C.P.D. Porthmadog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Arwel Parry (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 12: Llinell 12:
| tymor = 2006-07
| tymor = 2006-07
| safle = 11eg
| safle = 11eg
| pattern_la1=|pattern_b1=_blackstripes|pattern_ra1=|
leftarm1=000000|body1=FF0000|rightarm1=000000|shorts1=000000|socks1=#FF0000|
pattern_la2=|pattern_b2=|pattern_ra2=|
leftarm2=FFFFFF|body2=FFFFFF|rightarm2=FFFFFF|shorts2=000000|socks2=#FF0000|
}}
}}
Tim sy'n chwarae yn [[Cynghrair Cymru|Uwchgynghrair Principality Cymru]] ydi '''Clwb Pêl Droed Porthmadog''' ([[Saesneg]]: ''Porthmadog Football Club'');
Tim sy'n chwarae yn [[Cynghrair Cymru|Uwchgynghrair Principality Cymru]] ydi '''Clwb Pêl Droed Porthmadog''' ([[Saesneg]]: ''Porthmadog Football Club'');

Fersiwn yn ôl 00:05, 25 Mehefin 2007

C.P.D. Porthmadog
Enw llawn Clwb Pêl-droed Porthmadog
Llysenw(au) Port
Sefydlwyd 1884
Maes Y Traeth, Porthmadog, Gwynedd, Cymru
Cadeirydd Phil Jones
Rheolwr Osian Roberts
Cynghrair Cynghrair Cymru
2006-07 11eg

Tim sy'n chwarae yn Uwchgynghrair Principality Cymru ydi Clwb Pêl Droed Porthmadog (Saesneg: Porthmadog Football Club);

Ffurfiwyd Clwb Pêl Droed Porthmadog yn 1884, sydd yn ei wneud yn un o glybiau hynaf Cymru. Yn 1900 ymunodd y clwb â Chynghrair Gogledd Cymru ac fe enillodd y tim y gynghrair hon yn 1902/03.

Roedd y 1950au, 1960au a'r 1970au yn gyfnod llwyddiannus iawn i Port. Enillwyd Cwpan Amatur Cymru yn 1955/56 ac 1956/57. Ar ôl colli'r statws amatur, ac arwyddo Mel Charles, daeth llwyddiant i'r Traeth unwaith eto. Yn 1966, chwaraewyd yn erbyn Abertawe yng Nghwpan Cymru ac, yn yr ail-chwarae ar y Vetch, denwyd torf mwyaf y tymor i Abertawe - 10,941. Enillwyd Cynghrair Cymru (Gogledd) ar 5 achlysur mewn 9 mlynedd.

Bu'n rhaid aros nes 1989/90 am bencampwriaeth nesaf Port, pan enillwyd y Daily Post Welsh Alliance. Roedd y llwyddiant hwn yn ddigon i hawlio lle Port fel aelodau gwreiddiol o Gynghrair y Cynghrair Undebol yn 1990, ac yn 1992 daeth Port yn aelodau gwreiddiol o Gynghrair Cymru (Cynghrair Konica ar y pryd).

Er fod gwaith da wedi ei gwblhau i sicrhau fod y stadiwm yn cyrraedd y safonnau angenrheidiol, ei chael hi'n anodd wnaeth Port ar y cae yn ystod eu tymor cyntaf. Serch hynny, helpodd rhediad gwych, ar ddiwedd y tymor, i newid pethau; enillodd Meilir Owen wobr rheolwr y mis a gorffenodd Port yn y nawfed safle. Roedd llawer o'r diolch, am y llwyddiant hwyr, i ychwanegiad yr ymosodwr Dave Taylor i'r garfan wrth iddo rwydo'n rheolaidd. Aeth Dave ymlaen, yn ei ail dymor, i fod yn brif sgoriwr y Gynghrair ac hefyd Ewrop. Yn ystod ei gyfnod yn y clwb, sgoriodd 62 o gôliau mewn 66 gêm.

Er i Marc Lloyd-Williams a Dave Taylor rwydo 70 o goliau yn nhymor 1993-4, anghyson iawn fu canlyniadau'r clwb wrth iddynt orffen yn yr 11eg safle. Llwyddodd Port, serch hynny, i dorri record arall, sef torf ucha'r Gynghrair Cenedlaethol. Wrth i Fangor wthio am y gynghrair, daeth torf o 2,900 i weld y gêm holl-bwysig hon. Ar y noson, enillodd Bangor o 2-0 ac felly ennill y Gynghrair a chael yr hawl i gystadlu yn Ewrop.

Dechreuwyd y trydydd tymor gyda rheolwr newydd. Gwnaed y penderfyniad syfrdanol i ddi-swyddo Meilir Owen fel rheolwr y clwb. Daeth cyn chwaraewr Cymru, Ian Edwards i gymryd yr awennau ond, ar ôl dechrau da, yr un oedd ei dynged o ar ôl disgyn o'r pedwerydd safle. Aeth pethau o ddrwg i waeth ar ôl i Mickey Thomas, cyn chwaraewr Man Utd, Wrecsam a Chymru, gymryd drosodd. Bu bron i'w dîm costus fynd i lawr ond, gyda chymorth Colin Hawkins, fe lwyddodd y tim i aros i fyny o drwch blewyn.

Dechreuodd y pedwerydd tymor gyda newid arall yn swydd y rheolwr. Cafodd Colin Hawkins ei ddyrchafu i swydd y rheolwr. Ar y cae roedd hwn yn dymor di-gynnwrf. Ond, ni ellir dweud hyn am y digwyddiadau oddi-ar y cae. Bu bron i'r trafferthion ariannol dybryd olygu diwedd y clwb ond, diolch i waith caled y cyfarwyddwyr, cafodd y clwb ei ail lansio fel cwmni cyfyngedig. Codwyd bron i £10,000 o bunnoedd drwy werthu cyfrandaliadau, a daeth pres ychwanegol o gemau cyfeillgar, fel rhai yn erbyn Blackburn Rovers F.C. a Thim sêr S4C.

Yn 1996/97, gyda'r sefyllfa ariannol yn llawer gwell, cafodd y tim ddechrau anhygoel o dda i'r tymor. Ni gollwyd gêm gartref tan y flwyddyn newydd a, phan ddaeth y Bari i'r Traeth, roedd yn gêm rhwng ail a phedwerydd, gyda dim ond gwhaniaeth goliau yn ei gwahanu. Un o'r chwaraewyr, a gyfranodd fwyaf at y dechreuad hwn, oedd Paul Roberts. Cyn gadael y clwb i ymuno â Wrecsam am £10,000, roedd wedi chwarae i dim dan-21 Cymru ac hefyd yn brif sgoriwr y gynghrair. Yn wir, daeth ei gyfle i chwarae i'r Cymry ifanc, ar ôl iddo helpu Port i'w curo mewn gêm gyfeillgar [Port 1:0 Cymru U21].

Ar ôl ymadawiad Paul, newidiodd tymor Port yn gyfangwbl, wrth i'r tîm orffen y tymor yn y degfed safle. Gorffennwyd y tymor gyda buddigoliaeth dros Gaernarfon yn rownd derfynnol Cwpan Her Arfordir y Gogledd, gyda Port yn trechu Bangor a Bae Colwyn mewn rowndiau cynharach.

Yn 1997/98, daeth diwedd i gyfnod Port yng Nghyngrair Cymru. Er fod Port yn ymddangos yn ddiogel ar ddiwedd Ebrill, profodd res o gêmau anodd ym mis Mai yn ormod o sialens i'r clwb. Penderfynwyd tynged Port ar yr ail o Fai ar Ffordd Ffara, Bangor. Gyda gêmau Port wedi eu cwblhau, rhaid oedd gobeithio y gallai Bangor guro Hwlffordd. Y sgôr terfynnol yn y gêm hon oedd Bangor 1, Hwlffordd 2 - gorffennodd Port yn 4ydd o'r gwaelod.

Ond, roedd llygedyn o obaith y byddai'r penderfyniad, o yrru Port i'r Gynghrair Undebol yn cael ei wyrdroi, gyda achos cyfreithiol yn erbyn y Gynghrair yn cael ei ystyried. Honwyd fod y penderfyniad, i yrru pedwar clwb i lawr, wedi ei gymryd yn ystod y flwyddyn a'i fod felly'n anghyfreithlon. Pan gafodd Glyn Ebwy eu di-arddel, teimlai Port fod y frwydr wedi ei hennill. Ond gorfodwyd Port i ymuno â'r Cymru Alliance, oherwydd apêl munud olaf y clwb o Went.

Ar ôl bod yn yr ail safle am ran helaeth o dymor 1998/99, aeth pethau ar chwâl yn y flwyddyn newydd, gyda'r newyddion na fyddai Port yn cael eu dyrchafu, oherwydd diffyg cyfleusterau. Roedd hyn yn ergyd fawr a wthiodd Port i orffen yng nghanol y tabl. Enillwyd ychydig o barch, wrth iddynt gipio Cwpan y Gynghrair ar ôl curo Rhydymwyn yn y rownd derfynnol. Siom hefyd oedd tymor 1999-2000, gyda'r clwb yn gorffen yn y 5ed safle, a hynny er rhediad o fuddigoliaethau ar ôl i Viv Williams godi'r awennau yn dilyn ymadawiad Colin Hawkins. Yn dilyn tymor siomedig arall yn 2000-1, gwelwyd y clwb yn cymryd camau pendant ymlaen wrth i Viv adeiladu tim newydd dros dymor 2001-2, gan godi gobeithion y cefnogwyr fod y dyddiau da ar fin dychwelyd i'r Traeth.

Doedd y dyddiau da ddim yn rhy bell, wrth i Port fynd yn eu blaen i gael un o’r tymhorau gorau yn eu hanes yn 2002-03. Enillwyd pob gêm gartref trwy gydol y tymor, gyda’r unig ddwy gêm iddynt golli yn dod ar ôl iddynt sicrhau dyrchafiad mewn buddugoliaeth 3-2 oddi cartref yn Bwcle. Dyrchafwyd Port i Uwchgynghrair Cymru gyda mantais o 19 pwynt ar frig y Gynghrair Undebol. Ond doedd pethau ddim wastad yn edrych mor syml a hynny gyda Port yn cael eu cyhuddo o chwarae Richard Harvey heb ganiatâd rhyngwladol ar ôl ei arwyddo o Cemaes. Yn y pen draw daethpwyd i’r penderfyniad mae dim ond yn dechnegol euog oedd Port gan ei fod wedi chwarae yng Nghymru am dymor cyn iddynt ei arwyddo. Rhoddodd ryddhad y penderfyniad hwb i Port ac aethant ymlaen i ychwanegu dwy gwpan (Cwpan Her y Gogledd a Chwpan y Gynghrair) at eu llwyddiannau.

Cysylltiad allanol

Gwefan

Uwch Gynghrair Cymru, 2021–2022

Aberystwyth | Caernarfon | Cei Connah | Derwyddon Cefn | Hwlffordd | Met Caerdydd |
Pen-y-Bont | Y Bala | Y Barri | Y Drenewydd | Y Fflint | Y Seintiau Newydd