cafodd Leonardo ei eni mewn ffermdy ger pentref bychan Anchiano, tua 3 km o dref Vinci yn yr Eidal. Roedd yn blentyn gordderch i gyfreithiwr ifanc o'r enw Ser Piero da Vinci a, mae'n debyg, merch gwerin o'r enw Caterina. Tyfodd Leonardo i fyny gyda'i dad yn Fflorens lle dechreuodd dynnu lluniau a peintio, wedi'i ysbrydoli gan natur a thirwedd ardal Toscana. Roedd ei luniau cynnar o ansawdd mor uchel dechreuodd ei aprentisiaeth gyda'r peintiwr a cherfluniwr Andrea del Verrocchio yn 14 mlwydd oed.

Y peintiad cyntaf y gallwn fod yn sicr bod Leonardo wedi cyfrannu ato yng ngweithdy Verrocchio oedd Bedydd Crist [1]. Cyfraniad Leonardo oedd yr angel ar y chwith, sydd yn fwy real na phrif gymeriadau'r llun, sef Iesu Grist a Ioan Fedyddiwr, a'u peintiwyd gan ei athro. Yn ôl y chwedl, ni fentrodd Verrocchio beintio byth eto ar ôl i dalent ei ddisgybl ragori ar ei allu ei hunan.

Y Gwyddonydd a'r dyfeisydd

Anatomi

Sgetsis yn dyddio nôl i 1510 gan yr arlunydd a'r dyfeisydd Leonardo da Vinci.

Dechreuodd ei brentisiaeth ffurfiol mewn anatomi wrth draed Andrea del Verrocchio, ei athro a fynnodd fod pob un o'i ddisgyblion yn astudio anatomi cyn mynd ati i ddysgu arlunio. Daeth da Vinci'n feistr ar anatomi gweledol gan ymarfer y cyhyrau, y tendonau a ffurfiau eraill y corff.

Oherwydd ei lwyddiant fel arlunydd, cafodd yr hawl i weithio ar gyrff marw yn Ysbyty Santa Maria Nuova yn Florence, Milan a Rhufain, gan agor y cyrff i weld sut roedd y cyhyrau ac organau mewnol yn gorwedd ac yn gweithio. Gweithiodd gyda meddyg (Marcantonio della Torre) rhwng 1510 a 1511 gan gydlunio papur ar anatomi a oedd yn cynnwys dros 200 o'i luniau. Fe'i cyhoeddwyd yn 1680 (161 blwyddyn wedi'i farwolaeth).

Y Dyfeisydd

Cynllun o beiriant hedfan, (c. 1488) Institut de France, Paris

Yn ystod ei oes, roedd leonardo'n cael ei barchu'n fawr fel peiriannydd galluog iawn. Mewn llythyr at Ludovico il Moro honodd y gallai greu pob math o beiriannau i ymosod ac i amddiffyn tref. Pan ddihangodd i Fenis yn 1499 cafodd waith fel peiriannydd i gynllunio amddiffynfeydd i'r ddinas, rhag ymosodiadau. Mae ei bapurau'n orlawn o bob math o ddyfeiadau a oedd o flaen eu hamser ac sy'n cynnwys offerynau cerdd newydd, y pwmp hydrolig, cannon a weithiau gyda stem a'r hofrenydd.

Cysylltiau Allanol

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol


Baner yr EidalEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Eidalwr neu Eidales. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.