Johann Heinrich Füssli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Legobot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 27 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q122382 (translate me) |
→Dolenni allanol: Awdurdod |
||
Llinell 19: | Llinell 19: | ||
[[Categori:Arlunwyr Seisnig]] |
[[Categori:Arlunwyr Seisnig]] |
||
[[Categori:Darlunwyr]] |
[[Categori:Darlunwyr]] |
||
{{Authority control}} |
Fersiwn yn ôl 03:17, 8 Tachwedd 2014
Arlunydd ac awdur ar gelf o'r Swistir oedd Johann Heinrich Füssli (7 Chwefror, 1741 – 17 Ebrill, 1825), a ymsefydlodd yn Lloegr lle daeth yn adnabyddus wrth yr enw Henry Fuseli, enw a fabwysiadodd tra'n gweithio yn yr Eidal yn y 1770au. Roedd yn frodor o Zürich.
Ganed Füssli yn Zurich yn 1741 yn fab i'r peintiwr portreadau Johann Caspar Füssli (1706-1782). Ganed ei frawd Johann Kaspar (1743-1786) ddwy flynedd yn ddiweddarach a daeth yn entomolegydd adnabyddus.
Nodweddir peintiadau a darluniau Füssli gan arddull dyrchafol, delfrydol, a ysbrydolwyd gan waith Michelangelo ac eraill. Prif destunau ei waith yw digwyddiadau mawr mewn hanes a themau mytholegol, yn enwedig o fytholeg yr Henfyd.
Yn Lloegr daeth Füssli yn ffigwr dylanwadol iawn ym myd celf. Yn 1799 cafodd ei apwyntio yn athro arlunio yn yr Academi Frenhinol, Llundain, ac yn geidwad yn 1804. Ymhlith ei ddisgyblion yn yr Academi roedd John Constable (1776-1837), Benjamin Robert Haydon (1786-1846), William Etty (1787-1849), Edwin Landseer (1802-73), a'r Cymro Penry Williams (1880-1885).