Henri de La Tour d’Auvergne, vicomte de Turenne: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 19: Llinell 19:
[[Categori:Milwyr Ffrengig]]
[[Categori:Milwyr Ffrengig]]
[[Categori:Pobl o Ardennes]]
[[Categori:Pobl o Ardennes]]

{{Authority control}}

Fersiwn yn ôl 02:52, 8 Tachwedd 2014

Turenne.

Cadfridog Ffrengig yn y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain oedd Henri de La Tour d'Auvergne, vicomte de Turenne, a adnabyddir fel rheol fel Turenne (11 Medi 1611 - 27 Gorffennaf 1675).

Bywgraffiad

Ganed Turenne yn Sedan, Ardennes, yn awr yn nwyrain Ffrainc ond yr adeg honno yn dywysogaeth annibynnol. Roedd yn ail fab i Henri de La Tour d'Auvergne, tywysog Sedan a'i wraig Elisabeth o Nassau. Magwyd ef fel Protestant, ond troes at yr Eglwys Gatholig yn 1668.

Yn 1630, daeth yn filwr dros Ffrainc. Yn fuan roedd wedi codi i safle marechal-de-camp, ac yn 1643 penodwyd ef yn Farsial, yna yn 1660 yn Farsial-cyffredinol Ffrainc, un o ddim ond chwech person i ddal y teil yma erioed.

Roedd Turenne yn un o gadfridogion amlycaf y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, ac ennillodd nifer o fuddigoliaethau pwysig. Lladdwyd ef bron ar ddechrau Brwydr Salzbach yn 1675.

Cyfeiriadau