Konrad Adenauer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat |
Awdurdod |
||
Llinell 15: | Llinell 15: | ||
[[Categori:Marwolaethau 1967]] |
[[Categori:Marwolaethau 1967]] |
||
[[Categori:Meiri Cwlen]] |
[[Categori:Meiri Cwlen]] |
||
{{Authority control}} |
Fersiwn yn ôl 03:35, 8 Tachwedd 2014
Canghellor cyntaf Gorllewin yr Almaen yn y cyfnod wedi'r Ail Ryfel Byd, o 1949 hyd 1963 oedd Konrad Hermann Josef Adenauer (5 Ionawr 1876 — 19 Ebrill 1967). Roedd yn aelod o blaid ganol-dde y CDU. Ei lysenw oedd Der Alte ("Yr Hen Wr").
Ganed Konrad Adenauer yn ninas Cwlen, ac astudiodd y gyfraith yn Freiburg a Bonn. Ym 1917 daeth yn faer Cwlen, swydd a ddaliodd hyd 1933.
Daeth i wrthdrawiad â'r Natsïaid pan ddaethant i rym, a ffôdd i Abaty Maria Laach lle cafodd gynhaliaeth. Treuliodd beth amser fel carcharor mewn gwersylloedd crynhoi.
Daeth Adenauer yn gadeirydd y blaid CDU wedi'r Ail Ryfel Byd, ac yn Ganghellor ym 1949 pan oedd yn 73 oed. Ymddeolodd fel Canghellor ym 1963, ond parhaodd yn gadeirydd y CDU hyd 1966.